Lyfr y Psalmau 14

14
1“Nid oes un Duw,” medd tyb y ffol;
Mae hynny ’n ol ei frynti;
Llygredd ffieidd‐waith yw eu moes,
Nid oes a wnel ddaioni.
2O’r nef i lawr edrychodd Ion
Ar feibion dynion daear,
I wel’d oedd neb yn ceisio Duw,
Na neb yn byw ’n ddeallgar.
3Ciliasai pawb; oedd frwnt eu gwedd
Mewn llygredd a budreddi:
Yn y byd crwn nid oes un da
Nac un a wna ddaioni.
4Ac oni ŵyr gweithredwŷr drwg,
Y rhai mewn gwg a ddifant
Fy mhobl, fel bwytta bara, ’n fyw,
Ond ar eu Duw ni’s galwant?
5Ond ofn er hyn a’u daliodd hwy,
Aeth dychryn drwy eu calon;
Gwelsant fod Duw a’i rym, wrth raid,
Gerllaw, o blaid y cyfion.
6Cyngor y tlawd, a llef ei gri,
A droisoch chwi ’n waradwydd;
Am fod ei obaith yn Nuw Ner,
A’i hyder yn yr Arglwydd.
YR AIL RAN
7Pwy, pwy a weryd Israel gaeth,
Pwy rydd achubiaeth iddo,
O fynydd Sïon uwch y ser,
Lle mae Duw Ner yn trigo?
Pan ddychwel Duw gaethiwed llym
Ei bobl â grym ei allu,
Mawr fydd llawenydd Jacob wiw,
Bydd Israel Duw ’n crechwennu.

Marker

Del

Kopier

None

Vil du ha høydepunktene lagret på alle enhetene dine? Registrer deg eller logg på