Salmau 32:1-4
Salmau 32:1-4 SCN
Mor ddedwydd y sawl y maddeuwyd Ei drosedd, y cuddiwyd ei gam, Na ddeil Duw’r un twyll yn ei erbyn, Nad oes yn ei ysbryd ddim nam. Tra oeddwn yn gwrthod cyfaddef, Fe nychwn, dan gwyno’n ddi-les; Yr oedd dy law’n drwm arnaf beunydd, A sychwyd fy nerth fel gan des.