Ioan Marc 2
2
1-2Ar ol llawer o ddyddiau efe á ddychwelodd i Gapernäum; a phan wybuwyd ei fod ef yn y tŷ, ymgasglodd y fath dyrfa yno fel nad oedd lle iddynt, hyd yn nod wrth y drws, ac efe á ddysgodd y gair iddynt.
3-12Yna y dygwyd un parlysig, yn cael ei gario gàn bedwar, y rhai, gàn na allent ddyfod yn agos ato, oblegid y dorf, á ddidöasant y lle yr oedd Iesu; a thrwy yr egoriad á ollyngasant i waered y glwth, àr yr hwn y gorweddai y parlysig. Iesu yn canfod eu ffydd hwynt, á ddywedodd wrth y parlysig, Fab, maddeuwyd i ti dy bechodau. Eithr rhyw ysgrifenyddion y rhai oeddynt bresennol, á resymasant ynynt eu hunain fel hyn; Pa fodd y mae hwn yn dywedyd y fath gableddau? Pwy á ddichon faddau pechodau ond Duw? Iesu yn ebrwydd yn gwybod ynddo ei hun eu bod yn ymresymu fel hyn ynynt eu hunain, á ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn rhesymu fel hyn yn eich calonau? Pa un hawddach, dywedyd wrth y parlysig, Maddeuwyd i ti dy bechodau, ai dywedyd yn effeithiol, Cyfod, cymer i fyny dy lwth, a rhodia? Ond fel y gwybyddoch bod gàn Fab y Dyn awdurdod àr y ddaiar i faddau pechodau, cyfod (meddai efe wrth y parlysig,) yr wyf yn gorchymyn i ti, cymer i fyny dy lwth a dos adref. Yn y fan efe a gododd, á gymerodd i fyny ei lwth, ac á gerddodd allan yn eu gwydd hwynt oll; fel y sỳnodd pawb, ac a gogoneddasant Dduw, gàn ddywedyd, Ni welsom ni erioed beth fel hyn.
13-17Trachefn, efe á aeth allan tua ’r môr, a’r holl dyrfa á ymgyrchodd ato, ac efe á’u dysgodd hwynt. Wrth fyned rhagddo, efe á ganfu Lefi, mab Alphëus, yn eistedd wrth y dollfa, ac á ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe á gododd, ac á’i canlynodd ef. A phan oedd Iesu yn bwyta yn nhŷ y dyn hwn, llawer o dollwyr a phechaduriaid á osodasant eu hunain wrth y bwrdd gydag ef a’i ddysgyblion, canys llawer o’r bobl hyn á’i canlynasant ef. Yr Ysgrifenyddion a’r Phariseaid, wrth ei weled ef yn bwyta gyda thollwyr a pechaduriaid, á ddywedasant wrth ei ddysgyblion ef, Paham y mae efe yn bwyta ac yn yfed gyda thollwyr a phechaduriaid? Iesu gwedi clywed hyn á atebodd, Y rhai iach ni raid iddynt wrth feddyg, ond y rhai cleifion. Ni ddaethym i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid.
18-22Dysgyblion Iöan, a’r eiddo y Phariseaid, yn gynnefin ag ymprydio, á ddaethant ato, ac á ddywedasant, Y mae dysgyblion Iöan, a’r eiddo y Phariseaid yn ymprydio, paham nad yw dy ddysgyblion dithau yn ymprydio? Iesu á atebodd, A yw y priodweis yn ymprydio tra y mae y priodfab gyda hwynt? Tra y mae y priodfab gyda hwynt nid ynt yn ymprydio. Ond y dyddiau á ddaw, pan ddygir y priodfab oddarnynt; ac yn y ddyddiau hyny yr ymprydiant. Nid yw neb yn gwnio darn o frethyn cri àr hen ddilledyn; os yn amgen y clwt newydd á ddryllia yr hen frethyn, ac á wna rwyg gwaeth. Ni ddyry neb win newydd mewn hen gostrelau lledr; os yn amgen y gwin newydd á ddryllia y costrelau; á felly collir y gwin, a’r costrelau á wneir yn ddiddefnydd; ond rhaid dodi gwin newydd mewn costrelau newyddion.
23-28Unwaith, pan oedd efe yn myned drwy yr ŷd àr y Seibiaeth, ei ddysgyblion á ddechreuasant dỳnu y twyseni, fel yr oeddynt yn myned. Y Phariseaid á ddywedasant wrtho, Paham y gwnant yr hyn, àr y Seibiaeth, nid yw gyfreithlawn ei wneuthur? Yntau á atebodd, Oni ddarllenasoch erioed beth á wnaeth Dafydd a’i weinyddion, mewn cyfyngder, pan oeddynt newynog, pa fodd yr aeth efe i fewn i babell Duw, yn nyddiau Abiathar, yr archoffeiriad, ac y bwytâodd dorthau y cynnrychioldeb, y rhai nis gallai neb ond yr offeiriaid yn gyfreithlawn eu bwyta, ac á roddes o honynt iddei weinyddion hefyd? Efe á chwanegodd, Y Seibiaeth á wnaed èr mwyn dyn, a nid dyn èr mwyn y Seibiaeth. Am hyny y mae Mab y Dyn yn arlwydd, hyd yn nod ar y Seibiaeth.
ప్రస్తుతం ఎంపిక చేయబడింది:
Ioan Marc 2: CJW
హైలైట్
షేర్ చేయి
కాపీ

మీ పరికరాలన్నింటి వ్యాప్తంగా మీ హైలైట్స్ సేవ్ చేయబడాలనుకుంటున్నారా? సైన్ అప్ చేయండి లేదా సైన్ ఇన్ చేయండి
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.