YouVersion logo
Dugme za pretraživanje

Luc 9

9
Yr Apostolion yn cael eu hanfon allan y tro cyntaf
[Mat 9:36—10:16; Marc 6:7–13]
1Ac wedi iddo alw ynghyd y Deuddeg#9:1 y Deuddeg A B D Brnd.: y deuddeg Dysgybl E F: y deuddeg Apostol א C L., efe a roddodd iddynt allu ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i wella#9:1 Therapeuô, gwneyd gwasanaeth i, gweini ar, felly gwella, meddyginiaethu. Dywed Marc eu bod i eneinio y claf âg olew. [Cymharer Iago 5:14]. Defnyddir iaomai yn yr ail adnod, iachâu, term mwy cyffredinol. clefydau. 2Ac efe a'u hanfonodd hwynt i bregethu Teyrnas Dduw, ac i iachâu y#9:2 y cleifion א A C D L La. [Tr.] Diw.: Gad. B. Al. Ti. WH. cleifion#9:2 Llyth.: y gweiniaid.. 3Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddygwch#9:3 Llyth.: Na chymmerwch i fyny. Marc, ond llaw‐ffon yn unig (6:8), Matthew Na feddwch, h. y. na pharotowch, na phrynwch, &c. Nid oes croes‐ddywediad. Y meddwl yn Matthew a Luc ydyw, na ddylent brynu, neu fynu yr hyn nad oedd yn barod yn eu meddiant; ond os oedd ganddynt ffon, yr oeddynt at eu rhyddid i'w chymmeryd. ddim ar gyfer y daith, na llaw‐ffon#9:3 ffon א B C D Brnd.; ffyn A Δ., nac ysgrepan, na bara, nac arian, ac na fydded genych ddwy o is‐wisgoedd#9:3 yr un A D [Al.] [Tr.]: Gad. א B C L WH. Diw.. 4Ac i ba dŷ bynag yr eloch i mewn, aroswch yno, ac oddiyno yr ewch allan. 5A pha rhai bynag ni'ch derbyniant, fel yr eloch allan o'r Ddinas hono, ysgydwch#9:5 Yma ac yn Act 28:5 y llwch oddiwrth eich traed, er tystiolaeth yn eu herbyn. 6A hwy a aethant allan, ac a aethant drwy y pentrefi, gan efengylu a gwellhâu yn mhob lle.
Dyryswch Herod Antipas
[Mat 14:1, 2; Marc 6:14–16]
7A Herod y Tetrarch#9:7 Gwel 3:19 a glybu y cwbl oll a wnaethid#9:7 ganddo A X: Gad. א B C D L Brnd., ac efe gythryblwyd#9:7 Yma yn unig yn y ffurf gyfansawdd; myned trwy yr oll yn ei feddwl, heb weled ffordd allan o'r dyryswch. yn ddirfawr, o herwydd y dywedid gan rai, Ioan a gyfododd o feirw; 8a chan rai, Elias a ymddangosodd#Mal 4:5; a chan eraill, Y mae rhyw#9:8 rhywun א B C L Brnd.: un A. Broffwyd#9:8 Deut 18:15; Num 24:17. Yn marn rhai Iuddewon, yr oedd Jeremiah, yr hwn a alarnadodd uwch ben dadfeiliad Jerusalem, i ddyfod drachefn i gyhoeddi dyfodiad y Messia, ac i weled Jerusalem Newydd ogoneddus. Gwel 2 Esdras 2:10, 18; 1 Maccabeus 14:41, un o'r rhai cyntefig, wedi adgyfodi. 9Ond dywedodd Herod, Ioan y torais i ei ben: ond pwy yw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau am dano? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef#9:9 Ni fu Crist unwaith yn nhref newydd, ond paganaidd, Tiberias..
Y Pum Mil a'r Pum Torth
[Mat 14:13–21; Marc 6:30–44; Ioan 6:1–14]
10A'r Apostolion, pan ddychwelasant, a draethasant iddo gymaint âg a wnaethant. Ac efe a'u cymmerodd, ac a ymneillduodd yn ddirgelaidd#9:10 Neu, o'r neilldu, wrtho ei hun.#9:10 i Ddinas a elwir Bethsaida B L Al. Ti. Tr. WH. Diw.: i le anghyfanedd yn perthyn i'r Ddinas a elwir Bethsaida A C La.: i le anghyfanedd א: i bentref a elwir Bethsaida D. i Ddinas a elwir Bethsaida#9:10 Bethsaida Julias, a elwid gan Herod Philip ar ol merch Augustus. Yr oedd ar du gogleddol Môr Tiberias.. 11Ond y torfeydd a wybuant, ac a'i canlynasant ef; ac efe a'u croesawodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am Deyrnas Dduw, ac efe a iachâodd y rhai oedd eisieu gwellhâd arnynt. 