Marc 5
5
Gwella'r dyn ing gwlad i Gerasenied
1-20Dâth Iesu i wlad i Gerasenied ar ochor arall i llyn. We'i ddisgiblion 'dag e, a ginted wên‐nhwy wedi dwâd mas o'r cwch, dâth dyn aton nhwy o ganol i twme, a we isbryd drwg indo fe. We'r dyn in byw in ganol i twme. We neb in galler i glwmu fe'n sownd ragor, ddim hyd 'n‐ôd gida tjaen. Wedd e wedi câl i glwmu sawl gwaith o'r blân da tjaens a lloithirie, on wedd‐e wedi whalu'r tjaens a torri'r lloithirie, a we neb in ddigon cryf i dawelu e. Trw'r dydd a'r nos wedd‐e'n wben in ganol i twme a ar i minidde, a'n neud dolur i unan 'da cerrig. Gwelodd‐e Iesu'n dwâd o bell bant, a rhedodd e ato a towlu i unan lawr o'i flân e. Wedyn gweiddodd‐e ar dop i laish, “Pam wit‐ti'n busnesan 'da fi, Iesu, Crwt i Duw Mowr? In enw Duw, dwi'n begian arnot ti, paid neud dolur i fi!” Wedodd‐e 'na achos we Iesu'n gweu 'tho fe, “Isbryd drwg, dere mas o'r dyn 'ma.” Gofinodd Iesu iddo fe, “Beth yw di enw di?” Atebodd‐e, “In enw i yw Lleng, achos ma lot onon ni”; a nâth‐e fegian arno fe i beido a'u hala nhwy mas o'r ardal.
Ar u pwys nhwy, ar i mini, we lot o foch in pori, a begianodd ir isbridion arno fe, a gweud, “Hal ni miwn i'r moch, gâd ni fynd miwn iddon nhwy.” Gadodd Iesu iddon nhwy neud 'ny. Dâth ir isbridion drwg mas o'r dyn a mynd miwn i'r moch, a wedyn fe redodd i moch lawr i graig a miwn i'r llyn a boddi. We rhyw ddwy fil o foch 'na i gyd. Rhedodd i dinion we'n gofalu amdanon nhwy bant a mynd a gweud beth we wedi digwydd in i trefi a'r wlad rownd obitu'r lle. Dâth dinion i weld beth we wedi digwydd. Dethon‐nhwy at Iesu, a gweld i dyn we'r isbridion drwg wedi bod indo fe in ishte wedi gwishgo, in iawn in i feddwl, a fe geson nhwy ofon. Gwedodd i rhei we wedi gweld i cifan beth we wedi digwydd i'r dyn a'r moch. Begianon‐nhwy ar Iesu i adel u hardal nhwy. Pan we Iesu'n mynd miwn i'r cwch begianodd i dyn we'r isrbydion wedi bod indo fe ar Iesu i adel iddo fe ddwâd 'dag e. Pallodd Iesu i adel e, ond wedodd‐e wrtho fe, “Cer getre at di dilwith a gwe‐'thon nhwy beth ma'r Arglwi wedi neud i ti, a shwt gwrmodd drenu arnot ti.” Âth e bant a gweud in Gwlad i Deg Tre beth we Iesu wedi neud iddo fe, a we bob un wedi'u sinnu.
Gwella merch Jairus a'r fenyw â hemredj
21-43Croishodd Iesu miwn cwch i ochor arall i llyn shwrne 'to. A wedd‐e ar ochor i dŵr pan ddâth crowd mowr ato fe. Dâth dyn o'r enw Jairus mlân. We Jairus in wenidog in un o'r sinagoge. Pan welodd‐e Iesu cwmpodd‐e wrth i drâd e a begian arno fe a gweud, “Ma'n rhoces fach i bitu farw. Dere a rho di ddwylo arni fel bo'i'n gwella a byw.” Âth Iesu 'dag e a dilinodd i crowd mowr a gwasgu rownd 'ddo fe.
We menyw we wedi bo'n sal da hemredj am ddouddeg mline in i crowd. Wedd‐i wedi godde'n hir dan lot o wanol ddoctoried. Wedd‐i wedi hala pob dime goch we 'da'i in treial gwella, ond gwâthigu wedd‐i wedi neud in lle gwella. Wedd‐i wedi cliwed lot am Iesu, a dâth hi lan tu‐ôl 'ddo fe in i crowd a cwrdd â'i ddillad e, achos wedodd‐i wrth i hunan, “Os 'na'i gwrdd â'i ddillad e, fe ga i'n wella.” Gwellodd ir hemredj ar unweth, a fe deimlodd‐i i bo‐'i wedi gwella. Ond we Iesu in gwbod indo i unan bo nerth wedi mynd mas ono fe, a troiodd‐e rownd a gweud, “Pwy gwrddodd â'n ddillad i?” Gwedodd i ddisgibion wrtho fe, “Ti'n gweld shwt ma'r crowd in hwpo rown ti, a wedyn weth wit‐ti'n gofyn, ‘Pwy sy wedi cwrdd â fi?’ ” Drichodd‐e rownd i weld pwy we wedi neud 'ny. On fe ddâth i fenyw mlân, a wedd‐i'n crinu i gyd 'da ofon achos bo‐'i'n gwbod beth we wedi digwydd iddi, a cwmpodd hi lawr o'i flân e a gweud i gwir i gyd. Gwedodd Iesu wrthi, “In ferch i, ma di ffydd di wedi di wella di. Cer, ma popeth in iawn, a wit‐ti wedi gwella.”
We Iesu wrthi'n sharad o hyd pan ddâth dinion o dŷ gwenidog i sinagog a gweud, “Ma di roces di wedi marw. Pam poeni mwy ar i Mishtir?” Rondodd Iesu ddim ar beth we'n câl i weud a gwedodd‐e wrth wenidog i sinagog, “Paid câl ofon. Ma credu'n ddigon i ti.” Gadodd‐e i neb ddod 'dag e ond Pedr, Iago a Ioan brawd Iago. Dethon‐nhwy i dŷ gwenidog i sinagog, a gwelodd‐e'r comoshon we fan‐'ny a'r dinion in llefen a gweddi ar dop u lleishe. Âth‐e miwn a gweu‐'thon nhwy, “Pam ŷch‐chi'n neud shwt gomoshon a'n llefen? Seno'r roces wedi marw o gwbwl; dim ond cisgu ma‐i.” Nethon‐nhwy sbort ar i ben e; ond halodd‐e nhwy gyd mas, a mynd â mam a tad i roces, a'r rhei we 'dag e, miwn i le we'r plentyn. Cijodd‐e in llaw'r plentyn a gweu‐'thi, “Talitha cwm”, sy'n goligu, “Gronda arna i, roces fach, a coda.” A wedyn fe gododd i roces a cerdded rownd. Wedd‐i'n ddouddeg mlwydd wed. Wên‐nhwy gyd wedi'u sinnu ar hyn. Roiodd‐e ordors pendant na we neb i wbod am hyn, a gwedodd‐e wrthon nhwy i roi rwbeth i fita i'r roces.
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies