Logotipo da YouVersion
Ícone de Pesquisa

Psalmae 2

2
Psal. 2.
1PAm i cōdant Derfysc floedd
Genhedloedd o gynddaredd:
Ar Iddeon bobl gau
ai brŷd ar wau oferedd.
2Brenhinoedd a phennaethiaid bŷd
maent yn cyd-gynghori:
Yn erbyn yr Arglwydd rhawg,
ai Grīst eneiniawg Geli.
3Dylliwn (Meddant) rwymau rhain,
ai coelfain gyrt-reffynnau:
Taflwn ymaith yr iau ddysc
eiddynt fysc eyn gwarrau.
4Ond presswyludd Nēf a chwardd
am benn ei hanardd fwriad:
Duw ai gwatwar am ei gŵg,
ai diffaith gilwg hy-frad.
5Yna wrthynt yn ei lid
llefarid y Gorucha:
Ag yn ei dōst ddigllonrwydd
yr Arglwydd ai dychrynna.
6Mi osodais fy-Mrenin
ar fy nillin fynydd
Sion Sanct lle ceiff barhād
a thrigiad yn dragywydd.
7Mynegaf y Gyfraith rŵydd
a ddoedai’r Arglwydd wrthy:
Fy Māb ydwyt, myfi dduw
gwnn heddyw dy genedly.
8Gofyn i mi, rhōf ar goedd
Genhedloedd ith tifeddiaeth,
a therfynau Dayar fŷd
cei hefyd ith feddiannaeth.
9Briwi hwynt (ith gyfion farn)
a gwialen hayarn ddifri:
Ag fel llestr priddin ddyll
yn gann-dryllhwynt maluri
10Gann hynny byddwch synhwyrol
Frenhinoedd reiol rowron:
Barnwyr dayar cymrwch ddysc
(dduwioladdysc ffrwythlon.)
11Gwsneythwch yr Arglwydd dduw
mewn iown-ryw ofn a berthyn:
Ag ym-lawenhewch dann gō
iddo mewn parch-ddychryn.
12Cussenwch y Māb rhag ei ddig,
chydig oi līd pann gneuo
A’ch difetha o’r ffordd rwydd:
dedwydd sawl ai ’mddiriedo.

Atualmente Selecionado:

Psalmae 2: SC1603

Destaque

Compartilhar

Copiar

None

Quer salvar seus destaques em todos os seus dispositivos? Cadastre-se ou faça o login