Marc 9
9
Iesu'n câl i altro
1-13Wedi whech dwarnod fe gwmrodd Iesu Pedr, Iago a Ioan, a mynd â nhwy lan i ben mini uchel ar u penne u hunen. A fan'ny fe gas‐e i altro o flân u lliged nhwy a fe âth i ddillad e i sheino i gyd, a'n sobor o wyn; galle neb ar i ddeiar u neud nhwy mor wyn â 'ny. A fe ddâth Eleias a Moses i'r golwg a sharad 'da Iesu, a wên‐nhwy'n galler gweld i cifan. Whap tima Pedr in gweud, “Mishtir, ma'n gwd peth in bo ni ma! Gâd i ni godi tri lle i chi gisgodi: un i ti, un i Moses a un i Eleias.” Wedd‐e ddim in gwbod beth i weud achos we ofon ofnadw arnon nhwy. Dâth cwmwl dros u penne nhwy, a dâth llaish o'r cwmwl, “Tima'n unig Grwt i, a'ng Ngrwt annwil i; grondwch arno fe.” Wedyn fe ddrichon‐nhwy rownd a wên‐nhwy'n ffeilu gweld neb ond Iesu ar ben i unan.
Wrth 'on nhwy ddwâd lawr o'r mini gwedodd Iesu wrthon nhwy beido gweud wrth neb beth wen nhwy wedi gweld, ddim hyd nes bo Crwt i Dyn wedi codi o farw. Silwon nhwy ar beth wedodd‐e, a sharad rhynt i gily beth we ‘codi o farw’ in goligu. Gofinon nhwy iddo fe, “Pam ma'r rhei sy'n disgu'r Gifreth in gweud bo raid i Eseia ddwâd ginta?” Gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Ma raid i Eseia ddwâd ginta a rhoi trefen ar bopeth. A beth sy wedi câl i reito am grwt i Dyn? Wel mae e'n gweud bo raid iddo fe odde lot a câl hi'n wâl ofnadw? Ond dwi'n gweu‐'tho chi bo Eleias wedi dwâd in barod, a nethon‐nhwy fel wên‐nhwy moyn dag e, jwst fel gas i reito amdano fe.”
Gwella'r crwt â isbryd drwg indo fe
14-29Pan ddethon‐nhwy at i disgiblion erill gwelon‐nhwy growd mowr rown 'ddon nhwy, a we'r rhei we'n disgu'r Gifreth in pledo 'da nhwy. Sinodd i crowd i gyd wrth weld Iesu, a rhedon‐nhwy ato i gifarch e. Gofinodd‐e iddon nhwy, “Obitu beth ŷch‐chi'n pledo 'da nhwy?” Atebodd un o'r crowd, “Mishtir, dwi wedi dwâd a'ng grwt ato ti; ma isbryd indo fe sy'n stopo fe sharad. Ma'r isbryd in i dowlu fe i'r llawr pam mae‐e'n gafel indo fe, mae'i ben e'n ffrothan, mae e'n crenshan i ddane a mynd in stiff i gyd. Gofines‐i i di ddisgiblion di i hala'r isbryd mas, on wên‐nhwy'n ffeilu deg â neud 'ny.” Atebodd‐e nhwy, “O ŷch‐chi'n genhedleth sy ddim in credu! Faint mor hir fidda‐i 'da chi? Faint mor hir bydd aminedd 'da fi i chi? Dewch â'r crwt ata i.” Dethon‐nhwy ag e ato fe. A pan welodd ir isbryd Iesu, tima fe'n i shiglo'r crwt i gyd nes bo fe'n cwmpo ar i llawr, rhowlo obitu, a ffroth in i ben e i gyd. Gofinodd Iesu i dad i crwt, “Am faint mor hir ma hyn wedi bod in digwydd iddo fe?” Gwedodd‐e, “Ddar i fod e'n grwt bach, a ma'r isbryd wedi treial i ladd e sawl gwaith wrth i dowlu fe i'r tân neu i'r dŵr. Ond os wit ti'n galler neud unriwbeth, bydd â drenu droston ni a helpa ni.” Gwedo Iesu wrtho fe, “‘Os wit‐ti'n galler’! Ma rhiwun sy'n credu in galler neud popeth.” Wedyn fe weiddodd i dad e mas, “Dwi in credu. Os nadi'n ffydd i'n ddigon cryf, helpa fi gredu.” Pan welo Iesu bo crowd in rhedeg ato fe, sharadodd‐e'n blaen 'da'r isbryd drwg, a gweu‐'tho fe, “Ti isbryd sy'n stopo'r crwt ma i sharad a cliwed, dwi'n ordro ti, dere mas ono fe a paid mind miwn iddo fe byth 'to.” Gweiddodd ir isbryd mas in uchel, shiglo'r crwt i gyd a dwâd mas ono fe. Âth i crwt fel rhiwun we wedi marw, fel bo rhan fwya o'r crowd in gweud i fod e wedi marw in iawn. Ond cijodd Iesu in i law e a'i godi e; a safodd‐e lan. Pan ddâth Iesu getre gofinodd i ddisgiblion iddo fe pan wên‐nhwy ar benne u hunen, “Pam wenon‐ni'n galler hala'r isbryd 'na mas?” Gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Gall i short na o isbryd ddim dwâd mas wrth neud ddim byd, on 'da gweddi.”
