Marc 15:33-41
Marc 15:33-41 DAFIS
Pan wedd‐i'n ganol dydd âth i wlad i gyd in dewill nes wedd‐i'n dri ar gloch i prinhawn. A am dri ar gloch gweiddodd Iesu mas 'da llaish uchel, “Eloi, Eloi, lema sabachthani?”, sy'n goligu, “In Dduw i, in Dduw i, pam wit‐ti wedi 'ngadel i?” Pan gliwo'r rhei we'n sefyll ar bwys, gwedon‐nhwy, “Drichwch mae‐e'n gweiddi am Eleias.” Rhedodd riwun lan a llenwi sbwnj 'da gwin sur, rhoi fe ar ialen a'i ginnig iddo fe i ifed, a gweud, “Gadwch i ni weld a ddeith Eleias i gwmrid e lawr.” Rhoiodd Iesu sgrech fowr, a marw. Gas i cyrtens in i Demel i rico'n ddou o'r top i'r gweilod. Pan welodd i cenwriad we'n sefyll o'i flân shwt wedd‐e'n marw, gwedodd‐e, “In wir we'r dyn 'ma in Grwt Duw!” We menwod in watsho beth we'n digwydd o bell bant. Mair o Magdala, Mair mam Iago'r ifanca a Joses, a Salome. Mewnod we wedi'i ddilin e pan wêdd‐e'n Galilea, a we'n gofalu ar i ôl e we rhei onyn‐nhwy; a we lot o fenwod erill 'na we wedi dwâd lan 'dag e i Jerwsalem.