Lyfr y Psalmau 37

37
1Na flina ’th galon o ran bai
Na llwydd y rhai drygionus;
Na chynfigenned chwaith dy fron
Wrth ddynion anwireddus.
2Fe ’u torrir hwynt i lawr i’r bedd
Yn unwedd a’r glaswelltyn;
A gwywa ’u harddwch, cyn bo hir,
Fel tegwch îr lysieuyn.
3Gobeithia yn yr Arglwydd Rhi,
A gwna ddaioni ’n ddiwyd;
Felly y trigi yn y tir,
A thi a borthir hefyd.
4Bydded yr Arglwydd nos a dydd
I ti ’n llawenydd dibaid;
Ac Yntau rhydd i tithau ’n glau
Holl ddymuniadau ’th enaid.
5Dy ffordd a’th helynt yn y byd
Ar Dduw i gyd os treigli,
Efe a’u dwg i ben yn glau
I’w gorphen a’u cyflawni.
6Os ymddiriedi yn Nuw Ner,
Dwg E’ ’th gyfiawnder allan
Fel golau ’r haul; a’th farn a fydd
Fel hanner dydd ei hunan.
7Yn ddistaw disgwyl wrth Dduw Ner,
Heb ddigter wrth y dynion
A lwyddant yn eu ffyrdd di‐ras
Gan wneud eu cas amcanion.
8Paid â digofaint, cilia draw,
Gad ymaith ddigiaw gormod;
Oddi wrth gynddaredd cofia ffoi,
Rhag iddo droi yn bechod.
9Torrir y dynion drwg cyn hir
Yn llwyr o’r tir heb alar;
A’r rhai sy ’n disgwyl wrth Dduw cu,
Cânt hwy feddiannu ’r ddaear.
10Ni weli ’r anwir uchel frig
Ym mhen ychydig etto;
Ac os edrychi am ei le,
Ni bydd efe ddim yno.
11Yr isel rai trwy ddwyfol ras,
Y ddaear las meddiannant;
Diddanol gan dangnefedd llawn,
A llawen iawn a fyddant.
YR AIL RAN
12Yn erbyn gwaed y cyfiawn ddyn
Yr anwir sy ’n bygythio,
Ac ysgyrnyga ’n ddig ei wedd
Ei ffyrnig ddannedd arno.
13Yr Arglwydd uchod yn y nen
Sydd am ei ben yn chwerthin;
Canys o bell mae ’n gweled fod
Ei ddydd yn d’od yn ddiflin.
14A’u bwa tynn a min eu cledd,
Mewn sarrug wedd yn greulon,
Y cais yr anwir ladd mewn bâr
Y tlodion a’r uniawnion.
15A llafn eu cledd trywenir hwy
Eu hunain trwy eu calon;
Eu bwa cryf a dyr yn ddau,
A phyla ’u saethau llymion.
16Gwell ydyw yr ychydig iawn
Sy gan y cyfiawn ddynion,
Na ’r golud mawr a fyddo ’n rhan
I lu o annuwiolion.
17Yr Arglwydd yn ei nef yn glau
Tyr freichiau ’r annuwiolion;
Ond am y cyfiawn, pan fônt wan,
Fe ’u cynnal dan eu cwynion.
18Yr Arglwydd yn ei drigfa sydd
Yn adwaen dydd y perffaith;
Trag’wyddol fydd eu rhan ddi‐lyth,
Ac nid â byth yn anrhaith.
19Ni ’s gwaradwyddir hwy am hyn,
Y pryd y disgyn drygfyd;
Bydd Duw, mewn newyn, yn eu plaid,
A rhydd i’w henaid fywyd.
20Ond collir yr annuwiol ryw,
Gelynion Duw a gwympant;
Fel brasder ŵyn gan wres y tân,
Neu fwg, yn lân diflannant.
Y DRYDEDD RAN
21Echwyna ’r gwr drygionus ffol,
Ac nid yw ’n ol yn talu;
Y cyfiawn sydd i’r tlawd a’r gwael
O’i eiddo ’n hael gyfrannu.
22Pawb a fendigo Duw â’i ras,
Y ddaear las meddiannant;
Ond pawb fo dan felldithion Duw
I eigion distryw cwympant.
23Gwr da sydd hoff gan Arglwydd nef,
Hyfforddia Ef ei rodiad;
A da fydd ganddo ffordd ddi‐fai
Ei lwybrau a’i gerddediad.
24Er iddo ’n fynych gwympo ’n fawr,
Yn llwyr i lawr ni ’s bwrir;
Ei ddidwyll ffordd a’i rodiad ef
Yn nwylaw Nef cynhelir.
25Bum ieuangc gynt, ’rwy ’n awr yn hen,
Ar orphen taith fy ngyrfa;
Ni welais adu ’r cyfiawn ddyn,
Na ’i had yn gofyn bara.
26Bob dydd ac awr trugarog yw,
Rhydd fenthyg i’w gymmydog;
Daw felly fynych fendith fad
Ar ben ei had heppilog.
Y BEDWAREDD RAN
27Oddi wrth y drwg encilia draw,
A gwnaed dy law ddaioni;
Ac felly byth mewn llad â llwydd
Yn ddedwydd y preswyli.
28Duw a gâr farn; ni ad ei Saint,
Dros fyth eu braint a gedwir;
Ond had yr anwir, mab ac ŵyr,
O’r tir yn llwyr a dorrir.
29Y cyfiawn byth, mewn hedd a gras,
Y ddaear las meddiannant;
Eu hetifeddiaeth yw ’n ddi‐lyth,
Ac ynddi byth y trigant.
30Doethineb, pwyll a synwyr clau
A draetha genau ’r cyfiawn;
Am farn y sonia ’i dafod gwir
Mewn geiriau cywir ffyddlawn.
31Argraphwyd glanaf ddeddf ei Dduw
Ar lechau byw ei galon;
Ac er ymdeithio mewn byd gau,
Ni lithra camrau ’r cyfion.
32Yr anwir fore a phrydnawn
Ar lwybr y cyfiawn, gwylia;
Ac wrth ei gynllwyn yn ei drais,
Ei ladd a gais, a’i ddifa:
33Nis gad ei Dduw y cyfryw ddyn
Yn llaw ei elyn diriaid;
Ni’s gad i’r anwir bradus fron
Gondemnio ’i wirion enaid.
34Cred yn dy Dduw, a chadw ei wir,
Rhydd it’ y tir yn feddiant;
A phan ddistrywir y gwŷr gau,
Y llygaid tau â’i gwelant.
Y BUMMED RAN
35Gwelais yr anwir ddyn yn gryf,
Mewn balch a hyf fawrhydri,
Yn uchel frigog yn ei ffyrdd,
Fel lawryf gwyrdd y gerddi.
36Er hyn i gyd diflannai ’n chwim,
Ac nid oedd dim o hono;
A phan edrychais am ei le,
Nid oedd efe ddim yno.
37Ystyr y perffaith, gwel ei ddrych,
Ac edrych ar yr uniawn;
Ei ddiwedd ef tu draw i’r bedd,
Fydd byd o hedd helaethlawn.
38Ond y troseddwŷr oll o’r tir
Ynghyd a dorrir ymaith;
A chosp eu bai tu draw i’r bedd
Wna ’u diwedd yn ddïobaith.
39Oddi wrth eu Duw daw iechyd llawn
I’r cyfiawn yn eu hadfyd;
Eu hiachawdwriaeth yw Duw Ner,
A’u nerth yn amser blinfyd.
40Yr Ion a’u cymmorth yn ei ras,
Ni ad i’w cas eu blino;
Fe’u ceidw hwynt am roi eu cred
A’u holl ymddiried ynddo.

Marker

Del

Kopier

None

Vil du ha høydepunktene lagret på alle enhetene dine? Registrer deg eller logg på