Y Salmau 20
20
SALM XX
Exaudiat te Dominus.
Y bobl yn bendithio eu brenin, ac yn gweddio yn erbyn eu gelynion, wrth fynd allan i ryfel.
1Gwrandawed di yr Arglwydd Ner
pan ddel cyfyngder arnad,
Enw Duw Jacob, ein Duw ni,
a’th gadwo di yn wastad.
2O’i gysegr rhoed yt help a nerth,
a braich o brydferth Seion:
3Cofied dy offrwm poeth a’th rodd,
bo’rhai’n wrth fodd ei galon.
4Rhoed ytty wrth dy fodd dy hun,
Dy ddymun a’th adduned:
Dy fwriad iach a’th arfaeth tau,
a’th weddiau gwrandawed.
5Yn enw ein Duw gorfoleddwn
yn hyf, a chodwn faner:
A’th ddeisyfiadau gwnaed yn rhwydd,
yr Arglwydd o’r uchelder.
6Yr Arglwydd gweryd (felly gwn)
o’i gysegr drwn ei ’neiniog:
Gwrendy ei arch, gyrr iddo rym,
yn gyflym ac yn gefnog.
7Rhai ar gerbydau rhont eu pwys,
rhai ar feirch ddwys ymddiried:
Minnau ar enw’r Arglwydd Ddyw,
mai hwnnw yw’n ymwared.
8Hwy a ’mroesant a syrthiasant,
yn un nerth eisoes yno:
Codasom a safasom ni,
O Dduw, a thi i’n lwyddo.
9Cadw ni Arglwydd a’th law gref,
boed brenin y nef drosom:
Gwrandawed hwnnw arnom ni:
A’n gweddi pan y llefom.
Seçili Olanlar:
Y Salmau 20: SC
Vurgu
Paylaş
Kopyala
Önemli anlarınızın tüm cihazlarınıza kaydedilmesini mi istiyorsunuz? Kayıt olun ya da giriş yapın
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017