Ioan Marc 1

1
RHAGYMADRODD MARC.
1Dechreu Efengyl Iesu Grist, Mab Duw.
DOSBARTH I.
Cychwniad y Weinidogaeth.
2-8Fel yr ysgrifenwyd yn Isaia y Proffwyd, “Wele yr wyf yn anfon fy nghènad o’th flaen, yr hwn á barotöa dy ffordd;” “Llef un yn cyhoeddi yn y diffeithwch, Parotowch ffordd i’r Arglwydd, gwnewch iddo fynedfa uniawn;” fel hyn y daeth Iöan gàn drochi yn y diffeithwch, a chyhoeddi trochiad diwygiad èr maddeuant pechodau. A holl wlad Iuwdea, a thrigolion Caersalem á ddaethant ato, ac á drochwyd ganddo yn afon yr Iorddonen, gàn gyffesu eu pechodau. Ac Iöan oedd â’i ddillad o flew cammarch, wedi eu rhwymo o gylch ei wasg â gwregys lledr; ac yr oedd yn byw àr locustiaid a mel gwyllt. Ac efe á gyhoeddai, gàn ddywedyd, Y mae yn dyfod àr fy ol i un cryfach na myfi, càrai esgid yr hwn nid ydwyf deilwng i ymostwng a’i dattod. Myfi, yn wir, a’ch trochais chwi mewn dwfr; ond efe á’ch trocha chwi yn yr Ysbryd Glan.
9-11Yr amser hwnw y daeth Iesu o Nasareth yn Ngalilea, i’r Iorddonen, ac á drochwyd gàn Iöan. Cygynted ag y cyfododd efe o’r dwfr, efe á welai yr wybren yn ymrwygo, a’r Ysbryd yn disgyn arno fel colomen. A chlybuwyd llais o’r nefoedd yn dywedyd, Ti yw fy Mab, yr anwylyd, yn yr hwn yr ymhyfrydwyf.
12-13Yn ebrwydd wedi hyn y gỳrodd yr Ysbryd ef i’r diffeithwch; ac efe á arosodd yn y diffeithwch ddeugain niwrnod, yn cael ei demtio gàn Satan; ac yr oedd efe yn mysg y gwylltfilod; a’r cènadau nefol á weiniasant iddo.
14-15Ond wedi carchariad Iöan, Iesu a aeth i Alilëa, gàn gyhoeddi Newydd da Teyrnasiad Duw. Yr amser meddai efe, á gyflawnwyd, Teyrnasiad Duw sydd yn agosâu; diwygiwch, a chredwch y Newydd da.
16-20Yna wrth rodio gèr môr Galilëa, efe a welai Simon, ac Andreas, brawd Simon, yn taflu tynrwyd i’r môr, canys pysgodwyr oeddynt. Iesu á ddywedodd wrthynt, Deuwch gyda mi, a mi á wnaf i chwi fod yn bysgodwyr dynion. Yn ddiattreg hwy a adawsant eu rhwydau, ac á’i canlynasant ef. Wedi myned ychydig yn mlaen, a gweled Iägo, mab Zebedëus, gydag Iöan ei frawd, mewn llong yn cyweirio eu rhwydau; yn y fàn efe á’u galwodd hwynt; a chàn adael Zebedëus eu tad yn y llong gyda ’r cyflogweision, hwy á’i canlynasant ef.
21-22A hwy á aethant i Gapernäum, ac àr y Seibiaeth efe á aeth yn uniawn i fewn i’r gynnullfa, ac á ddysgodd y bobl, y rhai á lanwyd â syndod wrth ei ddull yn dysgu; canys efe á ddysgai fel un ag awdurdod ganddo, a nid fel yr ysgrifenyddion.
