Matthew Lefi 14
14
1-2Y pryd hwnw, Herod y pedrarch, gwedi clywed sôn am Iesu, á ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Iöan y Trochiedydd; efe á gyfododd oddwrth y meirw, ac am hyny y cyflawnir gwyrthiau ganddo.
3-12Canys Herod á berasai ddal Ioan, ei garcharu, a’i rwymo, o achos Herodias gwraig Phylip ei frawd; canys Ioan á ddywedasai wrtho, Nid yw gyfreithlawn i ti ei chael hi. A mỳnasai Herod ei roddi ef i farwolaeth, ond yr oedd arno ofn y lliaws, y rhai á’i cyfrifent ef yn broffwyd. Ond pan gedwid dydd genedigaeth Herod, merch Herodias á #14:3 Ddawnsiodd.gorelwodd gèr bron y cymdeithion, ac á foddiodd Herod; am hyny, efe á dyngodd y rhoddai iddi bethbynag á ofynai. Hithau gwedi ei chymhell gàn ei mam, á ddywedodd, Dyro i mi yma àr ddysgl, ben Ioan y Trochiedydd. A drwg oedd gàn y brenin; èr hyny, o barch iddei lw a’i westeion, efe á orchymynodd ei roddi iddi. Yn ganlynol, Ioan á ddibènwyd yn y carchar wrth ei orchymyn ef. A’i ben ef á ddygwyd àr ddysgl, ac á gyflwynwyd i’r ferch ieuanc; a hithau á’i dyg ef iddei mam. Wedi hyny, ei ddysgyblion ef á aethant ac á ddygasant y corff, a gwedi ei gladdu ef, á ddaethant ac á fynegasant i Iesu.
13-14Pan glybu Iesu hyn, efe á longodd yn ddirgel, ac á giliodd i le anial; a’r bobl pan glywsant hyny, á’i canlynasant ef àr hyd y tir allan o’r dinasoedd. Wedi canfod wrth dirio o hono, dyrfa fawr, efe á dosturiodd wrthynt, ac á iachâodd eu cleifion hwynt.
15-21Tu a’r hwyr, ei ddysgyblion á’i cyfarchasant ef, gàn ddywedyd, Y mae y lle hwn yn annghyfannedd, a’r amser weithian á aeth heibio, gollwng ymaith y dyrfa, fel yr elont i’r pentrefydd, a phrynu iddynt eu hunain ymborth. Iesu á atebodd, Ni raid iddynt fyned. Diwallwch hwynt eich hunain. Hwythau á ddywedasant wrtho, Nid oes genym ni yma ond pumm torth a dau bysgodyn. Yntau á atebodd, Dygwch hwynt yma ataf fi. Yna gwedi gorchymyn i’r bobl ledorwedd àr y glaswellt, efe á gymerodd y pumm torth a’r ddau bysgodyn, a chàn edrych tua’r nef, á’u bendithiodd hwynt; yna gwedi tòri y torthau, efe á’u rhoddes iddei ddysgyblion, a hwy á’u rhànasant yn mhlith y bobl. Wedi i bawb fwyta a chael eu digoni, hwy á ddygasant ymaith ddeg a dwy fasgedaid o’r briwfwyd gweddill. A’r rhai à fwytasent, oeddynt yn nghylch pumm mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
22-33Yn ddiannod efe á ddirgymhellodd y dysgyblion i fyned i long, a myned drosodd o’i flaen ef, tra y byddai yntau yn gollwng ymaith y dyrfa. Gwedi iddo ollwng y dyrfa, efe á enciliodd wrtho ei hun i fynydd i weddio, ac á arosodd yno yn unig, nes ydoedd yn hwyr. Erbyn hyny, yr oedd y llong hanner y ffordd drosodd, yn cael ei lluchio gàn y tònau, o herwydd bod y gwynt yn groes. Yn y pedwerydd gwylbryd o’r nos, Iesu á aeth atynt, gàn gerdded àr y môr. Pan welodd y dysgyblion ef yn cerdded àr y môr, hwy á waeddasant, mewn dychryn, Drychiolaeth! ac á lefasant gàn ofn. Iesu yn ddiannod á siaredodd â hwynt, gàn ddywedyd, Cymerwch gysur, Myfi yw, nac ofnwch. Pedr gàn ateb, á ddywedodd wrtho, Feistr, os tydi yw, par i mi ddyfod atat àr y dwfr. Iesu á ddywedodd, Dyred. Yna Pedr wedi dyfod i lawr o’r llong á gerddodd àr y dwfr tuagat Iesu. Ond wrth ganfod bod y gwynt yn dymhestlog, efe á ddychrynodd; a phan yn dechreu suddo, efe á waeddodd, Feistr, achub fi. Iesu yn ebrwydd gàn estyn ei law, á’i daliodd ef; ac á ddywedodd wrtho, Ddyn anymddiriedus! paham yr ammheuaist? Wedi llongi o honynt, peidiodd y gwynt. Yna y rhai oedd yn y llong á ddaethant, ac á ymgrymasant o’i flaen ef, gàn ddywedyd, Yn ddiau Mab Duw wyt ti.
34-36Gwedi myned drosodd, hwy á diriasant àr diriogaeth Gennesaret, a thrigolion y lle hwnw, gwedi ei adnabod ef, á ddanfonasant drwy yr holl wlad hòno, ac á ddygasant ato yr holl rai afiach, y rhai á attolygasant arno adael iddynt gyfhwrdd ond â siobyn ei fantell ef; a chynnifer ag á gyfhyrddasant, á iachâwyd.
දැනට තෝරාගෙන ඇත:
Matthew Lefi 14: CJW
සළකුණු කරන්න
බෙදාගන්න
පිටපත් කරන්න

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්රවේශ වීමට අවශ්යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.