Logo YouVersion
Ikona Hľadať

Salmau 32:7-10

Salmau 32:7-10 SCN

Ti ydyw fy nghysgod rhag adfyd. Yr wyt yn f’amgylchu â chân. Dywedaist, “Hyfforddaf di a’th ddysgu, A chadwaf dy lwybrau yn lân. Paid â bod fel mul neu fel ceffyl Ystyfnig y mae’n rhaid tynhau Yr enfa a’r ffrwyn i’w rheoli Cyn byth yr anturiant nesáu”. Daw poenau di-rif i’r drygionus, Ond cylch o ffyddlondeb byth yw Y gyfran gyfoethog sy’n aros Y sawl sy’n ymddiried yn Nuw.