Matthew Lefi 23
23
1-12Yna Iesu á gyfarchodd y bobl a’i ddysgyblion, gàn ddywedyd, Y mae yr Ysgrifenyddion a’r Phariseaid yn eistedd yn nghadair Moses; am hyny cadẅwch a gwnewch bethbynag á beront i chwi; èr hyny, na ddylynwch eu hangraifft hwynt, canys dywedant, a ni wnânt. Y maent yn parotoi beichiau trymion ac anhyddwyn i ysgwyddau ereill, beichiau na wnant hwy eu hunain, roddi bys wrthynt. Ond bethbynag á wnant, hwy á’i gwnant èr cael eu gweled gàn ddynion. Er mwyn hyn, gwisgant #23:1 Phylacterau.gadwadogion llettach nag ereill, a siobynau mwy àr eu mantelli; a charant y lleoedd uchaf mewn gwleddau, a’r prif esteddlëoedd yn y cynnullfëydd, a chyfarchiadau mewn lleoedd cyhoeddus; a chlywed rhai wrth eu hanerch, yn gwaeddi, Rabbi, Rabbi. Ond am danoch chwi, na chymerwch yr enwawd Rabbi; canys nid oes i chwi ond un athraw; a na alẅwch neb àr y ddaiar yn dad i chwi, canys efe yn unig, yr hwn sydd yn y nefoedd, yw eich tad chwi; a chwithau oll brodyr ydych. Na chymerwch chwaith yr enwawd – arweinwyr; canys nid oes i chwi ond un arweinydd, yr hwn yw y Messia. Yn y gwrthwyneb, y mwyaf o honoch chwi, fydd yn was i chwi; canys pwybynag á ddyrchafo ei hun á ostyngir; a phwybynag á ostyngo ei hun á ddyrchefir.
13Ond gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid! ragrithwyr! am eich bod yn cau teyrnas y nefoedd rhag dynion; a ni wnewch na myned i fewn eich hunain, na gadael i ereill, à ewyllysient, fyned i fewn.
14Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid! ragrithwyr! am eich bod yn difa teuluoedd gwragedd gweddwon, ac yn arfer gweddiau hirion yn rhithesgus. Ni wna hyn ond trymâu eich cosbedigaeth.
15Gwae chwi, Ysgrifenyddion, a Phariseaid! ragrithwyr! am eich bod yn tramwyo môr a thir i wneuthur un #23:15 Proselyt.tröedigyn! a phan enniller ef, yr ydych yn ei wneuthur yn fab uffern, ddau cymaint â chwi eich hunain.
16-22Gwae chwi, arweinyddion deillion! y rhai á ddywedwch, “Tyngu i’r deml nid yw yn rhwymo, ond tyngu i aur y deml sydd yn rhwymo. Ynfydion a deillion! pa un fwy cysegredig, yr aur, ai y deml sydd yn cysegru yr aur? a thyngu i’r allor nid yw yn rhwymo, ond tyngu i’r offrwm sydd arni sydd yn rhwymo. Ynfydion a deillion! pa un fwy cysegredig, yr offrwm, ai yr allor sydd yn cysegru yr offrwm? Pwybynag, gàn hyny, sydd yn tyngu i’r allor, sydd yn tyngu iddi hi, ac i’r hyn oll sydd arni. A phwybynag sydd yn tyngu i’r deml, sydd yn tyngu iddi hi, ac i’r Hwn sydd yn preswylio ynddi; a phwybynag sydd yn tyngu i’r nef, sydd yn tyngu i orsedd Duw, ac i’r Hwn sydd yn eistedd arni.
23-24Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid! ragrithwyr! am eich bod yn talu degwm o’r mintys, yr anis, a’r cwmin, ac yn esgeuluso erthyclau pwysicach y gyfraith, cyfiawnder, trugaredd, a flyddlondeb. Dylasech fod wedi ymarferyd y rhai hyn, heb adael heibio y rhai yna. Arweinyddion deillion! yr ydych yn hidlo y gwybedyn, ac yn llyncu y cammarch.
25-26Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid! ragrithwyr! am eich bod yn glanâu y tu allan i’r cwpanau a’r dysglau hyny, y rhai oddifewn ydynt yn llawn trais ac anwiredd. Pharisead dall! dechreu drwy lanâu y tu fewn i’r gwpan a’r ddysgl, os mỳni wneyd hyd yn nod y tu allan yn lân.
27-28Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid! ragrithwyr! am eich bod yn debyg i feddrodau gwedi eu gwỳnu, y rhai oddallan, yn wir, ydynt heirdd, ond oddifewn ydynt lawn o lygredigaeth ac esgyrn y meirw. Felly yr ydych chwithau oddallan yn ymddangos yn gyfiawn i ddynion; ond yr ydych oddifewn yn llawn rhagrith ac annghyfiawnder.
29-33Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid! ragrithwyr! am eich bod yn adeiladu beddrodau y Proffwydi, ac yn addurno gwyddfeddi y cyfiawnion, ac yn dywedyd, Pe buasem ni yn byw yn nyddiau ein tadau, ni buasem ni yn gyfranogion â hwynt yn lladdiad y Proffwydi. Fel hyn yr ydych yn tystiolaethu yn eich erbyn eich hunain, eich bod yn feibion i’r rhai à lofruddiasant y Proffwydi. Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau. O! seirff, essill gwiberod! pa fodd y gallwch chwi ddianc rhag cosbedigaeth uffern?
34-36Am hyny, yr wyf yn anfon atoch Broffwydi a doethion, ac ysgrifenyddion. Rhai o honynt á leddwch ac á groeshoeliwch; ereill á fflangellwch yn eich cynnullfëydd, ac á alltudiwch o ddinas i ddinas; fel y gosodir yn eich herbyn chwi yr holl waed gwirion à dywalltwyd àr y ddaiar, o waed Abel y cyfiawn, hyd waed Zacharia, mab Barachia, yr hwn á laddasoch rhwng yr allor a’r cysegr. Yn wir, meddaf i chwi, hyn oll á osodir yn erbyn y genedlaeth hon.
37-39O Gaersalem, Gaersalem! yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio y sawl à anfona Duw atat, pa sawl gwaith y mỳnaswn gasglu dy blant yn nghyd, modd y casgl yr iar ei chywion dàn ei hadenydd, ond nis mỳnit! Ebrwydd y troir eich preswylfa yn ddiffeithwch: oblegid gwybyddwch na ’m gwelwch àr ol hyn, hyd oni ddywedoch, Bendigedig fyddo yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.”
Currently Selected:
Matthew Lefi 23: CJW
Označeno
Deli
Kopiraj
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fsl.png&w=128&q=75)
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.