YouVersion လိုဂို
ရှာရန် အိုင်ကွန်

Eseia 19

19
Esaiah XIX.
Dedfryd yr Aipht.
(Lle y cair darluniad cywir o gyflwr presennol y wlad hòno.)
1 # 19:1 Y mae y brophwydoliaeth hon yn agawr gyda darluniad ardderchawg yn gosod allan Lywodraethwr y byd, mal brenin, yn marchogaeth ar gwmwl fal mewn cerbyd (Ps. 104:3) i geryddu yr Aipht. Mae yn myned gyda brys, canys â ar gwmwl ysgafn. Y dull hwn o ymadroddi a gymerir oddiwrth waith brenin neu amherawdur daearawl yn marchogaeth mewn cerbyd buan i gospi deiliaid afreolus ac yn anufyddhau cyfreithiau y tir mewn rhan bell o’i lywodraeth. Wele Iehofah yn marchogaeth ar gwmwl ysgafn,
Ac yn dyfod i’r Aipht:
Ac eilunod yr Aipht a gynhyrfant rhagddo,
A chalon yr Aipht a dawdd yn ei chanol.
2Arfogaf hefyd yr Aiphtiaid yn erbyn yr Aiphtiaid,
A hwy a ymladdant bob un yn erbyn ei frawd,
A phob un yn erbyn ei gymydog:
Dinas yn erbyn dinas, teyrnas yn erbyn teyrnas.
3Ac ysbryd yr Aipht a balla#19:3 Ac ysbryd yr Aipht a balla— a dywelltir, Heb. Wrth yr ysbryd y deallir yma, yr enaid; yn enwedig y synwyr, y pwyll neu y callineb ag oedd gan yr Aipht i fwriadu pethau, ac i ymgynghori ar faterion. yn ei chanol,
A minnau a ddyddymaf#19:3 A minnau a ddyddymaf— a lyncaf, Heb. Hyny yw, gwnaf ei chynghor yn ofer, yn ddirym, ac yn ddiwerth; a bydd fal dwfr, neu lyn, a arllwysir, neu a dywelltir o lestr ar y llawr. ei chynghor:
Yna yr ymofynant âg eilunod ac â swynyddion,#19:3 swynyddion, Bol-siaradwyr, sef rhai yn sibrwd, ac yn gwneyd swn dieithr, trwy fol-ymsiarad, ac wrth hyn yn twyllaw pobl ofergoelus, y rhai a dybient eu bod yn ymgyfrinachu âg ysbrydion, neu fodau anweledig.
Ac â gorcheiniaid,#19:3 gorcheiniaid,Dewiniaid, y rhai drwy fath o gân riniedig, a rhyw ddull o gyfaredd a gymerent arnynt yngynghori â’r meirw ynghylch y byw; ac am bethau i ddyfod. Gwel 1 Sam. 28:7. ac â brudwyr#19:3 brudwyr, Gwyr doeth, a elwir hefyd gwyr gwyhodus, neu wyr cyfarwydd, y rhai oeddynt yn arfer daroganu pethau rhagllaw..
4Ac mi a gauaf yr Aipht yn llaw arglwydd caled,#19:4 arglwydd caled, Arglwyddi caled, Heb. Arglwyddi caledion, Dr. Morgan. Yma, fal mewn eraill leoedd, nid oes, i lawer o eiriau, er eu hod yn yr Hebraeg yn y rhif liosawg, ond ystyr unigawl; megys, “Yn y dechreuad y creodd Duw,” Duwiau, Heb. (Gen. 1:1) “A’r asyn breseb ei berchenog,” Berchenogion, Heb. (Esa. 1:4)
A brenin cadarn a lywodraetha arnynt;
Medd Arglwydd Iehofah y lluoedd.
5Ac y dyfroedd a ddarfyddant o’r môr,
Yr afon#19:5 Yr Afon, sef y Nil. hefyd a â yn hesb, ac yn sech:
6Ac wele yr afonydd a yrant allan ddrewdawd,
Ffrydiau yr Aipht#19:6 Ffrydiau yr Aipht, sef y dyfr-ffosydd a gloddiesid cr mwyn cadw dyfroedd y Nil ar ol ei llifeiriant. Gelwir hwynt hefyd Breichiau yr afon; canals. a dreuliant ac a sychant:
Pob corsen a hesgen a wywant.
7Y meusydd wrth y ffrwd, ar fin y ffrwd,
A phob hadiad y ffrwd#19:7 A phob hadiad y ffrwd,Hyny yw, pob rhyw dyfiant ar lànau y ffrwd.,
A sychir i fyny, a chwelir, ac ni bydd dim o honynt.
8Y pysgodwyr hefyd a dristâant, ac a alarant,
Oll o’r sawl a fwriant fach i ffrwd:
A thaenwyr rhwydau ar hyd wyneb y dyfroedd a lesgâant.
9Gwaradwyddir hefyd y rhai a weithiant lîn heislanedig,#19:9 llin heislanedig, Llin wedi ei heisylltu — gwedi ei gribaw; combed flax:meinllin.
Ac y sawl a wëant liain gwỳn.
10Yna y byddant eu seiliau yn ddrylliedig#19:10 Yna y byddant ei seiliau yn ddrylliedig. Yna y bydd ei rhwydau hi’n ddrylliedic, Dr. Morgan.Colofnau, Shroeder, seiliau, Gesenius, a Winer. O barth cyfieithiad y geiriau hyn y mae anghyfod nid bychan ymhlith yr amrywiawl gyfieithwyr; ond tueddir ni i gydochri â’r sawl a darddant y gair Hebraeg, “ei seiliau hi” — ponere: gosodi seiliau. Dygwydda yr un gair yn Ps. 11:3, lle ei troir fal y gwnaethom yma, seiliau. Dull o ymadrawdd ydyw yn arwyddaw penaethiaid gwlad, sef y rhai y gorphwysa arnynt bwys y llywodraeth. Ac felly ystyr y geiriau ydyw y penaethiaid a fyddant yn friwedig o ysbryd; ac y werinos yn drist o galon.,
Ac holl weithwyr cyflog yn drist o galon.
11Diau ynfydion tywysogion Soan;
Cynghor doethion gynghorwyr Pharaoh a aeth yn ynfyd:
Pa fodd y dywedwch wrth Pharaoh,
Mab y doethion ydwyf fi,
Mab hen freninoedd?
12Mae hwynt weithion? dy ddoethion!
A mynegent atolwg, os gwyddant,
Pa gynghor a gymerodd Iehofah y lluoedd yn erbyn yr Aipht.
13Tywysogion Soan a ynfydasant,
Twyllwyd tywysogion Noph:
A phenaethiaid eu llwythau a hudasant yr Aipht.
14 Iehofah a gymysgodd yn ei chanol hi ysbryd pendröad;
A hwy a wnaethant i’r Aipht gyfeiliorni yn ei holl waith,
Mal y cyfeiliorna meddwyn yn ei chwydfa.
15Ac ni bydd gwaith i’r Aipht,
Yr hwn a wnelo y pen, na’r gloren, y gangen, na’r frwynen.
16Yn y dydd hwnw y bydd yr Aipht fàl gwragedd;
Canys hi a ddychryna, ac a ofna,
Rhag ysgydwad llaw Iehofah y lluoedd,
Yr hon a ysgadwa efe yn ei herbyn hi.
17A bydd tir Iudah yn arswyd i’r Aipht:
Pwy bynag a’i coffa hi a ofna ynddo ei hun;
Rhag cynghor Iehofah y lluoedd,
Yr hwn a gymerodd efe yn ei herbyn hi.
18Yn y dydd hwnw y bydd pum dinas yn nhir yr Aipht,
Yn llefaru iaith Canaan,
Ac yn tyngu i Iehofah y lluoedd:
Dinas Dystryw y gelwir un.
19Yn y dydd hwnw y bydd allor i Iehofah,
Ynghanol tir yr Aipht;
A cholofn i Iehofah gerllaw ei therfyn hi.
20Ac er arwydd y bydd, ac er tystiolaeth,
I Iehofah y lluoedd yn nhir yr Aipht;
Oblegid llefain o honynt ar Iehofah rhag eu gorthrymwyr#19:20 rhag eu gorthrymwyr. Felly hefyd y Dr. Morgan.,
Ac iddo ef anfon iddynt waredwr, ac amddiffynwr, ac eu hachub hwynt.
21Ac adwaenir Iehofah gan yr Aipht,
Ië yr Aiphtiaid a adwaenant Iehofah yn y dydd hwnw;
Gwnant hefyd aberth, ac offrwm,
Ac a addunant adduned i Iehofah, ac a’i talant.
22 Iehofah hefyd a darawa yr Aipht, gan daraw ac iachâu;
Hwythau a droant at Iehofah;
Ac ymbilir ef ganddynt, ac efe a’u hiachâa hwynt.
23Yn y dydd hwnw y bydd prif-ffordd o’r Aipht i Assyria,
Ac yr â yr Assyriaid i’r Aipht,
Ac yr Aiphtiaid i Assyria;
Ac yr Aipht gydag Assyria a wasanaethant.#19:23 a wasanaethant. A’r Aipht gyd ag Assyria wasanaethant [Dduw]. Dr. Morgan.
24Yn y dydd hwnw y bydd Israel yn drydedd#19:24 yn drydedd. Yn y dydd hwnw y bydd Israel yn drydedd i’r Aipht. Dr. Morgan.
I’r Aipht ac i Assyria;
Er bendith o fewn y tir.

လက်ရှိရွေးချယ်ထားမှု

Eseia 19: TEGID

အရောင်မှတ်ချက်

မျှဝေရန်

ကူးယူ

None

မိမိစက်ကိရိယာအားလုံးတွင် မိမိအရောင်ချယ်သောအရာများကို သိမ်းဆည်းထားလိုပါသလား။ စာရင်းသွင်းပါ (သို့) အကောင့်ဝင်လိုက်ပါ