Iöb 8

8
VIII.
1Yna yr attebodd Bildad y Shwhiad a dywedodd,
2Pa hŷd yr adroddi di y fath bethau,
Ac yn wỳnt cryf (y bydd) geiriau dy enau?
3Ai Duw a ŵyra uniondeb,
Ac ai ’r Hollalluog a ŵyra gyfiawnder?
4Os dy feibion a bechasant yn Ei erbyn Ef,
Efe a’u rhoddes yn llaw eu camwedd.
5Os tydi a geisi Dduw,
Ac a weddïi ar yr Hollalluog;
6Os pur ac uniawn tydi,
Yn ddïau, gan hynny, Efe a wylia drosot,
Ac a heddycha drigfa dy gyfiawnder,
7A bydd dy gyflwr gynt (megis) bychan,
A’th gyflwr i ddyfod a fawrhêir yn ddirfawr,
8 # 8:8 Bildad a ddwg ymlaen dystolaeth y cyndadau, ond Eliphaz 4:8. &c. a adroddodd yn unig ei brawf-wybodaeth ei hun. — Canys gofyn, attolwg, i’r genhedlaeth gynt,
Ac ystyria ymchwiliad eu tadau hwythau;
9O herwydd er doe nyni, ac ni wyddom ni ddim,
Canys cysgod (yw) ein dyddiau ni ar y ddaear;
10Onid hwy a wnant dy ddysgu, a dywedyd wrthyt,
Ac o’u calon ddwyn allan ymadroddion? (sef)
11 # 8:11 Brwynen yr Aipht “A uchel-dŷf y frwynen mewn (lle) nad yw gors?
A fawrhêir hesgen y Nilws heb ddyfroedd?
12 # 8:12 sef yr hesgen, neu y bapyr-frwynen ardderchog, heb wlybaniaeth A hi etto yn ei gwyrddedd, ni thorrir hi ymaith,
Ond o flaen pob glaswelltyn gwywo a wnaiff hi;
13Felly ffyrdd yr holl rai sy’n anghofio Duw,
Ac y diflanna gobaith yr annuwiol,
14Yr hwn y torrir ymaith ei obaith,
A thŷ pryf coppyn (yw) ei hyder;
15Ymbwyso a wna efe ar ei dŷ, ond hwn ni saif,
Ymaflyd a wna efe ynddo, ond hwn ni phery:
16 # 8:16 llwyddiant yr annuwiol Irawl yw efe o flaen yr haul,
A thros ei ardd ei ysgewyll a ânt allant;
17Ar bentwr (meini) ei wraidd ef a ymblethant,
Trigfa’r cerrig a genfydd efe:
18 # 8:18 ei ddiwedd ef. (Ond) pan ddiwreiddio (dyn) ef allan o’i le,
Hwn a’i gwâd ef (gan ddywedyd) ‘Ni welais i mo honot.’
19 # 8:19 =at hyn y daeth llwyddiant yr annuwiol. Wele! hyn yma (yw) llawenydd ei ffordd ef!
Ac o’r pridd (yna) #8:19 — ereill yn cymmeryd ei le ef.ereill a flagurant!”
20Wele, Duw ni ddirmyga ’r perffaith,
Ac nid ymeifl Efe yn llaw y rhai drygionus! —
21 # 8:21 Bildad yn dychwelyd a ei destyn, â’r hwn yr ymadawodd efe yn yr 8. fed adn. Hyd oni lanwo Efe dy enau di â chwerthin,
A’th wefusau â bloedd gorfoledd,
22A bod i’th gaseion ymwisgo â chywilydd,
Ac i babell yr annuwiolion ddiflannu.

Nu markerat:

Iöb 8: CTB

Märk

Dela

Kopiera

None

Vill du ha dina höjdpunkter sparade på alla dina enheter? Registrera dig eller logga in