12A'r dydd a ddechreuodd dreulio#9:12 Klinô, ymgrymu, syrthio yn ol, gostwng, pallu. allan: a'r Deuddeg a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Gollwng ymaith y dyrfa, fel yr elont i'r pentrefi, ac i'r lleoedd gwledig oddi amgylch, i letya#9:12 Kataluô, gollwng, dinystrio, neu dynu i lawr (megys yr iau oddiar yr anifeiliaid llwythog); yna, gorphwys, lletya. a chael lluniaeth#9:12 Episitismos, darpariad ymborth, yn enwedig i fyddin, neu eraill ar daith: yr oedd y milwyr yn fynych yn derbyn rhan o'u tâl mewn ymborth. Felly y mae yr hyn a fwyteir yn cael ei gyfieithu cyflog. Gwel Luc 3:14 (yma yn unig).: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfanedd. 13Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes genym ni fwy na phum torth a dau bysgodyn: oni bydd i ni fyned a phrynu bwyd i'r bobl hyn oll. 14Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn gwmpeini#9:14 Klisia, caban, pabell (er gorphwys); yna, cadair i led‐orwedd arni, glwth; yna, cwmpeini, yn cyfarfod er gorphwys neu fwyta, [yma yn unig yn y T. N.], oddeutu#9:14 oddeutu א B C D L Brnd.: Gad. A X. deg a deugain yr un. 15A hwy a wnaethant felly, ac a wnaethant iddynt oll eistedd. 16Ac efe a gymmerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r Nef, efe a'u bendithiodd, ac a'u torodd yn ddarnau, ac a'u rhoddodd i'r Dysgyblion i'w gosod gerbron y dyrfa. 17A hwynt‐hwy oll a fwytasant, ac a ddigonwyd: a chyfodwyd o'r hyn oedd yn ngweddill iddynt o'r briwsion, ddeuddeg basgedaid#9:17 Yma defnyddir Kophinos, gwel Mat 15:38..
Cyffes Petr a rhag‐ddywediad Crist
[Mat 16:13–16, 20, 21; Marc 8:27–31]
18A bu, fel yr oedd efe yn gweddio wrtho ei hun#9:18 Kata monas, mewn cyferbyniaeth i'w bresenoldeb gyda'r dyrfa, heb gau allan gymdeithion a chyfeillion., fod ei Ddysgyblion gyd âg ef: ac efe a ofynodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae y torfeydd yn dywedyd fy mod i? 19A hwy a atebasant ac a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ac eraill Elias#Mal 4:5: ac eraill, Prophwyd, rhyw un o'r rhai cyntefig a adgyfododd. 20Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eithr pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phetr a atebodd ac a ddywedodd,
Crist Duw#9:20 Gwel 1 Cor 3:23; Luc 2:26; 4:18.
21Ond efe a'u rhybuddiodd yn llym, ac a orchymynodd iddynt na ddywedent hyn i neb#9:21 Gwel Ioan 6:15, 22gan ddywedyd, Y mae yn rhaid i Fab y Dyn oddef llawer, a'i wrthod#9:22 Apodokimazô. Dokimasia oedd yr ymchwiliad a wnaed i gymhwysderau cyfreithlawn un oedd wedi ei ddewis i swydd, megys ynad, &c. Felly dynoda y ferf, gwrthod ar ol ymchwiliad, &c. o ran yr Henuriaid, a'r Arch‐offeiriaid, a'r Ysgrifenyddion, a'i ladd, a'i gyfodi#9:22 gyfodi א B L Ti. Tr. WH. Diw.: adgyfodi A C D Al. La. y trydydd dydd.
Gwerth dyoddef er mwyn Crist
[Mat 10:38, 39; 16:24–28; Marc 8:34—9:1; Ioan 12:25]
23Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded#9:23 ymwaded א A D L Brnd. — ymwaded yn hollol B C [o Mat a Marc]. âg ef ei hun, a chyfoded ei groes beunydd, a chanlyned fi. 24Canys pwy bynag a ewyllysio gadw ei einioes#9:24 Gwel Marc 8:35, a'i cyll hi: a phwy bynag a gollo ei einioes o'm hachos i, hwnw a'i ceidw hi. 25Canys pa leshâd i ddyn, pan wedi enill yr holl fyd, ac wedi colli neu fforffedu#9:25 Gwel Marc 8:36 ei hun#9:25 Neu, ac wedi dinystrio ei hun, a dyoddef colled.? 26Canys pwy bynag y bydd arno gywilydd o honof fi a'm geiriau, bydd ar Fab y Dyn gywilydd o hwnw, pan y daw yn ei Ogoniant ei hun, a'i Dâd, a'r Angelion Sanctaidd. 27Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, Mewn gwirionedd y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma a'r ni phrofant#9:27 Yn rhai o'r cyfansoddiadau Dwyreiniol arddangosir Angeu yn gosod dynion i farwolaeth drwy eu gorfodi i yfed o wlybwr gwenwynig. angeu o gwbl, hyd oni welont Deyrnas Dduw.
Gwedd‐newidiad Crist
[Mat 17:1–9; Marc 9:2–10]
28A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi y geiriau hyn, efe a gymmerodd gyd âg ef Petr, ac Ioan, ac Iago, ac a aeth i'r Mynydd#9:28 Traddodiad a gyfeiria at Fynydd Tabor, ond diamheu mai Hermon a olygir; canys efe sydd yn deilwng o'i alw yn fynydd “uchel” (Mat a Marc: yr oedd yn 10,000 troedfedd). Yr oedd o fewn taith chwe diwrnod i Cesarea Philippi: yr oedd ar ben Tabor amgaerfa a llawer o filwyr yno yn barhaus, ac felly yn anghymwys i'r amgylchiad hwn; Y Mynydd yw ystyr Hermon; yr oedd yn barod wedi ei gysegru gan farddoniaeth Hebreig (Salm 133:3), a than ei hen enw Sion (Deut 4:48). Yr oedd y mwyaf cyfaddas i fod yn Fynydd y Gwedd‐newidiad. i weddio. 29A phan yr oedd efe yn gweddio, ymddangosiad ei wyneb‐pryd ef a aeth yn wahanol, a'i ddillad ef yn wyn ddysglaeriol#9:29 Llyth.: melltenu allan, tywynu fel mellten.. 30Ac wele dau wr oeddynt yn cyd‐ymddiddan âg ef, y rhai oedd Moses ac Elias; 31y rhai a ymddangosasant mewn Gogoniant, ac a ddywedasant am ei Ymadawiad#9:31 Exodos, ei daith allan, yn cynnwys yn ychwanegol at ei ing a'i farwolaeth, ei gladdedigaeth, ei Adgyfodiad, a'i Esgyniad. Yma yn unig ac 2 Petr 1:15. Yr Exodus o'r Aipht oedd ond dechreuad: Crist oedd i'w gwblhâu i'r Ganaan Nefol., yr hwn yr oedd efe ar ei gyflawnu yn Jerusalem. 32Ond Petr, a'r rhai oedd gyd âg ef, oeddynt wedi trymhâu gan gwsg, ond wedi iddynt aros yn hollol effro#9:32 Llyth.: gwylied trwy, yna, bod yn hollol ar ddihûn., hwy a welsant ei Ogoniant ef, a'r ddau wr oedd yn sefyll gyd âg ef. 33A bu, fel yr oeddynt yn ymadael#9:33 Llyth.: yn ymwahanu. oddi wrtho ef, dywedodd Petr wrth yr Iesu, O Feistr#9:33 Gwel 5:5, Da yw i ni fod yma; a bydded i ni wneuthur tair pabell#9:33 Neu, bwth., un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias: heb wybod pa beth y mae yn ei ddywedyd. 34Ac efe yn dywedyd y pethau hyn, daeth cwmwl, ac a gysgododd drostynt, a hwy a ofnasant pan yr aethant#9:34 Sef, Crist, Moses, ac Elias. Gwel Ex 14:19; 19:16; Salm 104:3 i mewn i'r cwmwl. 35A llef a ddaeth allan o'r cwmwl, yn dywedyd,
Hwn yw fy Mab, fy#9:35 fy Etholedig א B L Brnd.: fy Anwylyd [Hwn yw fy anwyl Fab] A C D [o Mat 17:5; Marc 9:7]. Etholedig: gwrandêwch ef.#Salm 2:7, 12; Es 42:1
36A phan ddarfyddodd#9:36 Neu, ddaeth. y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwynt‐hwy a fuant ddystaw, ac ni fynegasant i neb yn y dyddiau hyny ddim o'r pethau yr oeddynt wedi eu gweled.
Gwella y llanc masglwyfus
[Mat 17:14–18; Marc 9:14–27]
37A bu dranoeth, fel yr oeddynt yn dyfod i waered o'r Mynydd, tyrfa fawr a gyfarfu âg ef. 38Ac wele, gwr o'r dyrfa a waeddodd, gan ddywedyd, Athraw, yr wyf yn deisyf arnat, edrych ar fy mab: canys efe yw fy unig‐anedig. 39Ac wele, y mae yspryd yn ei gymmeryd ef, ac yn ddisymwth y mae efe yn gwaeddi, ac yn ei ddirdynu#9:39 Neu, rwygo, dryllio., hyd oni falo ewyn#9:39 Llyth.: yn ei ddirdynu gyd âg ewyn., a braidd y mae yn ymadael oddi wrtho, gan ei lethu#9:39 Llyth.: ei friwo ynghyd, ei ddirwasgu, ysigo. yn flin. 40A mi a ddeisyfais ar dy Ddysgyblion di ei fwrw ef allan, ac nis gallasent. 41A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O Genedlaeth anffyddiog#9:41 Anffyddiog yn hytrach nag anffyddlawn; heb ffydd, anghrediniol. Gwel 1 Cor 7:14, 15; Titus 1:15; Dad 21:8 a throfäus#9:41 Neu, gwrthnysig, llygredig, cyfeiliornus., hyd pa bryd y byddaf gyd â#9:41 Pros, gyd â, mewn cymdeithas agos â; (â'm gwyneb) tuag atoch. Yr oedd efe yn myned at y Tâd, yr oedd am droi ei wyneb tua thre’, ond yr oedd eu cynydd mewn ffydd môr araf, fel yr oedd yn rhaid iddo aros gyd â hwy am enyd eto. Gwel Ioan 1:1 “A'r Gair oedd gyd á (pros) Duw;” megys a'i wyneb tuag ato, mewn cymundeb bendigedig â'i Dâd. chwi, ac y byddaf ymarhöus wrthych? Dwg yma dy fab. 42Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a'i taflodd#9:42 Neu, a'i rhwygodd. i lawr, ac a'i dirdynodd yn flin. Ond yr Iesu a geryddodd yr yspryd aflan, ac a iachâodd y plentyn, ac a'i rhoddodd ef yn ol i'w dâd. 43A tharawyd hwynt oll â syndod gan#9:43 Llyth.; ar, wrth. Fawrhydi#9:43 Gorwychder gweledig o fawredd a gallu, megys ar adeg y Gwedd‐newidiad (2 Petr 1:16); mawredd Diana, fel yn cael ei arddangos yn Mawr‐wychder ei Theml (Act 19:27). Duw.
Crist yr ail waith yn rhagfynegi ei Farwolaeth
[Mat 17:22, 23; Marc 9:30–32]
Ac fel yr oedd pawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai#9:43 yr Iesu A C: Gad. א B D L Brnd., efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, 44Gosodwch yn#9:44 Llyth.: i. eich clustiau y geiriau hyn: canys Mab y Dyn sydd ar gael ei draddodi i ddwylaw dynion. 45Eithr hwy oeddynt anwybodus o'r peth#9:45 Neu, gair. hwn, ac yr oedd wedi cael ei guddio oddi wrthynt, fel na chanfyddent ef: a hwy a ofnasant ofyn iddo am y peth hwn.
Mawredd Cristionogol
[Mat 18:1–5; Marc 9:33–37]
46A daeth i mewn ddadl yn eu plith: Pwy fyddai y mwyaf o honynt. 47A'r Iesu yn#9:47 yn gweled A C D L Al. La. Tr. Diw.: yn gwybod א B Ti. WH. gwybod ymresymiad eu calon hwynt, a gymmerodd afael mewn plentyn bychan, ac a'i gosododd ef yn ei ymyl, 48ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynag a dderbynio y plentyn bychan hwn yn#9:48 Llyth.: ar, h. y. ar sail fy enw i, yn cael ei ddylanwadu gan barch i fy enw, a chariad ataf. fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynag a'm derbynio i, sydd yn derbyn yr Hwn a'm hanfonodd i: canys yr hwn sydd o'r dechreu y lleiaf#9:48 Gr. llai. yn eich plith chwi oll, hwn sydd#9:48 sydd א B C L Brnd.: fydd A D. fawr.
Goddef Anghydffurfiaeth
[Marc 9:38–40]
49Ac Ioan a atebodd ac a ddywedodd, O Feistr#9:49 Gwel 5:5, Ni a welsom ryw un yn#9:49 Llyth.: ar, h. y. ar sail fy enw i, yn cael ei ddylanwadu gan barch i fy enw, a chariad ataf. dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyd â ni. 50A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waherddwch: canys yr hwn nid yw yn eich#9:50 eich herbyn, trosoch chwi Brnd.: i'n herbyn, trosom ni א: i'ch herbyn, trosom ni A. herbyn, trosoch#9:50 eich herbyn, trosoch chwi Brnd.: i'n herbyn, trosom ni א: i'ch herbyn, trosom ni A. chwi#9:50 Gwel Num 11:27–29 y mae.
