Лого на YouVersion
Икона за пребарување

Matthew 17

17
Gweddnewidiad neu drawsffurfiad Crist.
[Marc 9:2–10; Luc 9:28–36]
1Ac ar ol chwe' diwrnod y cymmerodd yr Iesu gyd ag ef Petr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac a'u dug hwy i fynydd uchel o'r neilldu. 2Ac efe a drawsffurfiwyd#17:2 A drawsffurfiwyd, yn hytrach nag “a ddullnewidiwyd.” Y mae ffurf (morphê) yn cyfranogi o sylwedd neu natur peth, ac felly yn wahanol i ddull (schema), yr hwn sydd allanol a chyfnewidiol: Dull y byd sydd yn myned heibio. Felly, nid cyfnewidiad yn ymddangosiad allanol ein Harglwydd a gymmerodd le; ond yr oedd y gogoniant allanol yn effaith y gogoniant mewnol a chynhenid — yn adlewyrchiad o'r natur Ddwyfol oedd ynddo. Yr oedd yna fwy nâ dysgleirdeb gwyneb a gwisg Iesu. Llewyrchai allan o hono belydrau ei Ddwyfoliaeth; ac yr oedd yr oll yn broffwydoliaeth o'i ddynoliaeth wedi ei gogoneddu. Gweddnewidiwyd Moses gan ogoniant allanol; yr Iesu gan ei ogoniant mewnol — “a drawsffurfiwyd.” Gwel ar Marc 9:2. ger eu bron hwy; a'i wyneb a ddysglaeriodd fel yr haul, a'i ddillad a aethant cyn wyned â'r goleuni. 3Ac wele, ymddangosodd iddynt Moses ac Elias, yn ymddyddan ag ef. 4A Phetr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, da yw i ni fod yma#17:4 Neu, “Da ydyw ein bod ni yma.” “Da i ti ein bod ni yma,” Meyer.: os ewyllysi, mi#17:4 Mi a wnaf א B C Brnd. ond Tr.; gwnawn D L Δ Tr. a wnaf yma dair pabell, un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias. 5A thra yr oedd efe yn llefaru, wele, cwmmwl goleu#17:5 Photeinos, yn llawn goleuni. a'u cysgododd hwynt; ac wele lef o'r cwmmwl yn dywedyd,
Hwn yw fy Anwyl Fab,
Yn yr hwn y'm boddlonwyd:
Gwrandewch arno ef.#Salm 2:7, 12; Es 42:1
6A phan glybu y Dysgyblion, hwy a syrthiasant ar eu gwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr. 7A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch. 8Ac wedi codi eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig.
Dyfodiad Ioan Fedyddiwr.
[Marc 9:10–13]
9Ac fel yr oeddynt yn dyfod i waered allan o'r#17:9 Allan [ek] o'r mynydd א B C D L Brnd.; o'r [apo] mynydd K. mynydd, yr Iesu a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb hyd oni chyfodir#17:9 Chyfodir B D Brnd.; adgyfodo א C Diw. Mab y Dyn oddiwrth y meirw. 10A'i Ddysgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham gan hyny, y mae yr Ysgrifenyddion yn dywedyd fod yn rhaid dyfod o Elias yn gyntaf? 11Ac efe#17:11 Felly B D Brnd.; A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt C. a atebodd ac a ddywedodd, Elias yn wir sydd yn dyfod#17:11 Yn gyntaf C Z Δ; Gad. א B D Brnd., ac a edfryd#17:11 Adferu i'w sefyllfa wreiddiol neu gyntefig [Malachi 4:5, 6] bob peth. 12Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi ddyfod o Elias eisoes, ac nid ydynt wedi ei adnabod, ond a wnaethant iddo#17:12 Llyth., ynddo ef, neu gyd ag ef. beth bynag a fynasant; felly y bydd hefyd i Fab y Dyn ddyoddef ganddynt. 13Yna y deallodd y Dysgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt.
Gwendid annghrediniaeth; Gwellhad y masglwyfus.
[Marc 9:14–29; Luc 9:37–42]
14Ac wedi eu dyfod at y dyrfa, daeth ato ddyn, ac a syrthiodd ar ei liniau iddo, 15ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarha wrth fy mab, canys masglwyfus#17:15 Groeg, selêniazetai, o selênê, y lleuad; felly, yn llythyrenol, “Y mae yn lloerig.” Yr oedd y bobl yn credu fod y lleuad yn dylanwadu ar y masglwyfus (epileptic) ac yn cynnyrchu yr haint. ydyw, ac y#17:15 Yn glaf א B L La. Tr. WH.; yn dyoddef [yn flin] C D Δ Ti. Al. Diw. mae yn glaf iawn, canys yn fynych y mae efe yn syrthio i'r tân, ac yn fynych i'r dwfr. 16Ac mi a'i dygais ef at dy Ddysgyblion di, ac ni allent hwy ei iachau ef. 17A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O genedlaeth anffyddiog a throfäus#17:17 Neu, gwrthnysig, llygredig, cyfeiliornus., pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y byddaf ymarhöus wrthych? dygwch ef yma ataf fi. 18A'r Iesu a'i ceryddodd ef, a'r cythraul a aeth allan o hono ef; a'r bachgen a iachawyd o'r awr hono. 19Yna y daeth y Dysgyblion at yr Iesu o'r neilldu#17:19 Neu, yn ddirgelaidd., ac y dywedasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan? 20Ac efe#17:20 Iesu C. Gad. א Brnd. a ddywed wrthynt, O herwydd eich ychydig#17:20 Ychydig ffydd [oligopistia] א B Brnd.; annghrediniaeth [apistia] C D L. ffydd; canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai genych ffydd megys gronyn o hâd mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symmud oddiyma draw, ac efe a symmudai: ac ni fydd dim yn anmhossibl i chwi. 21[Eithr#17:21 C D L La. [Tr.] Al.; Gad. א B Ti. WH. Diw. nid ä y rhywogaeth hon allan ond drwy weddi ac ympryd.]
Crist yn rhagddweyd yr ail waith ei farwolaeth.
[Marc 9:30–33; Luc 9:43–45]
22Ac fel yr oeddynt yn ymgasglu#17:22 Ymgasglu at eu gilydd [sustrephomenôn] א B Brnd.; yn ymdeithio [ana‐strephomenôn, yn ymsymmud i fyny a lawr] C D Diw. at eu gilydd#17:22 Ymgasglu at eu gilydd [sustrephomenôn] א B Brnd.; yn ymdeithio [ana‐strephomenôn, yn ymsymmud i fyny a lawr] C D Diw. yn Nghalilea, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y Dyn i gael ei draddodi i ddwylaw dynion; 23a hwy a'i lladdant ef, a'r trydydd dydd y cyfodir#17:23 Y cyfodir א C D Ti. Tr. WH. Al.; y cyfyd B La. ef. A hwy a aethant yn drist iawn.
Rhyddid plant y Deyrnas.
24Ac wedi dyfod o honynt i Capernäum, y rhai oedd yn derbyn yr hanner‐sicl a ddaethant at Petr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athraw chwi yn talu yr hanner‐sicl#17:24 Groeg, Didrachma, sef yr hanner sicl yr oedd pob Israeliad i dalu at wasanaeth y Deml; yr oedd yr ardreth hon i'w thalu yn arian cyntefig Israel, ac felly, yr oedd llawer o waith gan y cyfnewidwyr arian [gweler Exodus 30:12–16]? 25Yntau a ddywed, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i'r ty, yr Iesu a'i rhagflaenodd ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? Breninodd y ddaear, oddiwrth bwy y cymmerant drethi#17:25 Telos, nwydd‐dreth, treth ar feddiannau neu drafnidiaeth. neu deyrnged#17:25 Kênsos (Lladin, census), cofrestriad, yna treth yn ol y cofrestriad. Felly, yr oedd hon yn dreth ar bersonau neu unigolion.? oddiwrth eu meibion eu hunain ynte oddiwrth estroniaid#17:25 Hyny yw, deiliaid.? 26A phan#17:26 A phan ddywedodd efe א B C L Brnd.; Petr a ddywedodd wrtho C. ddywedodd efe, Oddiwrth estroniaid, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn sicr felly y mae y meibion yn rhyddion. 27Er hyny, rhag i ni achosi tramgwydd iddynt, dos i'r môr, a bwrw fach, a chymmer y pysgodyn a ddel i fyny yn gyntaf: ac wedi i ti agoryd ei safn, ti a gei sicl#17:27 Groeg, Statêr, yr hwn oedd gymmaint arall o werth â'r didrachmon, neu yr hanner‐sicl, ac felly yn ddigon i dalu am ddau., hwnw cymmer, a dyro iddynt drosof fi a thithau.

Селектирано:

Matthew 17: CTE

Нагласи

Сподели

Копирај

None

Дали сакаш да ги зачуваш Нагласувањата на сите твои уреди? Пријави се или најави се