Matthew Lefi 11

11
1Pan orphenasai Iesu hyfforddi ei ddeg a dau ddysgybl, efe á ymadawodd oddyno i ddysgu a rhybyddio yn y dinasoedd.
DOSBARTH VI.
Nodwedd yr Amseroedd.
2-6Ac Iöan, wedi clywed yn y carchar, am weithredoedd y Messia, á ddanfonodd ddau o’i ddysgyblion, y rhai á ofynasant iddo, Ai tydi yw yr hwn sydd yn dyfod, ynte á raid i ni ddysgwyl un arall? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioän, y pethau à glywsoch ac á welsoch. Gwneir i’r deillion weled, i’r cloffion gerdded; gwahangleifion á lanêir; y byddariaid á glywant, y meirw á gyfodir; a newydd da á ddygir i’r tylodion; a dedwydd yw y sawl, na byddaf yn dramgwyddfa iddo.
7-15Gwedi iddynt ymadael, Iesu á ddywedodd wrth y bobl am Ioän, Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch iddei weled? Ai corsen yn cael ei hysgwyd gàn y gwynt? Ond pa beth yr aethoch allan iddei weled? Ai dyn wedi ei ddilladu yn fwythus? Palasau breninoedd y mae y cyfrai yn eu cynniwair. Beth ynte yr aethoch allan iddei weled? Ai proffwyd? Ië, meddaf i chwi, a rhywbeth uwch na phroffwyd; canys hwn yw efe, am yr hwn yr ysgrifenwyd, “Wele, mi á anfonaf fy angel o’th flaen, yr hwn á barotöa dy ffordd.” Yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, yn mhlith y rhai à aned o wragedd, ni chododd neb mwy nag Ioän y Trochiedydd. Eto y lleiaf yn Nheyrnasiad y Nefoedd sy fwy nag ef. Oddar ymddangosiad cyntaf Ioän y Trochiedydd hyd yn awr, yr ydys yn goresgyn teyrnas y nefoedd, a goresgynwyr sydd yn cymeryd meddiant drwy drais. Canys hyd onid ymddangosodd Iöan, yr holl broffwydi a’r gyfraith oeddynt eich hyfforddwyr: ac os goddefwch ddywedyd wrthych, dyma yr Elias yr hwn oedd i ddyfod. Pwybynag sy ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.
16-19Ond i ba beth y cyffelybaf y genedlaeth hon? Tebyg ydyw i fechgyn yn y farchnadfa, wrth y rhai y cwyna eu cydchwarëyddion, gàn ddywedyd, Chwarëasom i chwi àr y bibell, ond ni ddawnsiasoch; canasom i chwi alargerddi, ond ni chwynfanasoch. Canys daeth Iöan yn ymattal oddwrth fwyd a diod, a dywedant, Y mae cythraul ganddo: daeth Mab y Dyn yn arfer bwyd a diod, a dywedant, Carwr gwleddau a gwin ydyw, cydymmaith tollwyr a phechaduriaid. Ond doethineb á gyfiawnêir gàn ei phlant.
20-24Yna y dechreuodd efe edliw i’r dinasoedd, yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o’i wyrthiau ef, am na ddiwygiasant. Gwae di, Chorazin! Gwae di, Bethsaida! Canys pe gwnaethid yn Nhyrus a Sidon, y gwyrthiau à wnaethwyd ynoch chwi, hwy á ddiwygiasent èr ys talm mewn sachlian a lludw. Gwybyddwch, gàn hyny, y bydd cyflwr Tyrus a Sidon, yn nydd y farn, yn fwy goddefadwy, na’r eiddoch chwi. A thithau, Capernäum, yr hon á ddyrchafwyd hyd y nef, á dynir i lawr hyd Hades; canys pe gwnaethid yn Sodoma, y gwyrthiau à wnaethwyd ynot ti, buasai yn aros hyd yn awr. Gwybydd, gàn hyny, y bydd cyflwr Sodoma, yn nydd y farn, yn fwy goddefadwy na’r eiddot ti.
25-26Ar yr achlysur hwnw, dywedodd Iesu, yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daiar, o herwydd, wedi celu o honot y pethau hyn oddwrth ddoethion a’r dysgedigion, i ti eu dadguddio hwynt i fabanod; ïe, O Dad, oblegid dyna yw dy ewyllys.
27-30Pob peth á roddwyd i mi gàn fy Nhad; a nid edwyn neb y Mab, ond y Tad; a nid edwyn neb y Tad, ond y Mab, a’r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddadguddio iddo. Deuwch ataf fi, bawb ag ydych yn ymboeni a gwedi eich beichio, a mi á esmwythâf arnoch. Cymerwch fy iau i arnoch, a dysgwch genyf fi; canys addfwyn ydwyf ac iselfrydig, a’ch eneidiau á gânt esmwythâad. Canys fy iau i sydd esmwyth, a’m baich i sydd ysgafn.

දැනට තෝරාගෙන ඇත:

Matthew Lefi 11: CJW

සළකුණු කරන්න

බෙදාගන්න

පිටපත් කරන්න

None

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්‍රවේශ වීමට අවශ්‍යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න

Matthew Lefi 11 සම්බන්ධව නිදහස් කියවීමේ සැලසුම් සහ පූජනීයත්වය

YouVersion ඔබේ අත්දැකීම පෞද්ගලීකරණය කිරීමට කුකීස් භාවිතා කරයි. අපගේ වෙබ් අඩවිය භාවිතා කිරීම මගින්, අපගේ රහස්‍යතා ප්‍රතිපත්තිහි විස්තර කර ඇති පරිදි අපගේ කුකීස් භාවිතයට ඔබ එකඟ වේ