Actau’r Apostolion 21

21
A.D. 60. —
1 Paul yn gwrthod ei gynghori i beidio â myned i Jerwsalem. 9 Merched Philip yn broffwydesau. 15 Paul yn dyfod i Jerwsalem, 27 lle y daliwyd ef, ac y bu mewn mawr berygl: 31 a’r pen‐capten yn ei achub ef, ac yn rhoi cennad iddo i lefaru wrth y bobl.
1A digwyddodd, wedi i ni osod allan, ac ymadael â hwynt, ddyfod ohonom ag uniongyrch i Coos, a thrannoeth i Rodes; ac oddi yno i Patara. 2A phan gawsom long yn hwylio trosodd i Phenice, ni a ddringasom iddi, ac a aethom ymaith. 3Ac wedi ymddangos o Cyprus i ni, ni a’i gadawsom hi ar y llaw aswy, ac a hwyliasom i Syria, ac a diriasom yn Nhyrus: canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth. 4Ac wedi i ni gael disgyblion, nyni a arosasom yno saith niwrnod: #Pen 20:23y rhai a ddywedasant i Paul, trwy yr Ysbryd, nad elai i fyny i Jerwsalem. 5A phan ddarfu i ni orffen y dyddiau, ni a ymadawsom, ac a gychwynasom; a phawb, ynghyd â’r gwragedd a’r plant, a’n hebryngasant ni hyd allan o’r ddinas: ac wedi i ni #Pen 20:36ostwng ar ein gliniau ar y traeth, ni a weddiasom. 6Ac wedi i ni ymgyfarch â’n gilydd, ni a ddringasom i’r llong; a hwythau a ddychwelsant i’w cartref. 7Ac wedi i ni orffen hwylio o Dyrus, ni a ddaethom i Ptolemais: ac wedi inni gyfarch y brodyr, ni a drigasom un diwrnod gyda hwynt. 8A thrannoeth, #21:8 Paul a’r rhai oedd gydag ef . Pen 13:13y rhai oedd ynghylch Paul #21:8 gwedi myned allan, nyni a ddaethom i Cesarea.a ymadawsant, ac a ddaethant i Cesarea. Ac wedi i ni fyned i mewn i dŷ Philip #Eff 4:11; 2 Tim 4:5yr efengylwr, (#Pen 6:5; 8:26yr hwn oedd un o’r saith,) ni a arosasom gydag ef. 9Ac i hwn yr oedd pedair merched o forynion, #Pen 2:17yn proffwydo. 10Ac fel yr oeddem yn aros yno ddyddiau lawer, daeth i waered o Jwdea broffwyd a’i enw #Pen 11:28Agabus. 11Ac wedi dyfod atom, a chymryd gwregys Paul, a rhwymo ei ddwylo ef a’i draed, efe a ddywedodd, Hyn a ddywed yr Ysbryd Glân; #Pen 21:33; Pen 20:23Y gŵr biau y gwregys hwn a rwym yr Iddewon fel hyn yn Jerwsalem, ac a’i traddodant i ddwylo y Cenhedloedd. 12A phan glywsom y pethau hyn, nyni, a’r rhai oedd o’r fan honno hefyd, a ddeisyfasom nad elai efe i fyny i Jerwsalem. 13Eithr Paul a atebodd, #Pen 20:24Beth a wnewch chwi yn wylo, ac yn torri fy nghalon i? canys parod wyf fi nid i’m rhwymo yn unig, ond i farw hefyd yn Jerwsalem, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu. 14A chan na ellid ei berswadio, ni a beidiasom, gan ddywedyd, #Mat 6:10; Luc 11:2; 22:42Ewyllys yr Arglwydd a wneler. 15Hefyd, ar ôl y dyddiau hynny, ni a gymerasom ein beichiau, ac a aethom i fyny i Jerwsalem. 16A rhai o’r disgyblion o Cesarea a ddaeth gyda ni, gan ddwyn un Mnason o Cyprus, hen ddisgybl, gyda’r hwn y lletyem. 17Ac wedi ein dyfod i Jerwsalem, y brodyr a’n derbyniasant yn llawen. 18A’r dydd nesaf yr aeth Paul gyda ni i mewn at #Pen 15:13; Gal 1:19Iago: a’r holl henuriaid a ddaethant yno. 19Ac wedi iddo gyfarch gwell iddynt, efe a fynegodd iddynt, bob yn un ac un, bob peth a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef. 20A phan glywsant, hwy a ogoneddasant yr Arglwydd, ac a ddywedasant wrtho, Ti a weli, frawd, pa #21:20 aneirif.sawl myrddiwn sydd o’r Iddewon y rhai a gredasant; ac y maent oll #Rhuf 10:2; Gal 1:14yn dwyn sêl i’r ddeddf. 21A hwy a glywsant amdanat ti, dy fod di yn dysgu’r Iddewon oll, y rhai sydd ymysg y Cenhedloedd, i ymwrthod â Moses; ac yn dywedyd, na ddylent hwy enwaedu ar eu plant, na rhodio yn ôl y defodau. 22Pa beth gan hynny? nid #21:22 anghenraid yw dyfod.oes fodd na ddêl y lliaws ynghyd: canys hwy a gânt glywed dy ddyfod di. 23Gwna gan hynny yr hyn a ddywedwn wrthyt; Y mae gennym ni bedwar gwŷr a chanddynt adduned arnynt: 24Cymer y rhai hyn, a glanhaer di gyda hwynt, a gwna draul arnynt, fel yr #Num 6:2, 13, 18; Pen 18:18eilliont eu pennau: ac y gwypo pawb am y pethau a glywsant amdanat ti, nad ydynt ddim, ond dy fod di dy hun hefyd yn rhodio, ac yn cadw y ddeddf. 25Eithr am y Cenhedloedd y rhai a gredasant, #Pen 15:20, 29ni a ysgrifenasom, ac a farnasom, na bo iddynt gadw dim o’r cyfryw beth; eithr iddynt ymgadw oddi wrth y pethau a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a rhag peth tagedig, a rhag puteindra. 26Yna Paul a gymerth y gwŷr; a thrannoeth, gwedi iddo ymlanhau gyda hwynt, efe #Pen 24:18a aeth i mewn i’r deml; #Num 6:13gan hysbysu cyflawni dyddiau’r glanhad, hyd oni offrymid offrwm dros bob un ohonynt. 27A phan oedd y saith niwrnod ar ddarfod, yr Iddewon oeddynt o Asia, pan welsant ef yn y deml, a derfysgasant yr holl bobl, ac a ddodasant ddwylo arno, 28Gan lefain, Ha wŷr Israeliaid, cynorthwywch. Dyma’r dyn sydd yn dysgu pawb ym mhob man yn erbyn y bobl, a’r gyfraith, a’r lle yma: ac ymhellach, #Pen 24:6y Groegiaid hefyd a ddug efe i mewn i’r deml, ac a halogodd y lle sanctaidd hwn. 29Canys hwy a welsent o’r blaen #Pen 20:4Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i’r deml. 30A #Pen 26:21chynhyrfwyd y ddinas oll, #21:30 a bu aruthr gan y bobl, ac wedi, & c.a’r bobl a redodd ynghyd: ac wedi ymaelyd yn Paul, hwy a’i tynasant ef allan o’r deml: ac yn ebrwydd caewyd y drysau. 31Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef, daeth y gair at ben‐capten y fyddin, fod Jerwsalem oll mewn terfysg. 32Yr hwn allan o law a gymerodd filwyr, a chanwriaid, ac a redodd i waered atynt: hwythau, pan welsant y pen‐capten a’r milwyr, a beidiasant â churo Paul. 33Yna y daeth y pen‐capten yn nes, ac a’i daliodd ef, ac #Ad. 11a archodd ei rwymo ef â dwy gadwyn; ac a ymofynnodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethai. 34Ac amryw rai a lefent amryw beth yn y dyrfa: ac am nas gallai wybod hysbysrwydd oherwydd y cythrwfl, efe a orchmynnodd ei ddwyn ef i’r castell. 35A phan oedd efe ar y grisiau, fe a ddigwyddodd gorfod ei ddwyn ef gan y milwyr, o achos trais y dyrfa. 36Canys yr oedd lliaws y bobl yn canlyn, gan lefain, #Luc 23:18; Ioan 19:15; Pen 22:22Ymaith ag ef. 37A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i’r castell, efe a ddywedodd wrth y pen‐capten, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg? 38#Pen 5:36Onid tydi yw yr Eifftwr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gyfodaist derfysg, ac a arweiniaist i’r anialwch bedair mil o wŷr llofruddiog? 39A Phaul a ddywedodd, #Pen 9:11; 22:3Gŵr ydwyf fi yn wir o Iddew, un o Darsus, dinesydd o ddinas nid anenwog, o Cilicia; ac yr wyf yn deisyf arnat ti, dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl. 40Ac wedi iddo roi cennad iddo, Paul a safodd ar y grisiau, ac a #Pen 12:17amneidiodd â llaw ar y bobl. Ac wedi gwneuthur distawrwydd mawr, efe a lefarodd wrthynt yn Hebraeg, gan ddywedyd,

Podkreślenie

Udostępnij

Kopiuj

None

Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj