Matthew Lefi 24
24
DOSBARTH XIII.
Y Broffwydoliaeth ar Fynydd yr Olewwydd.
1-2Fel yr oedd Iesu yn cerdded allan o’r deml, ei ddysgyblion á ddaethant, ac á wnaethant iddo sylwi àr ei hadeiladau. Iesu á ddywedodd wrthynt, Chwi á welwch hyn oll; Yn wir, meddaf i chwi, ni adewir yma gàreg àr gàreg. Y cwbl á lwyrddymchwelir.
3-6Fel yr oedd efe yn eistedd àr Fynydd yr Oleẅwydd, ei ddysgyblion á’i cyfarchasant ef o’r neilldu, gàn ddywedyd, Dywed i ni pa bryd y dygwydd hyn; a pha beth fydd arwydd dy ddyfodiad, a dybeniad y cyflwr hwn? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Gochelwch rhag i neb eich hudo chwi; canys llawer á gymerant arnynt fy nodwedd i, gàn ddywedyd, Myfi yw y Messia, ac á hudant lawer. Na, chwi, á gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd; ond gwelwch na chyffröer chwi: oblegid rhaid i’r pethau hyn oll ddygwydd; ond nid yw y diwedd eto.
7-14Canys cenedl á gyfyd yn erbyn cenedl; a theyrnas yn erbyn teyrnas; a bydd newynau a heintiau, a daiargrynfëydd mewn amrai fànau. Eto nid yw y pethau hyn ond dechreuad gofidiau. Canys hwy á’ch traddodant i arteithiau, ac i angeu, a chwi á gasêir gàn bob cenedl o’m hachos i. Yna y meglir llawer, ac y bradychant eu gilydd, ac y casâant eu gilydd. A geubroffwydi lawer á gyfodant, ac á hudant lawer. Ac erwydd yr amlâa drygioni, cariad y rhan fwyaf á oera. Ond y neb á barâo hyd y diwedd, a fydd cadwedig. A’r efengyl hon am y Teyrnasiad á gyhoeddir drwy yr holl fyd, èr hysbysrwydd i bob cenedl. Ac yna y daw y diwedd.
15-22Pan weloch, gàn hyny, àr dir santaidd, y ffieidd‐dra annghyfanneddol à ragddywedwyd gàn Ddaniel y Proffwyd, (ddarllenydd, ystyria!) yna y rhai fyddont yn Iuwdëa, fföant i’r mynyddoedd; y sawl fyddo àr ben y tŷ, na ddisgyned i gymeryd pethau allan o’i dŷ; a’r sawl fyddo yn y maes, na ddychweled i gymeryd ei fantell. Ond gwae y rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoddi sugn, yn y dyddiau hyny! Gweddiwch, gàn hyny, na byddo eich fföad yn y gauaf, nac àr Seibiaeth; canys y pryd hyny y bydd gorthrymder cymaint, na bu ei fath èr dechreu y byd hyd yn awr, a ni bydd byth. Canys ped estynid yr amser, nis gallai un enaid fyw yn hwy; ond èr mwyn yr etholedigion, bydd yr amser yn fyr.
23-28Os dywed neb wrthych y pryd hyny, Wele! y mae y Messia yma, neu y mae efe acw, na chredwch: canys geu‐Fessiäau, a geu‐broffwydi á gyfodant, y rhai á wnant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, nes hudo pe dichonadwy, yr etholedigion eu hunain. Cofiwch i mi eich rhybyddio chwi. – Am hyny, os dywedant, Y mae efe yn y diffeithwch nac ewch allan. Y mae efe yn yr ystafell, na chredwch. Canys bydd dyfodiad Mab y Dyn fel y fellten, yr hon á dỳr allan o’r dwyrain ac á dywyna hyd y gorllewin. Canys llebynag y byddo y gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod.
29-31Ac yn y fàn wedi y dyddiau hyny o orthrymder, y tywyllir yr haul, a’r lloer á ettyl ei goleuni: a’r ser á syrthiant o’r nef, a’r nerthoedd nefol á ysgydwir. Yna yr ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y nef, a holl lwythau y tir á alarant, pan welant Fab y Dyn yn dyfod àr gymylau y nef, gyda gallu a gogoniant mawr. Ac efe á enfyn ei gènadau gydag udgorn uchelsain, y rhai á gasglant ei etholedigion ef o bedryfanoedd daiar, o’r naill eithafed i’r byd hyd y llall.
32-36Dysgwch yn awr gyffelybiaeth oddwrth y ffigysbren. Pan fyddo ei gangenau yn dyner, a’i ddail yn tòri allan, gwyddoch bod yr haf yn agos. Yr un modd, pan weloch yr holl bethau hyn, gwybyddwch ei fod ef yn agos, ïe wrth y drws. Yn wir, meddaf i chwi, nid â y genedlaeth hon heibio, hyd oni ddygwyddo yr holl bethau hyn. Nef a daiar á ballant, ond fy ngeiriau i ni phallant byth. Ond am y dydd hwnw, a’r awr hòno, ni ŵyr neb, hyd yn nod yr angylion, ond y Tad yn unig.
37-41A’r hyn á fu yn amser Nöa, á fydd hefyd yn nyfodiad Mab y Dyn. Canys fel yn y dyddiau o flaen y dylif, ïe hyd y dydd yr aeth Nöa i fewn i’r arch, yr oeddynt yn bwyta, ac yn yfed, ac yn priodi, a nid oeddynt yn drygdybio dim, nes y daeth y dylif a’u hysgubo hwynt oll ymaith: felly y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn. Dau fyddant yn y maes; un á gymerir, a’r llall á adewir. Dwy fyddant yn malu mewn melin; un á gymerir, a’r llall á adewir.
42-44Gwyliwch, gàn hyny, gàn na wyddoch pa awr y daw eich Meistr. Dir genych pe gwybuasai gŵr y tŷ pa amser o’r nos y daethai y lleidr, y gwyliasai, a ni adawsai iddo dòri i fewn iddei dŷ. Byddwch chwithau, gàn hyny, bob amser yn barod; canys daw Mab y Dyn àr awr na byddoch yn ei ddysgwyl ef.
45-51Pwy, yn awr, yw y gwas synwyrol a ffyddlawn, yr hwn á osododd ei feistr àr ei deulu, i gyfranu iddynt eu dogn yn reolaidd? Dedwydd fydd y gwas hwnw, os caiff ei feistr ef, àr ei ddychweliad, yn gwneuthur felly. Yn wir, meddaf i chwi, efe á ymddiried iddo drefnidaeth ei holl feddiannau. Ond am y gwas drygionus, yr hwn á ddywed ynddo ei hun, Y mae fy meistr yn gohirio ei ddyfodiad, ac á gura ei gydweision, ac á wledda ac á loddesta gyda meddwon, meistr y gwas hwnw á ddaw àr ddydd na byddo efe yn ei ddysgwyl, ac àr awr na byddo efe gwedi ei hysbysu am dani, a gwedi ei ddiswyddo, efe á bènoda iddo ei ràn yn mhlith y rhai bradwrus. Wylofain a rhinician dannedd fydd yno.
Currently Selected:
Matthew Lefi 24: CJW
Označeno
Deli
Kopiraj
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fsl.png&w=128&q=75)
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.