1
Salmau 32:7-10
Salmau Cân Newydd 2008 (Gwynn ap Gwilym)
Ti ydyw fy nghysgod rhag adfyd. Yr wyt yn f’amgylchu â chân. Dywedaist, “Hyfforddaf di a’th ddysgu, A chadwaf dy lwybrau yn lân. Paid â bod fel mul neu fel ceffyl Ystyfnig y mae’n rhaid tynhau Yr enfa a’r ffrwyn i’w rheoli Cyn byth yr anturiant nesáu”. Daw poenau di-rif i’r drygionus, Ond cylch o ffyddlondeb byth yw Y gyfran gyfoethog sy’n aros Y sawl sy’n ymddiried yn Nuw.
Porovnať
Preskúmať Salmau 32:7-10
2
3
Salmau 32:5-6
Ac yna, bu imi gyfaddef Fy mhechod i gyd wrthyt ti. Dywedais, “Cyffesaf fy mhechod”, A bu iti faddau i mi. Am hyn, fe weddïa pawb ffyddlon, Fy Nuw, arnat ti dan eu clwy, A phan ddaw llifeiriant o ddyfroedd Ni chânt byth nesáu atynt hwy.
Preskúmať Salmau 32:5-6
4
Salmau 32:1-4
Mor ddedwydd y sawl y maddeuwyd Ei drosedd, y cuddiwyd ei gam, Na ddeil Duw’r un twyll yn ei erbyn, Nad oes yn ei ysbryd ddim nam. Tra oeddwn yn gwrthod cyfaddef, Fe nychwn, dan gwyno’n ddi-les; Yr oedd dy law’n drwm arnaf beunydd, A sychwyd fy nerth fel gan des.
Preskúmať Salmau 32:1-4
5
6
Domov
Biblia
Plány
Videá