YouVersion लोगो
खोज आइकन

Genesis 10

10
1 Cenedlaethau Noa. 2 Meibion Jaffeth. 6 Meibion Cham. 8 Nimrod y brenin cyntaf. 21 Meibion Sem.
1A dyma genedlaethau meibion Noa: Sem, Cham, a Jaffeth; ganwyd meibion hefyd i’r rhai hyn wedi’r dilyw.
2 # 1 Cron 1:5 Meibion Jaffeth oedd Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras. 3Meibion Gomer hefyd; Ascenas, a Riffath, a Thogarma. 4A meibion Jafan; Elisa, a Tharsis, Cittim, a #10:4 Yn ôl rhai, Rodanim.Dodanim. 5O’r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.
6A #1 Cron 1:8meibion Cham oedd Cus, a Misraim, a Phut, a Chanaan. 7A meibion Cus; Seba, a Hafila, a Sabta, a Raama, a Sabteca: a meibion Raama; Seba, a Dedan. 8Cus hefyd a genhedlodd Nimrod: efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear. 9Efe oedd heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd: am hynny y dywedir, Fel Nimrod, heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd. 10A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd #10:10 Gr. Babilon.Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalne, yng ngwlad Sinar. 11O’r wlad honno #10:11 Fe aeth allan i Assyria.yr aeth Assur allan, ac a adeiladodd Ninefe, a dinas Rehoboth, a Chala, 12A Resen, rhwng Ninefe a Chala; honno sydd ddinas fawr. 13Misraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nafftwhim, 14Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o’r rhai y daeth Philistim,) a Chafftorim.
15Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf‐anedig, a Heth, 16A’r Jebusiad, a’r Amoriad, a’r Girgasiad, 17A’r Hefiad, a’r Arciad, a’r Siniad, 18A’r Arfadiad, a’r Semariad, a’r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid. 19Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd #10:19 Heb. Assa.Gasa: y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorra, ac Adma, a Seboim, hyd Lesa. 20Dyma feibion Cham, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd.
21I Sem hefyd y ganwyd plant; yntau oedd dad holl feibion Heber, a brawd Jaffeth yr hynaf. 22#1 Cron 1:17Meibion Sem oedd Elam, ac Assur, ac #10:22 Heb. Arpacshad.Arffacsad, a Lud, ac Aram. 23A meibion Aram; Us, a Hul, a Gether, a Mas. 24Ac Arffacsad a genhedlodd #Pen 11:12Sela, a Sela a genhedlodd Heber. 25#1 Cron 1:19Ac i Heber y ganwyd dau o feibion: enw un oedd Peleg; oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear; ac enw ei frawd, Joctan. 26A Joctan a genhedlodd Almodad, a Saleff, a Hasarmafeth, a Jera, 27Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla, 28Obal hefyd, ac Abinael, a Seba, 29Offir hefyd, a Hafila, a Jobab: yr holl rai hyn oedd feibion Joctan. 30A’u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Seffar, mynydd y dwyrain. 31Dyma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ôl eu hieithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd. 32Dyma deuluoedd meibion Noa, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu cenhedloedd: ac o’r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaear wedi’r dilyw.

अहिले सेलेक्ट गरिएको:

Genesis 10: BWM1955C

हाइलाइट

शेयर गर्नुहोस्

कपी गर्नुहोस्

None

तपाईंका हाइलाइटहरू तपाईंका सबै यन्त्रहरूमा सुरक्षित गर्न चाहनुहुन्छ? साइन अप वा साइन इन गर्नुहोस्

YouVersion ले तपाइँको अनुभव निजीकृत गर्न कुकीहरू प्रयोग गर्नेछ। हाम्रो वेबसाइट प्रयोग गरेर, तपाइँ हाम्रो गोपनीयता नीतिमा वर्णन गरिएको कुकीहरूको प्रयोग स्वीकार गर्नुहुन्छ