YouVersion Logo
Search Icon

Matthew Lefi 3

3
DOSBARTH II.
Y Trochiad.
1-6Yn y dyddiau hyny yr ymddangosodd Iöan y Trochiedydd, yr hwn á gyhoeddai yn niffeithwch Iuwdëa, gàn ddywedyd, Diwygiwch, canys y mae Teyrnasiad y Nefoedd yn agosâu. Oblegid hwn yw efe, am yr hwn y dywed Isaia y Proffwyd yn y geiriau hyn, “Llef un yn cyhoeddi yn y diffeithwch, Parotowch ffordd i’r Arglwydd, gwnewch iddo fynedfa uniawn.” Ac Iöan á wisgai ddillad o flew #3:1 Camelcammarch, gyda gwregys lledr o gylch ei wasg; a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. Yna Caersalem, a holl Iuwdëa, a’r holl wlad àr hyd yr Iorddonen, á gyrchent ato, ac á drochid ganddo yn yr Iorddonen, gàn gyffesu eu pechodau.
7-12Ond efe, wrth weled llawer o Pharisëaid a Saduwcëaid yn dyfod ato i dderbyn trochiad, á ddywedai wrthynt, #3:7 Epil. hiliogaeth.Essill gwiberod, pwy á ddangosodd i chwi pa fodd i ffoi rhag y dialedd sydd àr ddyfod? Dygwch, gàn hyny, ffrwyth priodol diwygiad, a na ryfygwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae genym Abraham yn dad i ni, canys yr wyf yn sicrâu i chwi, y dichon Duw, o’r cèryg hyn, gyfodi plant i Abraham. A’r awr hon hefyd, y mae y fwyell wedi ei gosod wrth wreiddyn y prèniau; pob pren, gàn hyny, nad yw yn dwyn ffrwyth da, á dòrir i lawr, ac á droir yn danwydd. Myfi, yn wir, wyf yn eich trochi chwi mewn dwfr, i ddiwygiad; ond yr hwn sydd yn dyfod àr fy ol i, sydd alluocach na mi, esgidiau yr hwn nid wyf deilwng iddeu dwyn. Efe á’ch trocha chwi yn yr Ysbryd Glan, ac yn tân. Yr hwn y mae ei #3:7 Rhaw nithio.nithraw yn ei law, ac efe á lwyrlanâa ei rawn; efe á gasgl ei wenith i’r heiniardy, ac á ddifa yr us mewn tân anniffoddadwy.
13-17Yna y daeth Iesu o Alilëa i’r Iorddonen, iddei drochi gàn Iöan. Ond Iöan á ymesgusodai, gàn ddywedyd, Myfi sydd eisieu fy nhrochi genyt ti; ac yr wyt ti yn dyfod ataf fi! Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrtho, Goddef hyn yn bresennol; canys fel hyn y dylem ni gadarnâu pob sefydliad. Yna Iöan á ymfoddlonodd. Iesu gwedi ei drochi, nid cynt y codai o’r dwfr, nag yr agorwyd y nefoedd iddo; ac Ysbryd Duw á ymddangosai yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef; tra yr oedd llais o’r nefoedd yn cyhoeddi, Hwn yw fy mab, yr anwylyd, yn yr hwn yr ymhyfrydwyf.

अहिले सेलेक्ट गरिएको:

Matthew Lefi 3: CJW

हाइलाइट

शेयर गर्नुहोस्

कपी गर्नुहोस्

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy