Logotipo da YouVersion
Ícone de Pesquisa

Actau 8

8
Yr oedd Saul yn cydsynio â'i lofruddio.
Saul yn Erlid yr Eglwys
1Y diwrnod hwnnw dechreuodd erlid mawr ar yr eglwys yn Jerwsalem. Gwasgarwyd hwy, pawb ond yr apostolion, trwy barthau Jwdea a Samaria. 2Claddwyd Steffan gan wŷr duwiol, ac yr oeddent yn galarnadu'n uchel amdano. 3Ond anrheithio'r eglwys yr oedd Saul: mynd i mewn i dŷ ar ôl tŷ, a llusgo allan wŷr a gwragedd, a'u traddodi i garchar.
Pregethu'r Efengyl yn Samaria
4Am y rhai a wasgarwyd, teithiasant gan bregethu'r gair. 5Aeth Philip i lawr i'r ddinas#8:5 Yn ôl darlleniad arall, i ddinas. yn Samaria, a dechreuodd gyhoeddi'r Meseia iddynt. 6Yr oedd y tyrfaoedd yn dal yn unfryd ar eiriau Philip, wrth glywed a gweld yr arwyddion yr oedd yn eu gwneud; 7oherwydd yr oedd ysbrydion aflan yn dod allan o lawer oedd wedi eu meddiannu ganddynt, gan weiddi â llais uchel, ac iachawyd llawer o rai wedi eu parlysu ac o rai cloff. 8A bu llawenydd mawr yn y ddinas honno.
9Yr oedd rhyw ŵr o'r enw Simon eisoes yn y ddinas yn dewino ac yn synnu cenedl Samaria. Yr oedd yn dweud ei fod yn rhywun mawr, 10ac yr oedd pawb, o fawr i fân, yn dal sylw arno ac yn dweud, “Hwn yw'r gallu dwyfol a elwir y Gallu Mawr.” 11Yr oeddent yn dal sylw arno am ei fod ers cryn amser yn eu synnu â'i ddewiniaeth. 12Ond wedi iddynt gredu Philip a'i newydd da am deyrnas Dduw ac enw Iesu Grist, dechreuwyd eu bedyddio hwy, yn wŷr a gwragedd. 13Credodd Simon ei hun hefyd, ac wedi ei fedyddio yr oedd yn glynu'n ddyfal wrth Philip; wrth weld arwyddion a gweithredoedd nerthol yn cael eu cyflawni, yr oedd yn synnu.
14Pan glywodd yr apostolion yn Jerwsalem fod Samaria wedi derbyn gair Duw, anfonasant atynt Pedr ac Ioan, 15ac wedi iddynt hwy ddod i lawr yno, gweddïasant drostynt ar iddynt dderbyn yr Ysbryd Glân, 16oherwydd nid oedd eto wedi disgyn ar neb ohonynt, dim ond eu bod wedi eu bedyddio i enw yr Arglwydd Iesu. 17Yna rhoes Pedr ac Ioan eu dwylo arnynt, a derbyniasant yr Ysbryd Glân. 18Pan welodd Simon mai trwy arddodiad dwylo'r apostolion y rhoddid yr Ysbryd, cynigiodd arian iddynt, 19a dweud, “Rhowch yr awdurdod yma i minnau, fel y bydd i bwy bynnag y rhof fy nwylo arno dderbyn yr Ysbryd Glân.” 20Ond dywedodd Pedr wrtho, “Melltith arnat ti a'th arian, am iti feddwl meddiannu rhodd Duw trwy dalu amdani! 21Nid oes iti ran na chyfran yn hyn o beth, oblegid nid yw dy galon yn uniawn yng ngolwg Duw. 22Felly edifarha am y drygioni hwn o'r eiddot, ac erfyn ar yr Arglwydd, i weld a faddeuir i ti feddylfryd dy galon, 23oherwydd rwy'n gweld dy fod yn llawn chwerwder ac yn gaeth i ddrygioni.” 24Atebodd Simon, “Gweddïwch chwi drosof fi ar yr Arglwydd, fel na ddaw arnaf ddim o'r pethau a ddywedsoch.”
25Wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, cychwynasant hwythau yn ôl i Jerwsalem, a chyhoeddi'r newydd da i lawer o bentrefi'r Samariaid.
Philip a'r Eunuch o Ethiopia
26Llefarodd angel yr Arglwydd wrth Philip: “Cod,” meddai, “a chymer daith tua'r de, i'r ffordd sy'n mynd i lawr o Jerwsalem i Gasa.” Ffordd anial yw hon. 27Cododd yntau ac aeth. A dyma ŵr o Ethiop, eunuch, swyddog uchel i Candace brenhines yr Ethiopiaid, ac yn ben ar ei holl drysor hi; yr oedd hwn wedi dod i Jerwsalem i addoli, 28ac yr oedd yn dychwelyd ac yn eistedd yn ei gerbyd, yn darllen y proffwyd Eseia. 29Dywedodd yr Ysbryd wrth Philip, “Dos a glŷn wrth y cerbyd yna.” 30Rhedodd Philip ato a chlywodd ef yn darllen y proffwyd Eseia, ac meddai, “A wyt ti'n deall, tybed, beth yr wyt yn ei ddarllen?” 31Meddai yntau, “Wel, sut y gallwn i, heb i rywun fy nghyfarwyddo?” Gwahoddodd Philip i ddod i fyny ato ac eistedd gydag ef. 32A hon oedd yr adran o'r Ysgrythur yr oedd yn ei darllen:
“Arweiniwyd ef fel dafad i'r lladdfa,
ac fel y bydd oen yn ddistaw yn llaw ei gneifiwr,
felly nid yw'n agor ei enau.
33Yn ei ddarostyngiad gomeddwyd iddo farn.
Pwy all draethu am ei ddisgynyddion?
Oherwydd cymerir ei fywyd oddi ar y ddaear.”
34Meddai'r eunuch wrth Philip, “Dywed i mi, am bwy y mae'r proffwyd yn dweud hyn? Ai amdano'i hun, ai am rywun arall?” 35Yna agorodd Philip ei enau, a chan ddechrau o'r rhan hon o'r Ysgrythur traethodd y newydd da am Iesu iddo. 36Fel yr oeddent yn mynd rhagddynt ar eu ffordd, daethant at ryw ddŵr, ac ebe'r eunuch, “Dyma ddŵr; beth sy'n rhwystro imi gael fy medyddio?”#8:36 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir adn. 37 Dywedodd Philip, “Os wyt yn credu â'th holl galon, fe elli.” Atebodd yntau, “Yr wyf yn credu mai Mab Duw yw Iesu Grist.” 38A gorchmynnodd i'r cerbyd sefyll, ac aethant i lawr ill dau i'r dŵr, Philip a'r eunuch, ac fe'i bedyddiodd ef. 39Pan ddaethant i fyny o'r dŵr, cipiwyd Philip ymaith gan Ysbryd yr Arglwydd; ni welodd yr eunuch mohono mwyach, ac aeth ymlaen ar ei ffordd yn llawen. 40Cafodd Philip ei hun yn Asotus, ac aeth o gwmpas dan gyhoeddi'r newydd da yn yr holl ddinasoedd nes iddo ddod i Gesarea.

Atualmente Selecionado:

Actau 8: BCND

Destaque

Compartilhar

Copiar

None

Quer salvar seus destaques em todos os seus dispositivos? Cadastre-se ou faça o login