Iöb 18

18
XVIII.
1Yna yr attebodd Bildad y Shwhiad, a dywedodd,
2 # 18:2 Iöb a’r lleill Pa hŷd y gosodwch chwi faglau am ymadroddion?
Byddwch ddeallus, a chwedi’n ni a lefarwn.
3 # 12:7; 17:4, 10. Pa ham y cyfrifir ni fel bwystfil,
Y’n distewir yn eich golwg #18:3 Iöb a’i fathchwi?
4 # 16:9. (Tydi), yr hwn sy’n rhwygo ei hun yn ei ddigllonedd,
# 18:4 y newidir trefn natur, yn ol yr hon y mae cospedigaeth yn gyssylltiedig â phechod. Ai er dy fwyn di yr anghyfanneddir y ddaear,
Ac y symmudir y graig o’i lle?
5Ië, goleuni yr annuwiolion a ddiffydd,
Ac ni lewyrcha ffagl ei dân ef;
6Y goleuni a dywylla yn ei babell ef,
A’i lamp #18:6 yn hongian oddi wrth goryn y babell.uwch ei ben ef a ddiffydd;
7Fe #18:7 O herwydd diffyg goleuni.gyfyngir ei gamrau cadarn,
A chwyrn-dafla ei gynghor ei hun ef;
8Canys gyrrir ef i rwyd â’i draed,
Ac ar rwydwaith y rhodia efe;
9Fe ymeifl magl yn (ei) sawdl (ef),
Fe grafanga plethlinyn arno;
10Cuddiedig yn y ddaear (yw) ei hoenyn ef,
A’i yslepan ar y llwybr:
11Oddi amgylch y brawycha dychryniadau ef,
Ac a’i gyrrant ef yma ac acw, yn ei ysgil ef:
12Newynu (am dano ef) y mae ei anffawd,
A dinystr (sydd) barod am ei gwymp ef:
13Bwytta aelodau ei groen ef,
Bwytta ei aelodau, y mae cyntaf-anedig angau:
14Rhwygir ef allan o’i babell, ei hyder,
Ac (ei fraw) a’i haraf-arwain at frenhin dychryniadau;
15(Braw) a drig yn ei babell ef — nid (mwyach) yn eiddo iddo, —
# 1:16. Gwasgerir ar ei annedd ef frwmstan;
16Oddi tanodd ei wraidd a sychant,
Ac oddi uchod y gwywa ei gangen;
17Ei goffadwriaeth a ddistrywir oddi ar y ddaear,
A diffyg enw (fydd) iddo ar wyneb y maes;
18(Dynion) a’i cilgwthiant ef o oleuni i dywyllwch,
Ac allan o’r tir a’i hymlidiant ef;
19Ni (bydd) iddo hil nac eppil ym mysg ei bobl,
Nac un dïangol yn ei drigfannau;
20 # 18:20 dydd ei ymweliad Am ei ddydd ef fe synna ’r rhai i ddyfod,
A’r #18:20 ei gyfoesolionrhai o’u blaen hwy, echrys a ymeifl arnynt.
21Yn unig o’r fath hon (y bydd) trigleoedd y drygionus,
Ac o’r fath hon le’r hwn a ddiystyro Dduw.

Tans Gekies:

Iöb 18: CTB

Kleurmerk

Deel

Kopieer

None

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan