Hosea 6

6
PEN. VI.—
1Deuwch a dychwelwn at yr Arglwydd;
Canys efe a’n drylliodd,#a’n cymerodd. Vulg. ysglyfaethodd. LXX. ac a’n iacha ni:
Efe a glwyfodd,#a dery. LXX., Vulg. ac efe a’n rhwyma.#llieinia. LXX.
2Efe a’n bywha ni ar ol deuddydd:#dyddiau.
Ar y trydydd dydd,
Y cyfyd ni i fyny#ni a adgyfodwn. LXX. a byddwn fyw ger ei fron ef.#byddwn fyw ger ei fron ef. ac adnabyddwn: dilynwn &c., LXX.
3A nyni a adnabyddwn, dilynwn i adnabod yr Arglwydd;
Ei fynediad sydd sicr fel y wawr;
Ac efe a ddaw fel gwlaw atom;
Fel diweddar#amserol. Vulg. wlaw, cynar#yn gwlychu daear, diweddar wlaw. Vulg. diweddar wlychfa i’r Syr. wlaw daear.
4Pa beth a wnaf i ti, Ephraim;
Pa beth a wnaf i ti, Judah:
A’ch#caredigrwydd, tosturi. Vulg. daioni sydd fel cwmwl boreu;
Ac fel y gwlith a ymedy yn foreu.#gwlith boreu yn myned. LXX.
5Am hyny y#cynhauafais eu proffwydi hwynt, lleddais hwynt â. LXX. lleddais hwynt. Vulg. dinystriais hwynt trwy y proffwydi;
Lleddais hwynt â geiriau fy ngenau:
A’th#a’m barn. LXX., Syr. farnedigaethau ydynt fel goleuni#gwawr. yn myned allan.
6Canys trugaredd a ewyllysiais, ac nid aberth:
Ac adnabyddiaeth o Dduw yn fwy na#aberthau llosg. phoeth-offrymau.
7A hwynt#a hwynt ydynt fel dyn yn tori cyfamod. LXX., Syr. fel Adda a dorasant gyfamod:
Yno#yna. y#yno y’m dirmygodd Gilead, dinas yn gweithredu oferedd. LXX. gwnaethant yn anfìyddlon â mi.
8Gilead
Dinas gweithredwyr anwiredd yw hi:
Wedi ei#yn tryblu dwfr. LXX. a gwaed dan ei gwadnau. Vulg. lliwio â. Syr. nodi â gwaed,
9Ac fel minteioedd yn dysgwyl am wr,
Y mae cwmpeini o offeiriaid;
Lladdant ar y ffordd i Shecem#rhai yn myned o Shecem. Vulg. a lladdasant hyd Sichem. Syr.
Canys gwnant ysgelerder.#drygioni.
10Yn nhŷ Israel;#canys gwnaethant gamwedd yn nhy Israel; gwelais erchylldod yno LXX.
Gwelais beth erchyll:
Yno yr oedd puteindra Ephraim;
Halogwyd Israel:#Halogwyd Israel a Judah. LXX.
11Hefyd Judah;
Gosodwyd#dechreu gynhauafu i ti dy hun. LXX. gosod gynhauaf. Vulg. cynhauaf i tithau.

Поточний вибір:

Hosea 6: PBJD

Позначайте

Поділитись

Копіювати

None

Хочете, щоб ваші позначення зберігалися на всіх ваших пристроях? Зареєструйтеся або увійдіть