YouVersion လိုဂို
ရှာရန် အိုင်ကွန်

Eseia 23

23
XXIII.
Dedfryd Tyrus.
1Llongau Tarsis, udwch:
Canys anrheithiwyd hi, mal nad oes dŷ i fyned iddo#23:1 Canys anrheithiwyd [hi] fel nad oes dŷ i fyned iddo. — Dr. Morgan. !
O dir Chittim y datguddiwyd iddynt.
2Dystewch, drigolion yr ynys#23:2 trigolion yr ynys. Ynys, yma, ac mewn rhai lleoedd eraill, a arwyddocâ goror; cyffiniau y môr, ac nid ynys yn yr ystyr gyffredin. Marchnadyddion Sidon yn tramwy’r môr a’th lanwasant. Dr. Morgan.!
Trafnidyddion Sidon yn tramwy y môr a’th lanwent.
3Ac ar ddyfroedd lawer had Sichor,#23:3 Sichor, (du) — Enw Hebreig (ior yr enw Aiphtaidd) am y Nil.
Cynauaf yr Afon, oedd ei chynnyrch:
A hi ydoedd farchnadfa cenedloedd.
4Cywilyddia, Sidon! canys llefarodd y môr,
Cader#23:4 Cader, cadarnfa; castell; a fortress. y môr, gan ddywedyd:
Ni fum mewn gwewyr, ac ni esgorais;
Ac ni fegais wyr ieuainc; ac ni feithrinais forwynion.
5Pan glywir hyn gan yr Aiphtiaid,
Hwy a ymofidiant pan glywer hyn am Tyrus#23:5 Pan glywir [hyn] ym mhlith yr Aiphtiaid, hwynt a ymofidiant pan glywer sôn am Tyrus. Dr. Morgan..
6Ewch trosodd i Tarsis;
Udwch, preswylwyr yr ynys!
7Ai hon yw eich dinas lawen;
Yr hon y mae ei henafiaeth er y dyddiau gynt?
Ei thraed a’i harweiniant hi i ymdaith ymhell#23:7 Ei thraed a’i harweiniant hi i ymdaith ym mhell. Dr. Morgan..
8Pwy a gynghorodd hyn yn erbyn Tyrus, y goronyddes,#23:8 y goronyddes,coron roddiad; un yn rhoddi coronau: the dispenser of crowns.
Yr hon yr ydoedd ei thrafnidyddion yn dywysogion;
Ei marchnadyddion yn bendefigion y ddaear?
9 Iehofah y lluoedd a fwriadodd hyn,
I ddiwynaw balchder pob gogoniant;
I ddirmygu holl bendefigion y ddaear.
10Dos drwy dy wlad fal yr Afon, O ferch Tarsis!
Nid oes wregys mwyach.
11Estynodd ei law ar y môr,
Gwnaeth i deyrnasoedd grynu;
Iehofah a orchymynodd am Canaan#23:11 Gorchymynodd yr Arglwydd am Canaan. Dr. Morgan.,
I ddinystriaw ei chadarnleoedd.
12A dywedodd Efe: ni chai orfoleddu mwy,
Yr orthrymedig forwyn, merch Sidon!
Cyfod, dos i Chittim; yno chwaith ni bydd i ti lonyddwch#23:12 Cyfot dos i Cittim: yno hefyd ni bydd iti lonyddwch. Dr. Morgan..
13Wele dir y Caldeaid!
Bu nid oedd y bobl hyn;
Yr Assyriad a’i sylfaenodd hi i drigolion yr anialwch.
Derchafant hwy eu tyrau,
Dynoethant ei phlasau hi;
Troant hi yn adfail.
14Llongau Tarsis, udwch;
Canys anrheithiwyd eich cader chwi.
15A bydd yn y dydd hwnw
Yr anghofir Tyrus ddeng mlynedd a thrugain,
Megys dyddiau un brenin:
Yn mhen y deng mlynedd a thrugain
Y bydd cân gan Tyrus, megys cân putain.
16Cymer y delyn, dos o amgylch y ddinas,
Tydi butain anghofiedig!
Cân gerdd dda: cân lawer fal yth adgofier.
17A bydd yn mhen y deng mlynedd a thrugain,
Yr ymwela Iehofah â Thyrus,
A hi a ddychwel at ei helw,
Ac a buteinia â holl deyrnasoedd y byd
Ar wyneb y ddaear.
18Ond ei thrafnid hi, ac ei helw hi, a fydd gysegredig i
Iehofah:
Ni thrysorir ac nis cedwir;
Canys eiddo y rhai a drigant o flaen Iehofah fydd ei thrafnid hi,
I fwyta hyd ddigon, ac yn wisgiad trefnus#23:18 I fwyta hyd ddigon, ac yn wisg barhaus. Dr. Morgan..

လက်ရှိရွေးချယ်ထားမှု

Eseia 23: TEGID

အရောင်မှတ်ချက်

မျှဝေရန်

ကူးယူ

None

မိမိစက်ကိရိယာအားလုံးတွင် မိမိအရောင်ချယ်သောအရာများကို သိမ်းဆည်းထားလိုပါသလား။ စာရင်းသွင်းပါ (သို့) အကောင့်ဝင်လိုက်ပါ