Matthew Lefi 10
10
1-5A gwedi galw ato ei ddeg a dau ddysgybl, efe á roddes iddynt allu i fwrw allan ysbrydion aflan, ac i iachâu clefydon ac anhwylderau o bob math. A dyma enwau y deg a dau apostol; Y cyntaf, Simon, à elwir Pedr, ac Andreas ei frawd; Iago, mab Zebedëus ac Iöan ei frawd; Phylip a Bartholomeus; Thomas a Matthew y tollwr; Iago, mab Alphëus, a Lebbëus, á gyfenwir Thadëus; Simon y Canaanëad, a Iuwdas Iscariot, yr hwn á’i bradychodd ef. Y deuarddeg hyn á #10:1 Awdurdododd; commissioned.genadwriaethodd Iesu, gàn eu haddysgu hwynt, a dywedyd,
6-10Nac ewch ymaith at y Cenedloedd, nac i fewn i ddinas Samariaidd; ond ewch yn uniawn at ddefaid colledig cyff Israel. Ac wrth fyned, cyhoeddwch, gàn ddywedyd, Y mae Teyrnasiad y Nefoedd yn agosâu. Iachewch y cleifion, cyfodwch y meirw, glanewch y gwahangleifion, bwriwch allan gythreuliaid; yn rad y derbyniasoch, rhoddwch yn rad. Na ddodwch aur, neu arian, neu efydd, yn eich gwregysau; na chariwch ysgrepan teithio, na pheisiau dros bèn digon, esgidiau na ffon; canys y mae y gweithiwr yn deilwng o’i gynnaliaeth.
11-15Ac i ba ddinas neu bentref bynag yr eloch, ymofynwch pa ddyn o deilyngdod sydd yn byw yno; ac aroswch gydag ef, hyd oni adawoch y lle. Pan eloch i’r tŷ, anerchwch y teulu. Os bydd y teulu yn deilwng, y tangnefedd à ewyllysiwch iddynt, á ddaw arnynt; os na byddant deilwng, efe á adchwel arnoch eich hunain. Pa le bynag ni’ch derbyniant, a nid ystyriant eich geiriau, wrth ymadael o’r tŷ hwnw, neu y ddinas hòno, ysgydwch y llwch oddwrth eich traed. Yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, y bydd cyflwr Sodoma a Gomora yn fwy goddefadwy yn nydd y farn, na chyflwr y ddinas hòno.
16-22Wele! yr wyf yn eich anfon allan fel defaid yn nghanol bleiddiaid. Byddwch, gàn hyny, gall fel y seirff, a diniwaid fel y colomenod. Ond ymogelwch rhag y dynion hyn; canys hwy á’ch rhoddant i fyny i gynghorau, ac á’ch fflangellant chwi yn eu cynnullfëydd; a chwi á ddygir gèr bron llywiawdwyr a breninoedd, o’m hachos i, i ddwyn tystiolaeth iddynt hwy, ac i’r Cenedloedd. Ond pan roddant chwi i fyny, na phryderwch pa fodd, neu pa beth á lefaroch; canys pa beth á lefaroch á roddir yn eich meddwl yn y meidyn hwnw. Canys nid chwi fydd yn llefaru; ond Ysbryd fy Nhad, yr hwn á lefara drwyddoch. Yna y brawd á rydd y brawd i fyny i farwolaeth; a’r tad, y plentyn; a phlant á godant yn erbyn eu rhieni, ac á berant eu marwolaeth. A chwi á gasêir yn gyffredinol èr mwyn fy enw i. Ond y neb à barâo hyd y diwedd, á fydd cadwedig.
23-25Am hyny, pàn ych erlidiant yn un ddinas, ffowch i un arall; canys yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, ni byddwch wedi myned drwy ddinasoedd Israel, hyd oni ddêl Mab y Dyn. Nid yw dysgybl yn uwch na ’i athraw; na gwas yn uwch na ’i feistr. Digon i’r dysgybl fod fel ei athraw, ac i’r gwas fod fel ei feistr. Os galwasant feistr y tŷ yn Beelzebwb, pa faint mwy ei deulüyddion?
26-33Am hyny, nac ofnwch hwynt, canys nid oes dim cuddiedig, a’r nas dadguddir; dim dirgel, a’r nas gwybyddir. Yr hyn á ddywedwyf wrthych yn y tywyllwch, dadgenwch yn y goleuni; a’r hyn sydd yn cael ei sisial yn eich clust, cyhoeddwch oddar benau y tai. A nac ofnwch y rhai à laddant y corff, ond nid allant ladd yr enaid; yn hytrach ofnwch yr hwn à ddichon ddystrywio enaid a chorff yn uffern. Oni werthir dau aderyn y tô èr ceiniog? Eto nid yw yr un o honynt yn syrthio i ’r llawr heb eich Tad chwi. Na, y mae hyd yn nod holl wallt eich pen yn gyfrifedig. Nac ofnwch, gàn hyny; yr ydych chwi yn werthfawrocach na llawer o adar y tô. Pwybynag, gàn hyny, á’m haddefo i gèr gwydd dynion, hwnw hefyd á addefaf finnau gèr gwydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Ond pwybynag á’m gwado i gèr gwydd dynion, hwnw á wadaf finnau hefyd gèr gwydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
34-39Na thybiwch fy nyfod i i ddwyn heddwch àr y ddaiar. Ni ddaethym i ddwyn heddwch, ond cleddyf. Canys daethym i beri annghydfod rhwng tad a mab, rhwng mam a merch, rhwng mam‐yn‐nghyfraith a merch-yn‐nghyfraith; fel mai gelynion gŵr á geir yn ei deulu ei hun. Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng o honof fi. Y sawl sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng o honof fi. Y neb ni chymero ei groes a’m canlyn i, nid yw deilwng o honof fi. Y neb sydd yn cadw ei einioes, á’i cyll; ond y neb sydd yn colli ei einioes, o’m hachos i, á’i ceidw hi.
40-42Y sawl sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a’r sawl sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn à’m hanfonodd i. Y neb sydd yn derbyn proffwyd, am mai proffwyd yw, á gaiff obr proffwyd; a’r neb sydd yn derbyn un cyfiawn, am mai un cyfiawn yw, á dderbyn obr un cyfiawn: a phwybynag á roddo i un o’r rhai bychain hyn, am mai dysgybl i mi ydyw, gwpanaid o ddwfr oer yn unig, iddei hyfed; yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, ni chyll, efe ei obr.
දැනට තෝරාගෙන ඇත:
Matthew Lefi 10: CJW
සළකුණු කරන්න
බෙදාගන්න
පිටපත් කරන්න
ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්රවේශ වීමට අවශ්යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.