Marc 10:35-45
Marc 10:35-45 DAFIS
Dâth Iago a Ioan, dou grwt Sebedeus, ato fe a gofyn 'ddo fe, “Mishtir, ŷn‐ni moyn i ti neud rhwbeth i ni.” Gofinodd‐e, “Beth ŷch chi moyn i fi neud i chi?” Gwedon‐nhwy, “Gad i un ono ni ishte ar di ochor dde di a'r llall ar di ochor with di in di ogoniant.” “Senoch‐chi'n gwbod be 'chi'n gofyn” wedo Iesu wrthon nhwy. “Gallwch chi ifed o'r cwpan bidda i'n ifed ono fe, neu gâl ich bididdio da'r bedydd bidda i'n câl i fididdio dag e?” Atebon nhwy, “Gallwn ni.” Gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Ma'n wir biddwch chi'n ifed o'r cwpan dwi'n ifed ono fe, a biddwwch chi'n câl ich bididdio da'r bedydd dwi'n câl in fididdio dag e, ond ddim in fusnes i yw gweud gallwch chi ishte ar in ochor dde ac ar in ochor with i, achos ma'r llefydd ny i'r rhei man‐nhwy wedi câl u baratoi ar u cifer nhwy.” Pan gliwodd i deg hyn wên‐nhwy'n grac da Iago a Ioan. So galwo Iesu arnon nhwy a gweu'thon nhwy, “Ŷch chi'n gwbod shwt ma'r rhei sy'n meddwl bo nhwy'n rhedeg pethe in blith i paganied in i neud. Ma nhwy'n i lordo hi dros i lleill, in meddwl bo nhwy'n bobol fowr â hawl 'da nhwy dros bob un arall. Seni fel na 'da chi; os ma unrhyw un ishe bod in ddyn mowr 'da chi wedyn rhaid 'ddo fe fod in was i chi, a os ma unrhyw un am fod in i lle cinta in 'da chi wedyn rhaid 'ddo fe fod in geithwas i bob un. Achos ddâth ddim hyd 'n‐ôd Crwt i Dyn i gâl dinion i ddrich ar i ôl e, ond i ddrich ar ôl dinion erill, a rhoi i fowyd i dalu am lot o bobol.”