Luc 1:26-38
Luc 1:26-38 DAFIS
Pan we Elisabeth wedi bod in dishgwil babi es whech mish fe halodd Duw ir angel Gabriel i Nasareth in Galilea. Âth Gabriel at roces o'r enw Mair. Wedd‑i wedi câl 'i addo i briodi Joseff, a we Joseff in dod o dilwith Dafydd. Âth Gabriel miwn i'r tŷ at Mair a gweu'thi, “Bendith arno ti, ti sy wedi câl ffafar! Ma'r Arglwidd 'da ti.” Wedd‑i wedi câl 'i drisu'n ofnadw wedi cliwed beth wedodd e, a ddiallodd‑i ddim beth wedd‑e'n goligu. Gwedo'r angel wrthi, “Paid câl ofon Mair; wit‑ti wedi câl ffafar da Duw. Biddi di'n câl crwt, a fe alwi di e'n Iesu. Bydd e'n ddyn mowr, a fe geith‑e i alw in Grwt i Duw Mowr Mowr, a rhoith ir Arglwidd Dduw gorsedd i dad Dafydd iddo fe. Bydd e'n frenin ar dŷ Jacob am byth; bydd dim diwedd o gwbwl ar 'i deyrnasiad e.” Ond wedo Mair wrth ir angel, “Shwt all hyn i gyd ddigwidd achos sena‑i wedi priodi?” Atebo'r angel, “Deith ir Isbryd Glân arnot ti a bydd nerth i Duw Mowr Mowr in di gisgodi di. So bydd i crwt fydd in câl 'i eni in câl 'i alw'n sanctedd, Crwt Duw. Ma di genither di, Elisabeth, in dishgwyl babi 'fyd, er bo‑i'n hen. Meddilai am 'na, ma'r fenyw wen‑nw'n gweud amdani na fidde hi byth in câl babi, in dishgwil es whech mish; achos sdim byd in rhy galed i Dduw i neud e.” Gwedodd Mair, “Morwm ir Arglwidd wdw i; beth binnag wit‑ti wedi gweud, fe 'na i e. Wedyn âth ir angel a'i gadel hi.