Salmau 10

10
SALM X.
1Pam, Iehova, y sefi o bell,
Yr ymguddi ar amserau o gyfyngder!
2Mewn ucheldrem yr annuwiol a erlid y gorthrymedig#10:2 gorthrymedig— Un a wasgir i lawr gan ormes, LXX πτωχος, tlawd; sef tlawd o nerth ac amddiffyniad, yn gystal ag o feddiannau. O ucheldrem eu herlidir. Superba semper est crudelitas, imò superbia, omnium injuriarum mater est. — Calvin. Balch bob amser yw creulondeb, yn wir balchder yw mam pob camweddau.;
Dalier hwynt yn y bwriadau a ddychymmygasant.
3Canys ymffrostia’r annuwiol am ddymuniad ei enaid,
A’r cybydd#10:3 A’r cybydd. &c. Gellir cyfieithu y llinell, yn ol Calvin, fel hyn — A’r traws a fendithia ‘ei hun,’ dirmyga Iehova. Yn agos i hyn yw cyfieithiad y LXX. a fendithia, — dirmyga Iehova.
4Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni weddia;
Nid “yw” Duw “yn” ei holl feddyliau.#10:4 Ni weddïa, yn llythyrenol, ni chais, neu, nid ymofyn, sef am Dduw.
5Pâr ei ffyrdd#10:5 Pâr ei ffyrdd, sef ei ymddygiad, ei waith, ei arferion. — Flinder, sef iddo ei hun, ac i ereill. flinder bob amser;
Uchel dy iawnderau#10:5 iawnderau, uniawn farnau Duw, yr hyn a benderfynodd ynghylch dyledswydd dyn, ac ynghylch a ddaw i’r duwiol a’r annuwiol. o’i olwg:
Ei holl wrthwynebwyr, chwytha yn eu herbyn.
6Dywed yn ei galon, Ni’m syflir
O oes i oes, gan na fyddaf mewn drygfyd.
7O felldith#10:7 O felldith, sef arno ei hun, os na fyddai yr hyn a ddywedai yn wir; etto, ddichell a thwyll oedd y cwbl. Tra yr oedd ti enau yn llefaru twyll, ei fwriad dirgel, yr hyn a lechai tan ei dafod, oedd gormesu a chamweddu. Dyma fel y mae yn bod yn aml gyda dynion llyfn eu genau, yn enwedig rhai sy’n tyngu fod eu dibenion yn gywir ac yn ddiniwed. ei enau sy’n llawn,
Ac o ddichellion a thwyll;
Tan ei dafod ormes a chamwedd.
8Eistedd yn nghynllwynfa’r pentrefydd;
Mewn cuddfanau y lladd y diniwed;
Ei lygaid ar y methedig a dremiant.
9Cynllwyna yn y cudd fel llew yn y ffau,
Cynllwyna i ddal y gorthrymedig,
Deil y gorthrymedig gan ei dynu i’w rwyd.
10Ymostwng#10:10 Ymostwng, &c. Gwna fel y creaduriaid rheibus cyn llamu ar eu hysglyfaeth. Rhoddir uchod ddarluniad alaethus o ddyn annuwiol, balch, didduw, diweddi, creulon, gwenieithus, dichellgar, cableddus, yn gwadu rhagluniaeth a llywodraeth Duw! Dyma anian y diafol; ac mewn rhan, anian pawb sy dan ei dywysiad., cryma,
A syrth, ynghyd â’i gedyrn, ar drueiniaid.
11Dywed yn ei galon, Anghofiodd Duw,
Dirgela ei wyneb fel na wêl byth.
12Cyfod, Iehova; Duw, dyrcha dy law;
Nac anghofia y gorthrymedig.
13Paham y dirmyga yr annuwiol Dduw,
Y dywed yn ei galon#10:13 Y dywed yn ei galon.— Tebyg na allai fod mor hyf a dywedyd felly â’i enau. Mae mwy o ddrwg yn y galon nas gall y genau draethu., nad ymofyni?
14Gwelaist, gan y sylwi ar ormes a sarhâd#10:14 ormes a sarhâd. — Gormes ar ddyn, a sarhad i Dduw, trwy wadu ei lywodraeth. ,
I’“w” rhoddi#10:14 I’“w” rhoddi, &c. Rhoddi megys yn nghadw yn ei law ei hun, fel y byddai iddo ei gospi yn ei amser priodol. “Anghofiodd Duw, cudd ei wyneb, ni wêl,” meddai yr annuwiol, “Gwel, sylwa, a dal bob peth megys ei law,” medd y Salmydd. yn dy law dy hun;
Arnat yr hydera yr egwan,
Ti wyt gynnorthwywr yr ymddifad.
15Tor fraich#10:15 Braich — grym, nerth, gallu i niweidio. yr annuwiol#10:15 annuwiol, dyn diweddi, digrefydd, didduw. a’r drygionus#10:15 drygionus, dyn yn drygu, camweddu, ac yn niweidio ei gydgreaduriaid.;
Ymofyni am ei annuwioldeb, y cwbl#10:15 y cwbl, &c. כל yn lle בל yn ol chwech o gopiau Kennicott. Rhydd hyn yr ystyr oreu; nid oes yn wir braidd ystyr i’w gael heb y cyfnewidiad hyn. Chwilia Duw ei annuwioldeb, a myn allan y cwbl. a gei allan.
16 Iehova “sydd” frenin oesol a thragywyddol:
Difethwyd y cenedloedd o’i wlad#10:16 o’i wlad, sef Canaan..
17Dymuniad y gorthrymedig a wrandawaist, Iehova;
Cadarnhei#10:17 Cadarnhei, neu sefydli. Rhoddi nerth iddynt hyd nes delai i’w gwared. Cynnaliai hwynt a pharai iddynt ddisgwyl yn hyderus wrtho. eu calon, gostyngi dy glust
18I iawnhau’r#10:18 I iawnhau. — Gwneuthur cyfiawnder trwy amddiffyn a gwared yr ymddifad a’r cystuddiol. Gosodir allan y duwiol yma megys yn dlawd, yn orthrymedig, yn egwan, yn ymddifad, ac yn gystuddiol; tra mae yr aunuwiol yn uchel, yn oludog, yn alluog, ac yn hyderus yn ei lwyddiant. adn. 6. Dyma drefn rhagluniaeth; yr un yw etto yn gyffredin. ymddifad a’r cystuddiol;
Fel na chwanego fod mwy er braw ddynionach y ddaear.

Obecnie wybrane:

Salmau 10: TEGID

Podkreślenie

Udostępnij

Kopiuj

None

Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj