Marc 10:46-52

Marc 10:46-52 DAFIS

Dethon‐nhwy i Jerico. A fel wedd‐e'n gadel Jerico gida'i ddisgiblion a crowd mowr, we dyn we'n dewyll, Bartimeus crwt Timeus, in ishte'n begian wrth ochor ir hewl. Pan gliwodd‐e taw Iesu o Nasareth wê 'na, gweiddodd‐e a gweud, “Iesu, Crwt Dafydd, dongos drenu drosta i.” Gwedodd lot wrtho'n gas i gau'i ben, on gweiddi'n uchelach nâth‐e, “Crwt Dafydd, dongos drenu drosta i.” Safodd Iesu in stond a gweud, “Gwedwch wrtho fe ddwâd 'ma.” Galwon nhwy‐ar i dyn we'n dewyll, a gweud‐'tho fe, “Coda di galon! Sâf ar di drâd; mae e'n gofyn amdano ti.” Towlodd‐e 'i got bant, jwmpo lan a dwâd at Iesu. Gwedodd Iesu wrtho fe, “Be ti moyn i fi neud i ti?” Gwedo'r dyn we'n dewyll wrtho fe, “Rabwni, ga‐fi weld shwrne to.” Gwedo Iesu wrtho fe, “Cer, ma di ffydd wedi di wella di.” Gath i dyn i olwg nôl a dilinodd e Iesu wrth'o fynd ar ir hewl.

Читать Marc 10

Видео по данной теме