Marc 10
10
Iesu'n disgu obitu difôrs
1-12Gadodd‐e'r lle 'ny a dâth e i wlad Jiwdea a ochor bella afon Iorddonen. A shwrne 'to casglodd i crowde rownd 'ddo, a shwrne 'to fe ddisgodd‐e nhwy, fel wedd‐e'n arfer neud. Dâth rhei Ffariseied ato fe, a gofinon‐nhwy iddo fe os wedd‐i'n iawn i ddyn gâl difôrs wrth i wraig. Nethon‐nhwy hyn i desto fe. Atebodd e, “Beth wedo Moses wrthoch chi?” Gwedon nhwy, “We Moses in gadel i ddyn reito llithyr i ddiforso'i wraig a wedyn i hala hi bant.” Wedyn gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Pan reitodd e'r gorchimyn 'na i chi, wedde e'n neud 'ny wrth gofio mor galed we'ch calonne chi i ddisgu dim byd. Achos o ddachre'r gredigeth nâth Duw i ddinolieth in wryw a menyw. Achos 'ny ma'n rhaid i'r gŵr madel â'i dad a'i fam a mynd at i wraig, a bydd i ddou in dwâd in un corff. Ddim dou ŷn‐nhwy wedyn, ond un corff. So wedyn ddile ddim un dyn rannu beth ma Duw wedi dwâd at i gily.” Pan wên‐nhwy nôl in i tŷ lweth, gofinodd i disgiblion iddo fe obitu hyn. Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Ma'r dyn sy'n diforso'i wraig a'n priodi gwraig arall in godinebu in i herbyn hi; a os ma hi'n diforso'i gŵr a'n priodi gŵr arall ma hi'n godinebu 'fyd.”
Iesu a'r plant bach
13-16We dinion in dwâd â plant bach ato fe in unswydd iddo fe gâl twtsh â nhwy. On fe sharadodd i disgiblion in gas 'da'r rhei we'n dwâd â'r plant ato fe, on pan welo Iesu beth we'r disgiblion in neud wedd‐e'n grac 'da nhwy, a wedodd‐e, “Gadwch i'r plant ddwâd ata i. Peidwch u stopo nhwy, achos rhei fel hyn sy pia Teyrnas Duw. Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, os nadi dyn in derbyn Teyrnas Duw jwst fel ma plentyn bach in i neud eith e byth miwn 'ddi.” Cwmrodd‐e nhwy in i freiche, rhoi'i ddwylo arnyn nhwy, a rhoi i fendith iddon nhwy.
I dyn ifanc abal
17-31Wrth'o ddwâd mas i'r hewl in barod i fynd ar jant rhedodd dyn lan ato fe, penlinio o'i flân e a gofyn i cwestjwn ma iddo fe, “Mishtir da, be dw‐i fod i neud i gâl byw am byth?” Gwedodd Iesu wrtho fe, “Pam wit‐ti'n galw fi'n dda? Sneb in dda, na wes, neb on Duw. Ti'n gwbod i gorchminion: ‘Peida lladd neb, Peida godinebu, Peida dwgyd, Peida gweud celwy am ddinion, Peida twyllo neb, Parcha di dad a di fam.’ ” Gwedodd i dyn wrtho fe, “Mishtir, dw‐i wedi cadw rheina i gyd es wen‐i'n whilgrwt”. Drichodd Iesu reit i fyw i liged e, a wedd‐e'n llawn cariad ato fe, a gweu‐'tho, “Ma ishe i ti neud un peth. Cer a gwertha popeth sy 'da ti a rho'r arian i'r dinion llwm, a bydd trisor i ti in i nefodd; wedyn dere a'n ddilyn i.” Cwmpodd gwep i dyn pan gliwodd‐e hyn a âth‐e bant in drist, achos wedd‐e'n berchen lot fowr o bethe.
Drichodd Iesu rownd a gweu‐'th i ddisgiblon, “Na galed fydd‐i i rheiny sy â arian da nhwy find miwn i Deyrnas Duw!” We'r disgiblion wedi'u sinnu i gliwed i eire fe. Gwedo Iesu wrthon nhwy weth, “In blant i, ma‐i'n galed iawn mind miwn i Deyrnas Duw! Mae'n rwyddach i gamel fynd trw ligad nedwy nadi ddyn abal fynd miwn i Deyrnas Duw.” Wên‐nhwy wedi'u sinnu'n ofnadw a gwedon‐nhwy wrth i gily, “Wel wedyn 'te pwy gall gâl i achub?” Drichodd Iesu arnon nhwy a gweu‐'tho nhwy, “Seno dinion in galler i neud e, on ma Duw in galler i neud e, achos ma Duw in galler neud pob peth.”
Wrth i gliwed e'n gweud 'ny gwedodd Pedr wrtho fe, “Beth amdanon ni? Ŷn‐ni wedi gadel popeth i di ddilyn di.” Gwedodd Iesu, “Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, sneb i gâl sy wedi gadel tŷ, brodyr, whiorydd, mame, tade, plant neu dirôdd er mwyn ir Ifingyl, na fiddan‐nhwy'n câl canweth gwmint nôl nawr in i byd 'ma (in dai, brodyr, whiorydd, mame, plant a tirôdd), a bowyd am byth in i byd sy ddwâd. Ond in i byd ma 'fyd fe gewn‐nhwy erledigeth. Bydd lot o ddinion sy ginta nawr in ddwetha wedyn, a bydd i dwetha in ginta.”
Iesu'n gweud shwrne to i fod e'n mynd i gâl i ladd
32-34Wên‐nhwy ar u ffordd lan i Jeriwsalem, a we Iesu in mynd o'u blân nhwy. Wenon‐nhwy diall beth we'n digwydd in iawn, a we ofon ar rhei; ond wên‐nhwy'n i ddilyn e o hyd. Cwmrodd‐e'r Douddeg i un ochor a gweu‐'thon nhwy beth we'n mynd i ddigwydd iddo fe. “Grondwch”, medde fe, “ŷn‐ni'n mynd lan i Jeriwsalem, a bydd Crwt i Dyn in câl i roi in dwylo'r penffeiradon a'r rhei sy'n disgu'r Gifreth. Biddan‐nhwy in i gondemo fe i farw a'n i roi e i'r Rhufeinied. Fe geith e'i watwar, bowran‐nhwy arno fe, i whipo fe, a'i ladd e. A wedi tri dwarnod fe godith e in fyw siwrne 'to.”
Iago a Ioan in gofyn am ffafor 'da Iesu
35-45Dâth Iago a Ioan, dou grwt Sebedeus, ato fe a gofyn 'ddo fe, “Mishtir, ŷn‐ni moyn i ti neud rhwbeth i ni.” Gofinodd‐e, “Beth ŷch chi moyn i fi neud i chi?”
Gwedon‐nhwy, “Gad i un ono ni ishte ar di ochor dde di a'r llall ar di ochor with di in di ogoniant.” “Senoch‐chi'n gwbod be 'chi'n gofyn” wedo Iesu wrthon nhwy.
“Gallwch chi ifed o'r cwpan bidda i'n ifed ono fe, neu gâl ich bididdio da'r bedydd bidda i'n câl i fididdio dag e?” Atebon nhwy, “Gallwn ni.” Gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Ma'n wir biddwch chi'n ifed o'r cwpan dwi'n ifed ono fe, a biddwwch chi'n câl ich bididdio da'r bedydd dwi'n câl in fididdio dag e, ond ddim in fusnes i yw gweud gallwch chi ishte ar in ochor dde ac ar in ochor with i, achos ma'r llefydd ny i'r rhei man‐nhwy wedi câl u baratoi ar u cifer nhwy.”
Pan gliwodd i deg hyn wên‐nhwy'n grac da Iago a Ioan. So galwo Iesu arnon nhwy a gweu'thon nhwy, “Ŷch chi'n gwbod shwt ma'r rhei sy'n meddwl bo nhwy'n rhedeg pethe in blith i paganied in i neud. Ma nhwy'n i lordo hi dros i lleill, in meddwl bo nhwy'n bobol fowr â hawl 'da nhwy dros bob un arall. Seni fel na 'da chi; os ma unrhyw un ishe bod in ddyn mowr 'da chi wedyn rhaid 'ddo fe fod in was i chi, a os ma unrhyw un am fod in i lle cinta in 'da chi wedyn rhaid 'ddo fe fod in geithwas i bob un. Achos ddâth ddim hyd 'n‐ôd Crwt i Dyn i gâl dinion i ddrich ar i ôl e, ond i ddrich ar ôl dinion erill, a rhoi i fowyd i dalu am lot o bobol.”
Gwella Bartimeus
46-52Dethon‐nhwy i Jerico. A fel wedd‐e'n gadel Jerico gida'i ddisgiblion a crowd mowr, we dyn we'n dewyll, Bartimeus crwt Timeus, in ishte'n begian wrth ochor ir hewl. Pan gliwodd‐e taw Iesu o Nasareth wê 'na, gweiddodd‐e a gweud, “Iesu, Crwt Dafydd, dongos drenu drosta i.” Gwedodd lot wrtho'n gas i gau'i ben, on gweiddi'n uchelach nâth‐e, “Crwt Dafydd, dongos drenu drosta i.” Safodd Iesu in stond a gweud, “Gwedwch wrtho fe ddwâd 'ma.” Galwon nhwy‐ar i dyn we'n dewyll, a gweud‐'tho fe, “Coda di galon! Sâf ar di drâd; mae e'n gofyn amdano ti.” Towlodd‐e 'i got bant, jwmpo lan a dwâd at Iesu. Gwedodd Iesu wrtho fe, “Be ti moyn i fi neud i ti?” Gwedo'r dyn we'n dewyll wrtho fe, “Rabwni, ga‐fi weld shwrne to.” Gwedo Iesu wrtho fe, “Cer, ma di ffydd wedi di wella di.” Gath i dyn i olwg nôl a dilinodd e Iesu wrth'o fynd ar ir hewl.
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies