Лого на YouVersion
Икона за пребарување

Matthew 24

24
Rhagfynegu Dinystr y Deml a'r rhagarwyddion
[Marc 13:1–13; Luc 21:5–19]
1A'r Iesu gan ddyfod allan oedd yn myned ymaith oddiwrth y Deml: a'i Ddysgyblion a ddaethant i ddangos iddo adeiladau y Deml. 2Ac#24:2 Iesu C X.; Gad. א B D L Brnd. Efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni#24:2 Felly א B C Brnd.; a welwch, &c., D L X. welwch chwi y rhai hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, ni adewir yma garreg ar garreg a'r ni ddattodir.
Arwyddion Cyffredinol.
3Ac Efe yn eistedd ar fynydd yr Olew‐wydd, y Dysgyblion a ddaethant ato o'r neilldu, gan ddywedyd, Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? A pha beth fydd arwydd dy Ddyfodiad#24:3 Parousia. Llyth., presennoldeb (2 Cor 10:10); yna presennoldeb un sydd yn dyfod, felly dyfodiad (1 Cor 16:17). Yn y T.N., fel rheol, dynoda Ddychweliad Crist o'r Nefoedd i godi'r meirw, &c. (1 Thess 3:13; 4:15; 5:23, &c.). ac o Ddiwedd y byd#24:3 Neu orpheniad yr oes (Aiôn, oes, byd, gweler Mat 12:32).? 4A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch na fyddo i neb eich camarwain chwi. 5Canys llawer a ddeuant yn#24:5 Llyth., “Ar fy enw I,” gan wneyd defnydd o fy enw fel sylfaen i'w ymhoniadau. fy Enw I, gan ddywedyd, Myfi yw y Crist, ac a gamarweiniant laweroedd. 6A bydd i chwi glywed am ryfeloedd a son#24:6 Throos, dadwrdd, crochlefain, cri a beri ddychryn. am ryfeloedd: edrychwch#24:6 Edrychwch i fyny [byddwch wyliadwrus, ond na ddychryner chwi.], na ddychryner chwi, canys rhaid iddynt#24:6 Oll C.; Gad. א B D L Brnd. fod, ond nid yw y diwedd etto.
7Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newynoedd#24:7 A pläau [loimoi, nodau, heintiau,] C.; Gad. א B D Brnd.; pläau a newynoedd L., a daeargrynfeydd mewn amryw fanau#24:7 Kata topous, “ar hyd manau,” “yma a thraw.”. 8Y pethau hyn oll ydynt ddechreuad gwewyr esgor#24:8 Nid gofidau (gweler 1 Thess 5:2), “Nid yw yr holl bethau hyn ond arwydd o adenedigaeth, o amser gwell. Marwolaeth yr Hen Oruchwyliaeth yw adeg genedigaeth y Newydd.”. 9Yna y'ch traddodant chwi i orthrymder, ac a'ch lladdant; a chwi a gasheir gan yr holl genedloedd o herwydd fy enw I. 10Ac yna y rhwystrir#24:10 Y meglir, y tramgwydda, y llithra, gweler Mat 5:29. llawer, ac a draddodant i fyny eu gilydd, ac a gashant eu gilydd. 11A gau-broffwydi lawer a godant ac a gamarweiniant lawer. 12Ac o herwydd yr amlha annghyfiawnder#24:12 Llyth., annghyfreithder (tor cyfraith)., fe oera#24:12 Oeri drwy chwythu arno. cariad y llaweroedd#24:12 Neu y mwyrif.. 13Ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, hwnw a fydd cadwedig. 14Ac Efengyl hon#24:14 Sef yr hyn a gynnwysir yn adn. 13. y Deyrnas a bregethir yn yr holl fyd preswyliedig, er tystiolaeth i'r holl genedloedd; ac yna y daw y diwedd.
Arwyddion neillduol: Dinystr Jerusalem
[Marc 13:14–23; Luc 21:20–24]
