Marc 6
6
Iesu'n mynd nôl i Nasareth
1-5Gadodd Iesu'r ardal 'na a dwâd i'r dre lle wedd‐e wedi câl i fagu, a dilinodd i ddisgiblion e. Pan ddâth dy' Saboth dachreuodd‐e ddisgu in i sinagog, a we'r rhan fwya we 'na in sinnu wrth i gliwed e a gwedon‐nhwy, “O ble ma'r dyn ma'n câl i pethe 'ma? Beth ma'r dyn 'ma wedi câl sy'n gadel iddo fe neud shwt bethe mowr? Ddim i sâr yw hwn, crwt Mair a brawd Iago, Joses, Jiwdas a Seimon? Sino'i wiorydd e 'ma 'da ni?” A wên‐nhwy'n pallu i dderbyn e achos beth wedd‐e'n i weud. Gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Ma proffwyd in câl parch in bobman ond in lle gâs‐e'i fagu, 'da'i dilwith a in i dŷ i hunan.” Wedd‐e'n ffeilu neud unrhw beth mowr fan'yn, on fe nâth‐e roi i ddwylo ar rei dinion we ddim in dda a'n u gwella nhwy. Wedd‐e'n sinnu at u diffyg ffydd nhwy.
Hala'r douddeg mas i bregethu
6-13Âth‐e rownd i pentrefi in disgu. Wedyn galwodd‐e'r Douddeg ato fe a dachre u hala nhwy mas bob in ddou. Roiodd‐e'r hawl iddon nhwy dros isbridion drwg. Roiodd‐e ordors iddon nhwy beido mynd â dim byd 'da nhwy ar i jant ond pastwn — dim bara, dim bag, dim arian in u pwtsys. Wên‐nhwy i wishgo sgidje ond wenon‐nhwy i wishgo dou grys. Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Ble binnag ewch‐chi miwn i ryw dŷ, aroswch na nes bo chi'n mynd mlân i rywle arall. A os gewch‐chi ddim croeso 'da dinion, neu os na rondan‐nhwy arnoch chi miwn lle, gadwch i lle a wrth fynd shiglwch i dwst bant o'ch trâde i ddangos beth ŷch‐chi'n meddwl amdanon nhwy.” Ethon‐nhwy bant a prigethu bo rhaid i bobol ddifaru; a fe halon‐nhwy lot o githreiled mas o ddinion, a gwellon‐nhwy lot o ddinion tost wrth allwish oil arnyn nhwy.
Lladd Ioan Fididdiwr
14-29Cliwodd i Brenin Herod am hyn, achos we enw Iesu wedi dwâd in nabiddus. We rhei pobol in gweud, “Ma Ioan Fediddiwr wedi dwâd in fyw 'to, a 'na pam mae‐e'n neud pethe mowr.” We dinion erill in gweud, “Eleias yw‐e”; a dinion erill 'to, “Proffwd yw‐e fel we gâl slawer dy'”. On pan gliwodd Herod gwedodd‐e, “Ma Ioan, i dyn dorres i i ben e bant, wedi dwâd nôl in fyw.”
Nawr ir Herod ma we wedi hala dinion i aresto Ioan a'i gloi fe lan in i shâl. Nâth‐e 'ny achos Herodias, gwraig Ffilip i frawd e. We Herod wedi'i phriodi hi, a we Ioan wedi gweu‐'tho fe, “Sini'n iawn i ti briodi gwraig di frawd.” Weno Herodias in galler haru Ioan achos bo fe wedi gweud hyn, a wedd‐i am i ladd e; ond wedd‐i'n ffeilu, achos we ofon Ioan ar Herod. We'i ofon e ar Herod achos wedd‐e'n gwbod bo Ioan in ddyn da a sanctedd, a achos 'ny wedd‐e'n cadw Ioan in sâff. We Herod in grondo arno fe'n prigethu in amal a we'r pethe wedd‐e'n i weud in i hala fe i bendroni; on wedyn weth wedd‐e'n leico 'i gliwed e. Dâth shans Herodias pan gâs Herod barti ar i benblwydd. Dâth dinion pwysig i llys, ir armi a'r bobol fowr o Galilea, i'r parti 'ma. Dâth i roces e, rhoces Herodias, miwn a dawnso o'u bleine nhwy, a enjoiodd Herod a bobun arall we 'dag e. Enjoiodd Herod shwt gwmint fel wedodd‐e wrth i roces, “Gofina di am beth binnag wit ti moyn da fi; a fe roia i e i ti.” Addawodd e iddi hi, “Roia i beth bennag wit‐ti'n gofyn i fi amdano i ti, lan i hanner in deyrnas i os wit‐ti moyn.” Âth i roces mas a gweu‐'th i mam, “Beth ddilen‐i ofyn amdano?” Gwedodd‐i, “Pen Ioan Fididdiwr.” Âth i roces miwn ar unweth at i brenin a gweud, “Dwi moyn i ti roi pen Ioan Fediddiwr ar blat i fi, nawr.” Gâs i brenin shwt i shoc; ond achos i addewid, a we'r rhei we'n ishte wrth i ford 'dag e wedi'i gliwed e'n neud i addewid, nâth‐e ddim peido roi beth wedd‐i moyn iddi. Halodd i brenin un o'r sowldiwrs o'r palas 'da ordors i ddwâd â pen Ioan ato fe. Âth‐e a torri pen Ioan bant in i shâl, a dâth‐e a'i ben e ar blat a'r roi fe i'r roces. Wedyn fe roiodd i roces pen Ioan i'w mam hi. Pan gliwodd disgiblion Ioan am hyn fe ddethon‐nhwy a mynd â'i gorff e a'i roi e miwn twm.
