Y Salmau 21

21
SALM XXI
Domine in virtute.
Gorfoledd dros y brenin am orchfygu amryw dyrnasoedd a chenhedloedd.
1O Arglwydd, yn dy nerth a’th rin,
mae’r brenin mewn llawenydd:
Ac yn dy iechyd, yr un wedd,
mae ei orfoledd beunydd.
2Holl ddeisyfiad ei galon lân,
iddo yn gyfan dodaist:
Cael pob dymuniad wrth ei fodd,
ac o un rhodd ni phellaist.
3Cans da’r achubaist ei flaen ef,
a doniau nef yn gyntaf:
Ac ar ei ben, (ddaionus Ion,)
rhoist goron aur o’r puraf.
4Ef a ofynnodd gennyd oes,
a rhoddaist hiroes iddo:
A hon dy rodd, dros byth y bydd,
nid a’n dragywydd heibio.
5I’th iechydwriaeth y mae’n byw,
a mawr yw ei ogoniant:
Gosodaist arno barch a nerth,
a phrydferth yw ei llwyddiant.
6Rhoist dy fendithion uwch pob tawl,
yn rhodd dragwyddawl iddo:
A llewych d’wyneb byth a fydd,
yn fawr lawenydd arno.
7Am fod y brenin yn rhoi’i gred,
a’i ’mddiried yn yr Arglwydd:
Dan nawdd y Goruchaf tra fo,
gwn na ddaw iddo dramgwydd.
8A thydi Arglwydd a’th law lan,
cei allan dy elynion:
Rhag dy ddeheulaw (er a wnant)
Ni ddiangant dy gaseion.
9Di a’i gosodi’n nydd dy ddig,
fel ffwrnais ffyrnig danllyd:
Yr Arglwydd iw lid a’i difa,
a’r tân a’i hysa’n enbyd.
10Diwreiddi dieu ffrwyth o’r tir,
a’i had yn wir ni thyccian:
11Am fwriadu yt ddrwg ddilen,
heb ddwyn i ben mo’i hamcan.
12Ti a’i gosodi hwy’r naill du,
a thi a’th lu iw herbyn:
Ac a lefeli dy fwau,
at eu hwynebau cyndyn.
13Ymddercha dithau f’Arglwydd, gun,
i’th nerth dy hun a’th erfid:
Ninnau a ganwn, o’n rhan ni,
i foli dy gadernid.

Seçili Olanlar:

Y Salmau 21: SC

Vurgu

Paylaş

Kopyala

None

Önemli anlarınızın tüm cihazlarınıza kaydedilmesini mi istiyorsunuz? Kayıt olun ya da giriş yapın