Ei wrthod gan y Samariaid: yspryd dialgar Meibion y Daran.
51A bu, pan yr oedd dyddiau ei Esgyniad#9:51 Llyth.: ei gymmeryd i fyny. Yma yn unig yn y T. N. Y ferf yn Marc 16:19; “a gymmerwyd i fyny i'r Nef.” Gwel hefyd Act 1:2, 11, 22; 1 Tim 3:16. Dechreuodd y dyddiau hyn gyd â dadganiad Crist o'i ddyoddefiadau. yn cael eu cyflawnu, efe a gyfeiriodd ei wyneb yn ddiymod i fyned i Jerusalem. 52Ac efe a ddanfonodd genadau o flaen ei wyneb; a hwy wedi myned, a aethant i mewn i bentref Samariaid, er parotoi iddo ef. 53Ac nis derbyniasant hwy ef, oblegyd fod ei wyneb ef yn cyfeirio#9:53 Llyth.: yn myned. tua Jerusalem. 54A'i Ddysgyblion ef, Iago ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, A ewyllysi di ddywedyd o honom am i dân ddisgyn o'r Nef, a'u difa hwynt#9:54 Yr oeddynt yn gweithredu yn yspryd y Talmud, yn yr hwn yr ysgrifenid, ‘Na fydded i'r Samariaid gael rhan yn yr Adgyfodiad’. “Pa ryfedd i Feibion y Daran i ddymuno i fellt i fflachio!” Emrys.#9:54 megys y gwnaeth Elias A C D La. Al.: Gad. א B L Ti. Tr. WH. Diw.? 55Ond efe a drôdd ac a'u ceryddodd hwynt#9:55 ac a ddywedodd, ni wyddoch o ba yspryd yr ydych chwi D: Gad. א A B C L Brnd.. 56A#9:56 Canys ni ddaeth Mab y Dyn i distrywio eneidiau dynion, ond i'w cadw. Nid ydynt yn un o'r prif‐law‐ysg. Gad. א A B C L, &c. Brnd. [o 19:10; neu Mat 18:11]. hwy a aethant i bentref gwahanol#9:56 Gwahanol. pentref Iuddewig, ac nid yn perthyn i'r Samariaid..
Amodau canlyn Crist
[Mat 8:18–22]
57Ac fel yr oeddynt yn rhodio yn y ffordd, rhyw un a ddywedodd wrtho, Mi a'th ganlynaf di i ba le bynag yr elych#9:57 Llyth.: yr elych ymaith#9:57 O Arglwydd A C Al.: Gad. א B D L La. Ti. Tr. WH. Diw.. 58A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod lechfaoedd#9:58 Gwel Mat 8:20, a chan ehediaid y Nefoedd drigfanau#9:58 Gwel Mat 8:20, ond gan Fab y Dyn nid oes ganddo le i roddi ei ben i lawr. 59Ac efe a ddywedodd wrth un arall#9:59 Llyth.: gwahanol., Canlyn fi. Ond efe a ddywedodd, Caniatâ i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhâd. 60Eithr efe a ddywedodd wrtho, Gâd i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain: ond tydi, dos ymaith, a mynega ar led Deyrnas Dduw. 61Ac arall#9:61 Llyth.: gwahanol. hefyd a ddywedodd, Mi a'th ganlynaf di, O Arglwydd: ond yn gyntaf caniatâ i mi ganu yn iach#9:61 Apotassesthai, mewn Groeg clasurol, gosod o'r neilldu, neillduo i swydd; felly danfon un ymaith gyd â chyfarwyddiadau, &c. Efallai y gellir rhoddi yr ystyr hyn i'r gair yma: ‘caniatâ i mi i wneyd trefniadau,’ &c.; ond golyga ffarwelio yn y T. N. Marc 6:46; Luc 14:33; Act 18:18; 2 Cor 2:13 i'r rhai sydd yn fy nhŷ. 62A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a'r sydd yn rhoddi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ol, yn gymhwys#9:62 Llyth.: iawn‐osodedig, yn dda yn ei le. i Deyrnas Dduw.

Trenutno izabrano:

Luc 9: CTE

Istaknuto

Podijeli

Kopiraj

None

Želiš li da tvoje istaknuto bude sačuvano na svim tvojim uređajima? Kreiraj nalog ili se prijavi