Iesu'n gweud shwrne 'to bo fe'n mynd i gâl i ladd
30-32Gadon‐nhwy'r lle 'na a mynd trw Galilea. Wedd‐e ddim am i unriwun wbod, achos wedd‐e'n disgu'r disgiblion. Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Ma Crwt i Dyn in mynd i gâl i roi in nwylo dinion. Biddan‐nhwy in i ladd e, a pan fydd‐e wedi câl i ladd bydd‐e'n codi in fyw 'to ar ôl tri dwarnod.” Wenon‐nhwy'n diall beth wedd‐e'n gweud a we ofon arnon nhwy ofyn iddo fe.
Pwy yw'r mwya?
33-37Dethon‐nhwy i Gapernaum. Pan we Iesu in i tŷ gofinodd‐e iddon nhwy, “Beth wêch‐chi'n sharad obitu ar ir hewl?” Wedon‐nhwy ddim byd, achos ar ir hewl wên‐nhwy'n sharad da'i gily pwy onon nhwy we'r pwysica. Ishteddod Iesu lawr a galwodd‐e'r douddeg ato fe a gweu‐'thon nhwy, “Os wes rhiwun ishe bod in ginta rhaid 'ddo fod in ddiwetha i gyd a'n was i bob un arall.” Cwmrodd‐e blentyn a'i roi e i sefyll o'u blân nhwy. Wedyn fe gwmrodd‐e'r plentyn in i freiche a gweu‐'thon nhwy, “Ma unryw un sy'n rhoi croeso i blentyn bach fel hyn in in enw i in rhoi croeso i fi; a ma unryw un sy'n rhoi croeso i fi, ddim in rhoi croeso i fi, ond in rhoi croeso i'r un sy wedi'n hala i.”
'Da Iesu neu'n i erbyn e
38-41Gwedodd Ioan wrtho fe, “Mishtir, gwelon‐ni rywun in hala cithreiled mas in di enw di. Dreion‐ni i stopo fe achos wedd‐e ddim in di ddilyn di 'da ni.” Gwedodd Iesu, “Peidwch treial i stopo fe, achos gall neb sy'n neud pethe mowr in in enw i weud pethe drwg amdana i whap wedyn. Ma unryw un sy ddim in in herbyn ni ar in hochor ni. Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, os wes rhiwun in rhoi dished o ddŵr i chi ifed achos bo chi'n perthyn i'r Meseia fydd‐e ddim heb i wobor.”
Peido hala rhei erill i bechu
42-50“Os bydd unryw un in hala i un o'r rhei bach ma sy'n credu inda i i bechu, bidde'n well 'ddo fe os bise fe wedi câl i dowlu miwn i'r môr â carreg falu wedi'i glwmu rownd i wddwg e. Os ma di law di in hala i ti bechu, torra hi bant. Ma‐i'n well i ti find miwn i fowyd wedi câl dolur, na mynd â dwy law da ti miwn i dân uffern sy'n llosgi am byth, (lle ma'r mwydyn in u bita nhwy am byth a ma'r tân in llosgi am byth.). Os ma di drwed di'n hala ti i bechu, torra hi bant. Ma‐i'n well mind miwn i fowyd in hercan, na câl di dowlu da dwy drwed miwn i dân uffern, (lle ma'r mwydyn in u bita nhwy am byth a ma'r tân in llosgi am byth.). Os ma di ligad di in hala ti i bechu, tynn e mas. Ma‐i'n lot gwell mind miwn i Deyrnas Duw 'da un lligad, na câl di dowlu â dou ligad miwn i dân uffern, lle ma'r mwydyn in u bita nhwy am byth a'r tân in llosgi am byth. Fe geith bob un i halltu 'da tân. Ma halen in gwd thing; ond os collith‐e'i flas, shwt allwch chi gâl i flas e nôl? Biddwch â halen indoch chi'ch hunen, a wedyn fe fiddwch in gitûn dach gily.”
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies