1
Lyfr y Psalmau 37:4
Salmau Cân - Y Psallwyr 1850 (Nicander)
Bydded yr Arglwydd nos a dydd I ti ’n llawenydd dibaid; Ac Yntau rhydd i tithau ’n glau Holl ddymuniadau ’th enaid.
Sammenlign
Utforsk Lyfr y Psalmau 37:4
2
Lyfr y Psalmau 37:5
Dy ffordd a’th helynt yn y byd Ar Dduw i gyd os treigli, Efe a’u dwg i ben yn glau I’w gorphen a’u cyflawni.
Utforsk Lyfr y Psalmau 37:5
3
Lyfr y Psalmau 37:7
Yn ddistaw disgwyl wrth Dduw Ner, Heb ddigter wrth y dynion A lwyddant yn eu ffyrdd di‐ras Gan wneud eu cas amcanion.
Utforsk Lyfr y Psalmau 37:7
4
Lyfr y Psalmau 37:3
Gobeithia yn yr Arglwydd Rhi, A gwna ddaioni ’n ddiwyd; Felly y trigi yn y tir, A thi a borthir hefyd.
Utforsk Lyfr y Psalmau 37:3
5
Lyfr y Psalmau 37:23-24
Gwr da sydd hoff gan Arglwydd nef, Hyfforddia Ef ei rodiad; A da fydd ganddo ffordd ddi‐fai Ei lwybrau a’i gerddediad. Er iddo ’n fynych gwympo ’n fawr, Yn llwyr i lawr ni ’s bwrir; Ei ddidwyll ffordd a’i rodiad ef Yn nwylaw Nef cynhelir.
Utforsk Lyfr y Psalmau 37:23-24
6
Lyfr y Psalmau 37:6
Os ymddiriedi yn Nuw Ner, Dwg E’ ’th gyfiawnder allan Fel golau ’r haul; a’th farn a fydd Fel hanner dydd ei hunan.
Utforsk Lyfr y Psalmau 37:6
7
Lyfr y Psalmau 37:8
Paid â digofaint, cilia draw, Gad ymaith ddigiaw gormod; Oddi wrth gynddaredd cofia ffoi, Rhag iddo droi yn bechod.
Utforsk Lyfr y Psalmau 37:8
8
Lyfr y Psalmau 37:25
Bum ieuangc gynt, ’rwy ’n awr yn hen, Ar orphen taith fy ngyrfa; Ni welais adu ’r cyfiawn ddyn, Na ’i had yn gofyn bara.
Utforsk Lyfr y Psalmau 37:25
9
Lyfr y Psalmau 37:1
Na flina ’th galon o ran bai Na llwydd y rhai drygionus; Na chynfigenned chwaith dy fron Wrth ddynion anwireddus.
Utforsk Lyfr y Psalmau 37:1
Hjem
Bibel
Leseplaner
Videoer