15Pan gan hyny y gwelwch ffieiddbeth#24:15 Bdelugma, ffieiddbeth o herwydd ei ddrygsawr. Defnyddir y gair yn enwedig am eilunod ac eilunaddoliaeth (1 Br 11:6; Dad 17:4). Lled debyg y cyfeirir yma at ryw ddygwyddiad yn yr hwn yr halogwyd y Deml, megys (1) presennoldeb yr Eryrod Rhufeinig, neu (2) cerflun Titus a osodwyd yno, neu (3) y cerflun Ymherodrol a osododd Pilat i fyny, neu (4) ymddygiad gwarthus y Zelotiaid. yr annghyfannedd-dra#Dan 9:27; 11:31; 12:11 a ddywedwyd trwy Daniel y Proffwyd, yn sefyll yn y lle Sanctaidd (y neb a ddarlleno, ystyried#24:15 Neu dealled.). 16Yna y rhai a fyddant yn Judea, bydded iddynt ffoi i'r mynyddoedd#24:16 Sef Mynyddoedd Peraea.. 17Yr hwn a fyddo ar nen‐y‐tŷ, na ddisgyned i gymmeryd y#24:17 Y pethau B L Z Brnd.; unrhyw beth D.; peth א. pethau allan o'i dy. 18A'r hwn fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ol i gymmeryd ei#24:18 Ei gochl א B D L Z Brnd.; ei ddillad Δ E. gochl#24:18 Neu fantell.. 19A gwae i'r beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronau, yn y dyddiau hyny. 20Ond gweddiwch fel na fyddo eich ffoedigaeth yn y Gauaf nac ar ddydd Sabbath. 21Canys y pryd hwnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni fu o ddechreu y byd hyd yn awr, ac ni fydd chwaith#Dan 12:1. 22A phe na fyrhawyd y dyddiau hyny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll; ond er mwyn yr Etholedigion, fe fyrheir y dyddiau hyny.
Yr hyn a ddygwydd rhwng Dinystr Jerusalem a'r Farn Olaf.
23Yna os dywed neb wrthych, Wele, yma y mae y Crist, neu, Yma, na chredwch. 24Canys cyfyd gau‐Gristiau a gau-broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, fel ag i gamarwain, os yn bosibl, hyd y nod yr Etholedigion. 25Wele, yr wyf wedi rhagfynegu i chwi. 26Am hyny, os dywedant wrthych, Wele, y mae Efe yn y Diffaethwch, nac ewch allan; Wele, yn yr ystafelloedd#24:26 Tameion, ystorfa, yna ystafell, yn enwedig ystafell fewnol neu ddirgel. dirgel, na chredwch. 27Canys fel y daw y fellten allan o'r Dwyrain, ac a welir#24:27 Neu a oleua. hyd y Gorllewin; felly#24:27 Hefyd Δ; Gad. א B Brnd. y bydd Dyfodiad Mab y Dyn. 28Pa#24:28 Canys Δ E; Gad. א B D L Brnd. le bynag bydd y gelain, yno yr ymgasgl yr Eryrod.
Diwedd y Byd
[Marc 13:24–31; Luc 21:25–33]
29Yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hyny, yr haul a dywyllir, a'r lleuad ni rydd ei llewyrch; a'r sêr a syrthiant o'r Nef, a galluoedd y Nefoedd a ysgydwir. 30Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y Nef: ac yna y galara#24:30 Llyth., “Ac yna holl lwythau y ddaear a gurant eu bronau.” holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y Dyn yn dyfod ar gymmylau y Nef, gyda gallu a gogoniant mawr. 31Ac Efe a ddenfyn ei Angelion gydag udgorn#24:31 Udgorn o sain uchel [neu sain mawr udgorn] B X. Tr. Al. WH. Diw.; udgorn mawr א L Δ Ti. o sain uchel, a hwy a gasglant ei Etholedigion ef o'r pedwar gwynt, o eithafoedd y Nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt#Es 34:4; Dan 7:13.
Sydynrwydd y Farn.
32Ond dysgwch y ddammeg oddiwrth y ffigysbren: Pan yw ei gangen eisioes yn dyner, ac yn bwrw allan ddail, chwi a wyddoch fod yr Haf yn agos. 33Felly chwithau hefyd, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau. 34Yn wir meddaf i chwi, Nid ä y genedlaeth hon heibio ddim hyd oni wneler hyn oll. 35Y Nef a'r ddaear a ânt heibio, ond fy ngeiriau I nid ânt heibio ddim. 36Ond am y dydd hwnw a'r awr nis gŵyr neb, nac Angelion y Nefoedd, na'r#24:36 Na'r Mab א B D Brnd. ond Tr. Mab#24:36 Meddylia rhai i'r ymadrodd gael ei ddwyn i fewn o Marc 13:32., ond y#24:36 Y Tad א B D L Brnd.; fy Nhad E. Tad yn unig. 37Canys#24:37 Canys B D La. Tr. WH.; ac א L Δ Al. Ti. Diw. fel yr oedd dyddiau Noah#Gen 7, felly y bydd Dyfodiad Mab y Dyn. 38Canys fel yr oeddent yn y dyddiau [hyny#24:38 [Hyny] B D La. [Tr.] [WH.] Diw.; Gad. א L Ti. Al.] o flaen y Diluw, yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noah i fewn i'r Arch, 39ac ni wybuant hyd oni ddaeth y Diluw a'u cymmeryd#24:39 Llyth., eu cymmeryd i fyny; h.y., gan y dyfroedd chwyddedig. hwynt oll ymaith, felly y bydd Dyfodiad Mab y Dyn. 40Yna y bydd dau yn y maes: un#24:40 Un [heis] א B D L Brnd.; y naill [ho heis] E. a gymmerir#24:40 Llyth., a gymmerir at (un arall). Yma yn debyg at ei Arglwydd. Gweler Ioan 14:3, “A'ch cymmeraf ataf fy hun.” ac un#24:40 Un [heis] א B D L Brnd.; y naill [ho heis] E. a adewir. 41Dwy yn malu wrth y maen melin: un a gymmerir ac un a adewir. 42Gwyliwch gan hyny, canys ni wyddoch ar ba ddydd#24:42 Ddydd א B D Δ Brnd.; awr L. y mae eich Arglwydd yn dyfod. 43Eithr gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gwr y ty ar ba wyliadwriaeth y mae y lleidr yn dyfod, efe a wyliasai, ac ni oddefasai i'w dy gael ei gloddio trwodd. 44O herwydd hyn, byddwch chwithau hefyd barod, canys yn yr awr ni thybioch y mae Mab y Dyn yn dyfod.
Y ddyledswydd o ffyddlondeb.
[Luc 12:41–46]
45Pwy gan hyny yw y gwas ffyddlawn a doeth#24:45 Phronimos, call, synwyrol, pwyllog., yr hwn a osododd ei arglwydd dros ei wasanaethyddion#24:45 Wasanaethyddion [oiketeia, corff o wasanaethyddion] B L Δ Brnd.; weision [therapeia], [gweinyddwyr] D.; א, i roddi iddynt fwyd#24:45 Llyth., y bwyd neu gynnaliaeth, yr hyn sydd ddigonol a phriodol. mewn pryd? 46Dedwydd fydd y gwas hwnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly. 47Yn wir meddaf i chwi, Dros ei holl feddiannau y gesyd efe ef. 48Ond os dywed y gwas drwg hwnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi#24:48 Dyfod C D.; Gad. א B Brnd.; 49a dechreu curo ei gydweision#24:49 Mae y gair gwas neu gweision yma yn dynodi caethwas, caethweision., a bwyta ac yfed gyda'r meddwon, 50arglwydd y gwas hwnw a ddaw mewn dydd nad yw efe yn ei ddysgwyl, ac mewn awr nis gŵyr efe; 51ac a'i fflangella yn erwin#24:51 Dichotomeô, tori yn ddau, hollti. Y mae yma gyfeiriad naill ai at y gosp greulon o dori y troseddwyr yn ddau â llif, cleddyf, &c., neu at dori eu cnawd drwy fflangellu, &c., ac a esyd ei ran ef gyda'r rhagrithwyr#24:51 Neu, drygionus., yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.

Селектирано:

Matthew 24: CTE

Нагласи

Сподели

Копирај

None

Дали сакаш да ги зачуваш Нагласувањата на сите твои уреди? Пријави се или најави се