Matthew 23
23
Rhith o grefydd heb y sylwedd.
[Marc 12:37–40; Luc 20:45–47]
1Yna y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a'i Ddysgyblion, gan ddywedyd, 2Yn nghadair Moses yr eisteddodd#23:2 Llawn ystyr y gair ydyw, y gosodasant eu hunain ac yr eisteddasant i lawr. yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid. 3Yr oll gan hyny, pa bethau bynag a ddywedant wrthych#23:3 am eu cadw, rhai ysg. rhed. a chyf.; gad. א B D Z L Brnd., gwnewch#23:3 gwnewch a chedwch B D L Brnd.; gwnewch א; cedwch a gwnewch E. a chedwch; eithr yn ol eu gweithredoedd na wnewch, canys dywedant ac nis gwnant. 4Ac#23:4 Ac [ïe, ond] א B L Δ Brnd.; Canys DK. y maent yn rhwymo yn nghyd feichiau trymion [ac#23:4 ac anhawdd eu dwyn [dusbastakta] B D Δ La. [Tr.] Diw.; gad. א L Al. Ti. WH. anhawdd eu dwyn], ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion; eithr hwy eu hunain ni fynant eu syflyd â'u bys. 5Ond eu holl weithredoedd y maent yn wneuthur er eu gweled gan ddynion, canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau,#23:5 Phulacterion; llyth., amddiffynfa, lle caerog gyda gwarchodlu; yna, yr hyn a rydd nodded, megys arbais, swynogl (amulet). Rhoddai yr Iuddewon yr enw hwn ar yr ysnodenau ar y rhai yr ysgrifenid adranau o Gyfraith Moses, yn enwedig Ex 13:1–15; Deut 6:4–9; 11:13–21, a'r rhai a wisgid ar y talcen ac ar y fraich aswy ar adeg offrymiad gweddïau. ac yn helaethu y siobynau#23:5 Kraspedon, “siobyn” (tassel, fringe, tuft); gweler 9:20; 14:36#23:5 eu gwisgoedd L; gad. א B D X Brnd.. 6A charu y maent y lle blaenaf yn y gwleddoedd#23:6 Llyth., yn y swpperi., a'r prif gadeiriau yn y synagogau, 7a'r moesgyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'u galw gan ddynion, Rabbi#23:7 Rabbi א B L Δ La. Tr. WH. Diw.; Rabbi, Rabbi, D E Γ Al. Ti.. 8Eithr na'ch galwer chwi Rabbi, canys un yw eich Athraw#23:8 Meistr [Kathegetes, arweinydd, meistr] א D Δ L.; athraw [didaskalos] B U 33, Brnd. chwi#23:8 Y Crist Δ; Gad. א B D L Brnd., a chwithau oll brodyr ydych. 9Ac na elwch neb yn Dad#23:9 Cymharer Papa, Pab = Tâd. i chwi ar y ddaear, canys un yw eich Tad, sef#23:9 Yr un Nefol [ouranios] א B L Brnd.; yr hwn sydd yn y Nefoedd E. yr un Nefol. 10Ac na'ch galwer chwi yn Arweinwyr#23:10 Kathêgêtai, arweinwyr, meistriaid., canys eich Arweinydd chwi Un ydyw, y Crist. 11A'r mwyaf#23:11 Llyth., yr hwn sydd fwy. o honoch fydd yn was#23:11 Diakonos, gweinidog, gwasanaethwr. i chwi. 12A phwy bynag a ddyrchafo ei hun a ostyngir; a phwy bynag a ostyngo ei hun a ddyrchefir.
Y Saith Gwae: (1) Am gulni ysprydol
[Luc 11:52]
13-14A gwae i chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr: canys yr ydych yn cau Teyrnas Nefoedd o flaen dynion: canys chwi eich hunain nid ewch i fewn, a'r rhai sydd yn myned i fewn nis gadewch i fyned i fewn#23:13–14 “Gwae chwi Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr; canys yr ydych yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddio; o herwydd paham y derbyniwch farnedigaeth fwy” [helaethach, drymach.] Y mae yr adnod hon yn 13 yn Δ E F G H, &c.; ac yn 14 mewn ychydig ysgrifau rhedegog a Chyf. Gadewir hi allan yn א B D L Brnd. Dygwyd hi i fewn o Marc 12:40 a Luc 20:47..
(2) Am golledigaeth proselytiaid.
15Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys amgylchu yr ydych y môr a'r tir i wneyd un proselyt#23:15 Prosêlutos, un newydd ddyfod, yna un dyeithr. Yn mhlith yr Iuddewon golygai un wedi dyfod drosodd oddiwrth y Cenedloedd, ac wedi mabwysiadu Iuddewiaeth fel ei grefydd. Yr oedd dau ddosparth o honynt (1) Proselytiaid Cyfiawnder, y rhai a enwaedid, ac a gadwent yr holl Gyfraith; a (2) Proselytiaid y Porth, y rhai ni enwaedid, ond a dalent ufudd‐dod i ranau neillduol o'r Gyfraith.; a phan y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab Gehenna#23:15 Gehenna, gwel Mat 5:22–29, &c. yn ddau cymmaint a chwi eich hunain.
(3) Am dyngu i'r lleiaf ac esgeuluso y mwyaf.
16Gwae chwi, arweinyddion deillion, y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynag a dwng i'r#23:16 Llyth., wrth; “A dwng yn enw'r Cyssegr.” Cyssegr#23:16 Naos, cyfannedd‐dy, a ddefnyddir am y rhan hono o'r Deml oedd gynnwysedig o'r Cyssegr a'r Cyssegr Sancteiddiolaf. Hieron oedd y gair ddefnyddid am yr holl adeilad, gweler Mat 12:6. Felly cyfieithir Naos, “Cyssegr,” a Hieron, “Teml.”, nid yw ddim#23:16 Hyny yw, nid yw hyny yn ei rwymo i gyflawnu ei lw neu adduned.; ond pwy bynag a dwng i aur y Cyssegr, y mae efe yn rhwymedig#23:16 Llyth., yn ddyledus.. 17O rai ffol a dall! canys pa un sydd fwyaf, yr aur, ai y Cyssegr a sancteiddiodd#23:17 A sancteiddiodd [hagiasas] א B D Z Brnd.; sydd yn sancteiddio [hagiazon] C L. yr aur? 18Etto, pwy bynag a dwng i'r Allor, nid yw ddim#23:18 Hyny yw, nid yw hyny yn ei rwymo i gyflawnu ei lw neu adduned., ond pwy bynag a dyngo i'r rhodd sydd arni, y mae efe yn rhwymedig#23:18 Llyth., yn ddyledus.. 19Chwi#23:19 Chwi ddeillion א D L Z Al. Ti. Tr. WH. Diw.; chwi ffyliaid a deillion B C Δ La. [o adn 17] ddeillion! canys pa un sydd fwyaf, y rhodd, neu yr Allor sydd yn sancteiddio y rhodd#Ex 29:37? 20Yr hwn gan hyny a dwng i'r Allor a dwng iddi ac i'r hyn oll sydd arni. 21A'r hwn a dwng i'r Cyssegr a dwng iddo, ac i'r Hwn#23:21 Sydd yn preswylio א B Ti. WH. Diw.; a breswyliodd C D Z L Δ. Al. Tr. sydd yn preswylio ynddo. 22A'r hwn a dwng i'r Nef a dwng i Orsedd Duw ac i'r Hwn sydd yn eistedd arni#Es 66:1.
(4) “Am hidlo gwybedyn a llyncu camel”
[Luc 11:42]
23Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys yr ydych yn rhoddi degwm o'r mintys#23:23 Heduosmos, persawrus, llysieuyn persawrus a daenid ar loriau tai a synagogau., a'r anis#23:23 Yn hytrach, y gwewyrlys, trymsawr (S. dill)., a'r cwmin#Deut 14:22, ac yr ydych wedi esgeuluso pethau pwysicaf#23:23 Llyth., pwysicach. y Gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd#23:23 Neu ffyddlondeb, fel yn Titus 2:10; ond dylasech wneuthur y pethau hyn, heb esgeuluso y lleill. 24O arweinyddion deillion, yn#23:24 Y rhai [ydych] א; Gad. B D L Brnd. hidlo y gwybedyn, ac yn traflyncu y camel!
(5) Am gadw seremonïau ac heb foesoldeb
[Luc 11:37–41]
25Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys yr ydych yn glanhau y tu allan i'r cwpan a'r ddysgl#23:25 Dysgl a ddaliai foethau a ffrwythau., ond o'r tu fewn y maent yn llawn trais#23:25 Treisladrad, cribddail. ac anghymmedroldeb#23:25 Llyth., Diffyg hunanlywodraeth, felly anniweirdeb, anlladrwydd, Annghymmedroldeb.. 26O Pharisead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddifewn#23:26 Neu, y tu fewn i'r cwpan. i'r cwpan a'r ddysgl, fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddiallan#23:26 Neu y tu allan. i'r cyfryw.
(6) Am yr allanol teg a'r mewnol ffiaidd
[Luc 11:44]
27Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys tebyg ydych i feddau wedi eu gwyngalchu, y rhai oddiallan ydynt yn ymddangos yn deg#23:27 Oraios, o ôra, “Blodeuddydd bywyd,” yna prydferthwch, tegwch, yn enwedig yr hwn a berthyn i fywyd., ond oddifewn ydynt lawn o esgyrn y meirw a phob aflendid. 28Felly chwithau hefyd, oddiallan yn wir yr ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond oddifewn yn llawn rhagrith#23:28 Neu, drygioni, anwiredd, annuwioldeb. ac annghyfiawnder#23:28 Anomia, llyth., annghyfreithder, yna anwiredd, annghyfiawnder..
(7) Am addurno y beddau, ond lladd y proffwydi
[Luc 11:47–51]
29Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys yr ydych yn adeiladu beddau y Proffwydi, ac yn addurno cofadeiliau#23:29 Hyn yw prif ystyr y gair; golyga hefyd, bedd. y rhai cyfiawn, 30ac a ddywedwch, Pe buasem ni yn byw yn nyddiau ein tadau, ni fuasem ni gyd‐gyfranogion â hwynt yn ngwaed y Proffwydi. 31O ganlyniad, yr ydych yn tystiolaethu am danoch eich hunain eich bod yn feibion y rhai a lofruddiasant y Proffwydi. 32A chwithau, llenwch i fyny fesur eich tadau. 33O seirff, hiliogaeth gwiberod! pa fodd y diangwch rhag barnedigaeth Gehenna#23:33 Gweler Mat 5:22, &c.? 34O herwydd hyn#23:34 Yn debyg, o herwydd caledrwydd a gelyniaeth eu calonau., Wele, yr wyf yn anfon atoch Broffwydi, a Doethion, ac Ysgrifenyddion: rhai o honynt a leddwch ac a groeshoeliwch, a rhai o honynt a ffrewyllwch yn eich Synagogau, ac a erlidiwch o ddinas i ddinas; 35fel y delo arnoch chwi bob gwaed cyfiawn a dywelltir ar y ddaear, o waed Abel y Cyfiawn#Gen 4:8–10 hyd at waed Zechariah, mab Barachiah, yr hwn a lofruddiasoch rhwng y Cyssegr a'r Allor#2 Cr 24:20. 36Yn wir meddaf i chwi, yr holl bethau hyn a ddeuant ar y genedlaeth hon.
Y Farn ddylynol
[Luc 13:34, 35]
37O Jerusalem, Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y Proffwydi, ac yn llabyddio y rhai sydd wedi eu danfon atat, pa sawl gwaith yr ewyllysiwn gasglu dy blant yn nghyd, yr un modd ag y casgl iar ei chywion dan ei hadenydd, ac nid ewyllysiech chwi! 38Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn#23:38 Yn annghyfannedd א C D Δ Al. Ti. Tr. Diw.; Gad. B L La. WH. annghyfannedd: 39canys meddaf i chwi, ni'm gwelwch o hyn allan, hyd oni ddywedwch, Bendigedig yw Yr‐Hwn‐sydd-yn‐dyfod#23:39 Un o enwau y Messia. yn enw yr Arglwydd.
Селектирано:
Matthew 23: CTE
Нагласи
Сподели
Копирај
Дали сакаш да ги зачуваш Нагласувањата на сите твои уреди? Пријави се или најави се
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.