Matthew 3
3
Ioan yn pregethu ac yn bedyddio
[Marc 1:1–8; Luc 3:1–18; Ioan 1:23]
1Ac yn y dyddiau hyny y mae Ioan Fedyddiwr yn dyfod allan, gan bregethu yn Niffaethwch Judea, 2gan ddywedyd, Edifarhewch, canys y mae Teyrnas Nefoedd wedi neshau. 3Oblegyd hwn yw efe y dywedwyd am dano#3:3 Trwy, א B C D., Brnd., gan, L Δ. drwy Esaiah y proffwyd, gan ddywedyd,
“Llef un yn llefain#3:3 Neu, “Llef un yn llefain yn y Diffaethwch, Parotowch ffordd yr Arglwydd.”,
Yn y Diffaethwch parotowch ffordd yr Arglwydd,
Gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef.”#Es 40:3
4Ac Ioan ei hun oedd a'i wisg o flew camel, a gwregys lledr o gylch ei lwynau, a'i fwyd oedd locustiaid a mel gwyllt.#3:4 Agrios; llyth., yn perthyn i'r meusydd, neu i'r wlad; yr hyn a ddaw neu a dyf heb ei wrteithio. Yn y testyn, y mêl a osodid yn y coed neu yn agenau creigiau gan wenyn, neu, yn hytrach, yr hyn a ddistyllid gan goed neillduol, ac a gesglid wedi iddo galedu.
5Yna yr aeth allan ato ef Jerusalem a holl Judea, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen, 6a hwy a fedyddiwyd yn#3:6 Yn afon yr Iorddonen, א B C Δ Brnd. Yn yr Iorddonen D L. afon yr Iorddonen ganddo ef, gan gyffesu eu pechodau. 7A phan welodd efe lawer o'r Pharisëaid ac o'r Saducëaid yn dyfod i'w#3:7 Epi; dengys yr arddodiad hwn gyfeiriad moesol eu bwriad. Cyfieitha rhai ef, yn erbyn, mewn gwrthwynebiad i'w fedydd. fedydd, efe a ddywedodd wrthynt, O epil#3:7 Llyth.: hiliogaethau, epilod. gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd#3:7 Llyth.: dwyn o flaen neu dan y llygaid, dangos, dysgu, rhybuddio. i ffoi rhag y llid sydd ar ddyfod? 8Dygwch, gan hyny,#3:8 Ffrwyth, א B C ffrwythau, L. ffrwyth teilwng o edifeirwch. 9Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae genym ni Abraham yn dad, canys yr wyf yn dywedyd i chwi y dichon Duw o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham. 10Ac yn barod y mae y fwyell yn cael ei gosod wrth wraidd y prenau; pob pren, gan hyny, nad yw yn dwyn ffrwyth da sydd yn cael ei dori i lawr a'i daflu i dân. 11Myfi yn ddiau wyf yn eich bedyddio chwi mewn dwfr i edifeirwch; eithr yr Hwn sydd yn dyfod#3:11 Hwn sydd yn dyfod, un o deitlau y Crist. ar fy ol I sydd gryfach nâ myfi, esgidiau#3:11 Llyth.: yr hyn a glymir odditanodd, megys sandalau, &c. yr hwn nid wyf deilwng i'w dwyn, efe a'ch bedyddia chwi yn yr Yspryd Glan ac yn tân. 12Yr hwn y mae ei nith‐raw#3:12 Ptuon; golyga fynychaf y rhaw a ddefnyddid at nithio: weithiau, y nithlen neu wyntyll. yn ei law, ac efe a lwyr‐lanha ei lawr dyrnu#3:12 Neu rawn ei lawr dyrnu., ac efe a gasgl ei yd i'w ysgubor; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.
Bedyddiad Crist
[Marc 1:9–11; Luc 3:21, 22; Ioan 1:31–34]
13Yna y mae yr Iesu yn dyfod allan#3:13 Paraginetai; dynoda yma ac yn adnod 1 dyfod allan, gwneyd ei ymddangosiad cyhoeddus. “Eithr Crist wedi dyfod yn Archoffeiriaid,” &c., Heb 9:11 o Galilea i'r Iorddonen at Ioan, i'w fedyddio ganddo. 14Eithr#3:14 Efe. א B Tr. Ti. WH. Ioan, C D. Al. Diw. efe a fynai ei lwyr rwystro,#3:14 Diekòluen; golyga dia yn y ferf, ymdrech ddifrifol, a golyga yr amser a ddefnyddir, sef yr anmherffaith, nid gweithred derfynol, ond mynychol neu barhaol, megys, “Efe a ddechreuodd neu a fynai ei rwystro,” &c. gan ddywedyd, Y mae arnaf fi eisieu fy medyddio genyt ti, ac a ddeui di ataf fi? 15A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Caniata yn awr, canys fel hyn y mae yn weddus i ni gyflawnu pob cyfiawnder. Yna y mae efe yn caniatau iddo. 16A'r Iesu wedi ei fedyddio a aeth yn y fan i fyny oddiwrth y dwfr; ac wele, y nefoedd a agorwyd#3:16 Iddo C. Al. Diw. Tr. Gad. א B. Ti. WH. iddo, ac efe a welodd Yspryd Duw yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef; 17ac wele lef allan o'r Nefoedd yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd.#3:17 Neu, trwy yr hwn y'm boddlonwyd — Yn yr hwn yr ymhyfrydais.#Salm 2:7–12; Es 42:1
सध्या निवडलेले:
Matthew 3: CTE
ठळक
सामायिक करा
कॉपी करा
तुमचे हायलाइट तुमच्या सर्व डिव्हाइसेसवर सेव्ह करायचे आहेत? साइन अप किंवा साइन इन
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.