Bwydo pum mil o ddinion
30-44Dâth ir apostolion nôl at Iesu, a gweu‐'tho fe am bopeth wên‐nhwy wedi'u neud a'u disgu. Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Dewch bant i le tawel ar ben ich unen i chi gâl whê fan'ny am damed”; achos we shwt gwmint o fynd a dwâd, fel wenon‐nhwy wedi câl cifle i fita bwyd hyd 'n‐ôd. So ethon‐nhwy bant in i cwch i le unig ar ben u hunen. On gwelo lot o ddinion nhwy'n mynd, a'u nhabod nhwy, a gerddon nhwy i gyd mas 'na ar hast, a dwâd i ble wên‐nhwy'n mynd o'u blân nhwy. Pan ddâth‐e mas o'r cwch, 'na gyd welodd‐e we crowd mowr; a achos bo nhwy fel defed heb fugel fe gâs‐e drenu droston nhwy a disgodd‐e lot o bethe iddon nhwy. Wedd‐i'n hwyr pan ddâth i ddisgiblion ato fe a gweud, “Ma'r lle 'ma'n bell o bobman, a ma‐i'n ddiweddar. Hal nhwy bant, fel bo nhwy'n galler mynd i'r ffermydd a'r pentrefi sy bitu'r lle i bernu rwbeth i fita.” Atebodd Iesu, “Rhoiwch chi rwbeth i fita iddon nhwy.” Gwedon‐nhwy wrtho fe, “Wit‐ti moyn i ni fynd bant a hala canodd o bune i bernu torthe a rhoi nhwy i'r dinion i fita?” “Sowl torth sy 'da chi?” gofinodd‐e, “Cerwch i weld.” Wedi iddyn nhw ffindo mas gwedon‐nhwy, “Pump o dorthe, a dou bisgodyn.” Gwedodd‐e wrth i disgiblion i hala'r bobol i ishte lawr in gwmpnïe ar i porfa glas. Ishteddon‐nhwy lawr in resi i gyd, rhei in gwmpnïe o gant a rhei in hanner cant. Wedyn cwmrodd‐e'r pump torth a'r ddou bisgodyn, drich lan i'r nefodd a jolch i Dduw; wedyn fe dorodd‐e'r torthe a'u rhoi nhwy i'w ddisgiblion i roi mas i'r crowd. Rhanodd‐e'r ddou bisgodyn rhintyn nhwy i gyd fyd. Biton‐nhwy i gyd nes bo nhwy'n llawn; a fe gasglon nhwy douddeg basgeded o sbarion bara a pisgod. We pum mil o ddinion wedi bita'r torthe.
Iesu'n cered ar i dŵr
45-52Wedyn nâth‐e i'r disgiblion fynd miwn i gwch a mynd i Beseida o'i flân e. Wedodd‐e hwyl fowr wrthon‐nhwy a fe âth‐e lan i'r minidde i weddïo. Pan dewillodd‐i we'r cwch in bell mas ar ganol i llyn, a wedd‐e ar ben i hunan ar i tir. Gwelodd‐e u bo nhwy'n bleino rhwyfo, achos we'r gwynt in u herbyn nhwy; so rhynt tri a whech ar gloch i bore fe ddâth‐e atyn nhwy in cered ar i dŵr. Wedd‐e'n mynd i fynd heibo nhwy, on pan welon‐nhwy e'n cered ar i dŵr wên‐nhwy'n meddwl i bo nhwy'n gweld drichioleth a gweiddon‐nhwy mas; achos wên‐nhwy gyd wedi'i weld e a we ofon arnyn nhwy. Ond sharadodd‐e 'da nhwy a gweud, “Biddwch in ddewr! Fi yw e! Sdim ishe i chi gâl ofon.” Dâth‐e miwn i'r cwch aton nhwy, a fe dawelodd i gwynt. Wên‐nhwy wedi'u sinnu'n fowr achos wenyn‐nhwy wedi diall beth we wedi digwydd da'r torthe; we'u meddilie nhwy'n rhy galed.
Gwella dinion we ddm in dda in Genesaret
53-56Groishon‐nhwy'r llyn a dwâd i Genesaret, a clwmu'r cwch lan fan‐'ny. Ginted wên‐nhwy mas o'r cwch, nabiddodd dinion e. Rhedon‐nhwy trw'r ardal, a wen‐nhwy'n cario dinion we ddim in dda ato fe ar fatrasys ble bennag wên‐nhwy'n cliwed i fod e. A ble binnag wedd e'n mynd, i bentrefi, trefi neu ffermydd, we nhwy'n rhoi'r dinion we ddim in dda i gyd miwn lle agored a'n begian arno fe i adel iddon nhwy gwrdd â'r imil we ar i ddillad e hyd 'n‐ôd. A we bob un we'n cwrdd ag e in câl u gwella.
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies