Iöb 9

9
IX.
1Yna yr attebodd Iöb a dywedodd,
2Yn wir mi a wn mai felly (y mae);
# 9:2 cyfeirir at 4:17. ac attebir i eiriau Eliphaz. Ac ym mha beth y bydd adyn yn gyfiawn ger bron Duw?
3Os myn efe ymryson âg Ef,
Nid ettyb efe i un (peth) allan o fil:
4Gan fod yn ddoeth o galon a galluog o nerth
Pwy a galedodd (wddf) yn Ei erbyn Ef ac a fu ddi-friw?
5Yr Hwn sy’n symmud mynyddoedd a hwythau heb ei ragweled,
Y rhai a ddadymchwel Efe yn Ei lid;
6Yr Hwn sy’n cynhyrfu’r ddaear allan o’i lle,
Fel y bo i’w cholofnau grynu;
7Yr Hwn sy’n dywedyd wrth yr huan ac ni ddisgleiria efe,
Ac o amgylch y ser a selia;
8Yr Hwn sy’n gostwng y nefoedd Ei hun,
Ac yn cerdded ar ymddyrchafiadau ’r môr;
9Yr Hwn a wnaeth yr Arth,
Orion, a’r Pleiades,
Ac #9:9 y rhan ddehau o’r awyr sy’n anweledig i’r wlad honno. Geirian Eliphaz 5:9.ystafelloedd y dehau;
10Yr Hwn sy’n gwneuthur pethau mawrion hyd nad (oes eu) chwilio,
A phethau rhyfeddol hyd nad (oes eu) rhifo:
11Wele, Efe a ruthrodd arnaf ac nid wyf yn (Ei) weled,
Ymosododd arnaf ac nid wyf yn Ei ganfod.
12Os cymmer Efe afael, pwy a’i trŷ yn ol;
Pwy a ddywaid wrtho “Pa beth yr wyt yn ei wneuthur?”
13 # 9:13 pan lidio, Efe a gyflawna Ei fwriad. Ni thrŷ Duw Ei ddigllonedd yn ol,
Dano Ef y crymmodd cynhorthwywŷr Rahab;#9:13 Cyttunir y gelwid yr Aipht “Rahab.” Psalm 89:10. “Ti a ddrylliaist yr Aipht (Rahab, Heb)” Ond ymddengys braidd yn ammhosibl eglurhâu ’r llinell hon. Tybia rhai o’r dysgedigion enwoccaf y cyfeirir at ryw hên chwedl Iwddewaidd, ond un rhy baganllyd i enau ’r gwr a gyssylltir gan y Prophwyd Ezecïel gyda Noah a Daniel. Drusius a feddwl mai at angylion y genedl Aiphtiaidd y cyfeirir yn y geiriau “Cynhorthwywŷr Rahab,” fel y sonir yn Llyfr Daniel 10:13 i “dywysog teyrnas Persia” wrthsefyll yr hwn a ymddangosodd, mewn gweledigaeth, i Daniel, ac y gelwir Michael yn “un o’r tywysogion pennaf.Naturiol i ni feddwl y cyfeirir at ryw ddigwyddiad digon adnabyddus yn nyddiau Iöb. Ei ymresymmiad yw, o herwydd bod Duw yn llywodraethu ar y mynyddoedd — y ddaear — yr haul — y ser — y cymmylau — y dyfroedd, — ac yn dadymchwelyd lluoedd daearol, er enghraifft, “cynhorthwywŷr yr Aipht” (ac at bethau yn y wlad honno y cyfeirir mewn amryw fannau ganddo), gan hynny, “Pa faint llai y byddai i myfi atteb iddo Ef,” &c. adn. 14.
14 # 9:14 Yr Aipht. Pa faint llai y byddai i myfi atteb iddo Ef,
A dewis fy ngeiriau yn Ei erbyn?
15I’r Hwn, ped fai ’r iawn o f’ochr, nid attebwn,
Ond â ’m Hymgyfreithiwr yr ymbiliwn;
16Pe galwn i Ef (i’r llys) ac Efe a’m hattebai,
Ni chredwn Ei fod yn gwrandaw ar fy llais,
17Yr Hwn mewn corwŷnt a ymosodai arnaf,
Ac a amlhâai fy archollion yn ddiachos;
18Ni ddioddefai Efe i mi gyrchu fy anadl,
Ond gorddigonai fi â chwerwderau.
19Os (sonir) am nerth y cadarn — #9:19 sef, y fath ysgerbwd wyf. wele!
Neu os am farn, — pwy a bennoda #9:19 sef, i ddyfod i’r llys.ddydd i mi?
20Er bod yr iawn o f’ochr, fy ngenau a’m heuogent,
A myfi yn ddieuog hwy a’m dangosent yn gŵyro.
21Dieuog (wyf) fi! nid wyf yn maliaw am fy mywyd!
Ffieiddio fy einioes yr wyf fi!
22Un (rheol yw) hi; gan hyny lleferais;
Y dieuog a’r euog y mae Efe yn eu difetha:
23Os y ffrewyll a ladd yn ddisymmwth,
Ar ben profedigaethau ’r diniweid y chwardd Efe:
24Y ddaear a roddwyd yn llaw’r annuwiol,
Gwynebau ei barnwŷr hi a orchuddia Efe;
Os nad felly (y mae), pwy (yw) ’r hwn (sy’n gwneud hyny)?
25Fy nyddiau ydynt gynt na chennadwr cyflymred,
Ffoi y maent, ni welant ddaioni,
26Myned heibio y maent fel #Gwel Eshaiah 18:2.llongau brwyn,
Fel y bydd eryr yn rhuthro at yr ymborth.
27Os dywedaf “Anghofiaf fy nghwyn,
Ymadawaf â’m gweddwyneb, ac ymsiriolaf,”
28(Yna) y bydd arnaf ofn fy holl ddoluriau,
Y gwn na’m berni yn ddiniweid.
29Myfi a’m bernid yn euog,
Pa ham (gan hynny) hyn? — yn ofer yr ymflinwn.
30Os ymolchwn mewn dwfr eira,
Ac y glanhâwn fy nwylaw â thrwyth,
31Yna yn y pwll y’m trochit,
A’m ffieiddio a wnae fy nillad.
32Canys nid dyn (Efe) fel myfi, fel yr attebwn iddo,
(Ac) y delem ynghŷd i farn;
33Nid oes rhyngom ni #9:33 canolwr yn perchen awdurdod i gospi yr hwn a fyddai i’w feio.ddyddiwr,
Yr hwn a osodai ei law arnom ein dau.
34Pe tynnai Efe ymaith Ei wialen oddi arnaf,
A’i #9:34 y rhai sy’n amgylchu Ei ymddangosiadau.ddychryniadau ni ’m brawychent,
35Mi a lefarwn ac nid ofnwn,
Canys nid #9:35 sef, fel y dylwn ofni o achos euogrwydd.felly myfi ynof fy hun.

Nu markerat:

Iöb 9: CTB

Märk

Dela

Kopiera

None

Vill du ha dina höjdpunkter sparade på alla dina enheter? Registrera dig eller logga in