Amos 1

1
PEN. I.—
1Geiriau Amos;
Yr hwn oedd yn mhlith y bugeiliaid o Tecoah:#o fugeiliaid meibion Tecoah. Syr.
Y rhai a welodd am Israel#Jerusulem. LXX. yn nyddiau Uzziah, brenin Judah, Ac yn nyddiau Jeroboam mab Joash brenin Israel,
Ddwy flynedd cyn y daeargryn.#cryndod. Hebr.
2Ac efe a ddywedodd,
Yr Arglwydd a rua o Sion;
Ac a rydd ei lef o Jerusalem:
A phorfëydd#a phebyll y—a alarant. Syr. y bugeiliaid a ddifwynir;
A phen Carmel a wywa.#alarasant. wywodd. LXX., Vulg.
3Fel hyn y dywedodd#a dywedodd yr. LXX. Vulg. yr Arglwydd;
Am dri anwireddau Damascus;
Ac am bedwar nis troaf hyny#ef. LXX. Vulg. ni throf oddiwrthynt. Syr. ymaith:
Am iddynt ddyrnu Gilead ag offer dyrnu o haiarn.#a lifìo o honynt a llifiau haiarn feichiogion Gilead. LXX. a meni haiarn. Vulg.
4A mi a anfonaf dân i dŷ Hasael;
Ac efe a ddifa balasau Benhadad.#mab Hadad. Syr. seiliau mab Ader. LXX.
5A drylliaf farau Damascus;
A thoraf ymaith breswylydd o ddyffryn Afen;#On. LXX. o faes yr eilun. Vulg.
A’r hwn sydd yn dal teyrnwialen o Beth Eden:#a thoraf i lawr lwyth o wyr Charan. LXX.
A phobl Syria#a phobl enwog Syria a gaethgludir. LXX. a gaethgludir i Cir#Cyrene. Vulg. medd yr Arglwydd.
6Fel hyn#y pethau hyn. LXX., Vulg. y dywedodd yr Arglwydd;
Am dri anwireddau Gazah:
Ac am bedwar nis troaf hyny#hwynt. LXX. ymaith:
Am iddynt gaethgludo caethglud lawn,
I’w rhoddi fynu i Edom.
7Ac anfonaf dân yn mûr Gaza;
Ac efe a ddifa ei phalasau#seiliau. LXX. hi.
8A thoraf ymaith breswylydd o Ashdod;
A’r hwn a ddeil deyrnwialen#a chymerir ymaith lwyth o. LXX. o Ascelon:
A throaf fy llaw yn erbyn Ecron,
A derfydd gweddill y Philistiaid;#yr estroniaid. LXX.
Medd yr Arglwydd Ior.#Arglwydd arglwyddiaethau Syr. yr Arglwydd y Tragywyddol. Dr. R. W.
9Fel hyn#y pethau hyn. LXX. Vulg. y dywedodd yr Arglwydd;
Am dri anwireddau Tyrus;
Ac am bedwar
Nis dattroaf ef:
O herwydd iddynt hwy roddi i fyny#gau yn nghyd o honynt. LXX., Vulg. gaethglud lawn i Edom;#yn Idumea. Vulg.
Ac na chofiasant#ni fynent gofio. Vulg. gyfamod brodyr.#brawdol, brawdoliaeth. Syr.
10Ac anfonaf dân yn mûr Tyrus;
Ac efe a ddifa ei phalasau.#seiliau. Vulg.
11Fel hyn#y pethau hyn. LXX., Vulg. y dywedodd yr Arglwydd;
Am dri anwireddau Edom;
Ac am bedwar, Nis dattroaf ef;
Am iddo erlid ei frawd â’r cleddyf a bwrw ymaith#diddymu. Syr. ac felly ymgreulonasant at eu gwragedd beichiogion. Dathe. ei dosturiaethau;
A bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol;
A bod ei lid yn cadw byth.#dros oesau. Syr. a’i fod wedi cadw ei. Vulg.
12A mi a anfonaf dân i Teman;
Ac efe a ddifa balasau#demlau. Vulg. seiliau ei muriau hi. LXX. Bosrah.
13Fel hyn y dywedodd#y pethau hyn. LXX. Vulg. yr Arglwydd;
Am dri anwireddau meibion Ammon;
Ac am bedwar,
Ni throaf ef yn ol:
Am iddynt hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead;#carn, crug y tystion.
Er mwyn helaethu eu terfyn.
14A mi a ddygaf#gadawaf dân. Syr. dân yn mûr Rabba;
Ac efe a ddifa ei phalasau:#seiliau. LXX. demlau Vulg.
Gyda gwaedd ar ddydd rhyfel;
Gyda thymestl ar ddydd corwynt.#cwmwl du. Syr.
15A’u brenin#ei breninoedd. LXX. Melcom., Vulg. a â i gaethiwed:
Efe a’i dywysogion ynghyd,#eu hoffeiriaid a’u tywysogion. LXX. a’i offeiriaid a’i flaenorion. Syr.
Medd yr Arglwydd.

Поточний вибір:

Amos 1: PBJD

Позначайте

Поділитись

Копіювати

None

Хочете, щоб ваші позначення зберігалися на всіх ваших пристроях? Зареєструйтеся або увійдіть