23-28Ac yr oedd yn eu cynnullfa hwynt ddyn ag ynddo ysbryd aflan, yr hwn á lefodd, Och! Iesu o Nasareth, pa beth sydd à wnelych â ni? A ddaethost ti i’n dinystrio ni? Mi á wn pwy ydwyt, Sant Duw. Iesu á’i ceryddodd ef, ac á ddywedodd, Taw, a dyred allan o hono. Yna yr ysbryd aflan á’i taflodd ef i #1:23 Convulsions.ddirgryniadau, a thàn wneuthur crochleisiau, á ddaeth allan o hono; wrth yr hyn y sỳnasant oll gymaint, fel y gofynasant y naill i’r llall, Pa beth yw hyn? Pa fath ddysgu newydd yw hwn? Oblegid y mae efe yn gorchymyn gydag awdurdod hyd yn nod i’r ysbrydion aflan, a hwythau yn ufyddâu iddo. Ac o hyny allan yr ymdaenodd ei arglod ef dros holl wlad Galilëa.
29-31Cygynted ag y daethant allan o’r gynnullfa, hwy á aethant gydag Iägo ac Iöan i dŷ Simon ac Andreas, lle yr oedd mam‐yn‐nghyfraith Simon yn gorwedd yn glaf o’r dwymyn, yr hyn yn ddioed á hysbyswyd i Iesu. Ac efe á ddaeth, a chàn ei chymeryd erbyn ei llaw, á’i cyfododd hi i fyny; yn y fàn y dwymyn á’i gadawodd hi, a hi á’u harfollodd hwynt,
32-34Yn yr hwyr, wedi machlud haul, hwy á ddygasant ato yr holl rai cleifion, a’r cythreuligion; a’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws. Ac efe á iachâodd lawer à flinid gàn amrywiol glefydau, ac á fwriodd allan lawer o gythreuliaid, a ni oddefai efe iddynt lefaru, am eu bod yn ei adwaen ef.
35-39Tranoeth, wedi iddo godi cyn tòriad y dydd, efe á aeth allan, ac á giliodd i le annghyfannedd, ac á weddiodd yno. A Simon a’i gymdeithion á aethant i chwilio am dano ef, a gwedi ei gael, hwy á ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di. Iesu a ddywedodd, Awn i’r #1:35 “Llan neu dref fel dinas, ond heb gaerau.” – Robinson.efillandr cymydogaethol i gyhoeddi y teyrnasiaid yno hefyd; canys i hyn y daethym i allan. Yn ganlynol efe á’i cyhoeddodd yn eu cynnullfëydd drwy holl Alilëa, ac á fwriodd allan gythreuliaid.
40-45Ac un gwahanglwyfus á ddaeth ato, ac àr ei liniau á attolygodd arno, gàn ddywedyd, Os mỳni, ti á elli fy nglanâu. Iesu á dosturiodd, ac á estynodd allan ei law, a chàn gyfhwrdd ag ef, á ddywedodd, Mỳnaf, bydd lan. Cygynted ag y dywedodd efe hyn, y gwahanglwyf á’i gadawodd ef, ac efe á lanâwyd. Yna Iesu gàn orchymyn iddo yn gaeth a’i anfon ymaith, á ddywedodd, Gwel na ddywedych ddim o hyn wrth neb; ond dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanâad y pethau à bènodwyd gàn Foses, èr ei hysbysu i’r bobl. Eithr cygynted ag yr aeth efe ymaith, efe á ddechreuodd daenu yr hanes àr led, gàn lefaru àr gyhoedd yn mhob man, fel na allai Iesu mwyach ymddangos yn gyhoeddus yn y ddinas; ond á arosai allan mewn lleoedd annghyfannedd, ac yno yr ymgyrchai y bobl ato o bob parth.

ప్రస్తుతం ఎంపిక చేయబడింది:

Ioan Marc 1: CJW

హైలైట్

షేర్ చేయి

కాపీ

None

మీ పరికరాలన్నింటి వ్యాప్తంగా మీ హైలైట్స్ సేవ్ చేయబడాలనుకుంటున్నారా? సైన్ అప్ చేయండి లేదా సైన్ ఇన్ చేయండి