Genesis 4
4
Cain yn lladd Abel
1Cysgodd Adda gyda’i wraig Efa, a dyma hi’n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Cain, ac meddai, “Dw i wedi cael plentyn, gyda help yr ARGLWYDD.” 2Wedyn cafodd blentyn arall, brawd i Cain, sef Abel.
Tyfodd Abel i fod yn fugail, ond roedd Cain yn trin y tir. 3Adeg y cynhaeaf daeth Cain â pheth o gynnyrch y tir i’w roi yn offrwm i’r ARGLWYDD. 4Daeth Abel â rhai o ŵyn cyntaf y praidd, a rhoi’r rhai gorau yn offrwm i Dduw. Roedd Abel a’i offrwm yn plesio’r ARGLWYDD, 5ond wnaeth e ddim cymryd sylw o Cain a’i offrwm e. Roedd Cain wedi gwylltio’n lân. Roedd i’w weld ar ei wyneb! 6Dyma’r ARGLWYDD yn gofyn i Cain, “Ydy’n iawn i ti wylltio fel yma? Pam wyt ti mor ddig? 7Os gwnei di beth sy’n iawn bydd pethau’n gwella. Ond os na wnei di beth sy’n iawn, mae pechod fel anifail yn llechu wrth y drws. Mae am dy gael di, ond rhaid i ti ei reoli.”
8Dwedodd Cain wrth ei frawd, “Gad i ni fynd allan i gefn gwlad.”#4:8 Yn ôl y Fersiynau. Hebraeg heb “Gad … gwlad.”. Yna pan oedden nhw allan yng nghefn gwlad dyma Cain yn ymosod ar ei frawd Abel a’i ladd. 9Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Cain, “Ble mae Abel, dy frawd di?” Atebodd Cain, “Dw i ddim yn gwybod. Ai fi sydd i fod i ofalu am fy mrawd?” 10A dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Beth yn y byd wyt ti wedi’i wneud? Gwranda! Mae gwaed dy frawd yn gweiddi arna i o’r pridd. 11Melltith arnat ti. Rhaid i ti adael y tir yma lyncodd waed dy frawd pan wnest ti ei ladd. 12Byddi’n ceisio trin y tir ond yn methu cael cnwd da ohono. Byddi’n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad.”
13Ac meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, “Mae’r gosb yn ormod i mi ei chymryd! 14Ti wedi fy ngyrru i ffwrdd o’r tir, a bydda i wedi fy nhorri i ffwrdd oddi wrthot ti. Bydda i’n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad, a bydd pwy bynnag sy’n dod o hyd i mi yn fy lladd.”
15Ond dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Na. Bydd pwy bynnag sy’n lladd Cain yn cael ei gosbi saith gwaith drosodd.” A dyma’r ARGLWYDD yn marcio Cain i ddangos iddo na fyddai’n cael ei ladd gan bwy bynnag fyddai’n dod o hyd iddo. 16Felly aeth Cain i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD a mynd i fyw i wlad Nod#4:16 Nod Enw Hebraeg sy’n golygu ‘crwydro’. i’r dwyrain o Eden.
Disgynyddion Cain
17Cysgodd Cain gyda’i wraig, a dyma hi’n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Enoch. Roedd Cain yn adeiladu pentref gyda wal i’w amddiffyn, a galwodd y pentref yn ‘Enoch’ ar ôl ei fab. 18Roedd Enoch yn dad i Irad, Irad yn dad i Mechwiael, Mechwiael yn dad i Methwshael, a Methwshael yn dad i Lamech.
19Dyma Lamech yn cymryd dwy wraig iddo’i hun – Ada oedd enw un a Sila oedd y llall. 20Cafodd Ada blentyn, sef Iabal. Iabal oedd y cyntaf i fyw mewn pebyll a chadw anifeiliaid. 21Roedd ganddo frawd o’r enw Iwbal. Iwbal oedd y cyntaf i ganu’r delyn a’r ffliwt. 22Dyma Sila, y wraig arall, yn cael plentyn hefyd, sef Twbal-cain. Fe oedd y cyntaf i weithio gyda metelau, a gwneud offer pres a haearn. Roedd gan Twbal-cain chwaer o’r enw Naamâ.
23Dyma Lamech yn dweud wrth ei wragedd:
“Ada a Sila, gwrandwch arna i!
Wragedd Lamech, sylwch beth dw i’n ddweud:
Byddwn i’n lladd dyn am fy anafu i,
neu blentyn am fy nharo i.
24Os bydd y dial am Cain saith gwaith gwaeth,
bydd y dial am Lamech saith deg saith gwaith!”
25Cysgodd Adda gyda’i wraig eto, a chafodd hi fab arall. Galwodd hwn yn Seth, “am fod Duw wedi rhoi #4:25 Mae’r gair Hebraeg am ‘rhoi’ yn debyg i’r enw Seth. plentyn i mi yn lle Abel, ar ôl i Cain ei ladd.”
26Cafodd Seth fab, a’i alw yn Enosh. Dyna pryd y dechreuodd pobl addoli’r ARGLWYDD.
Voafantina amin'izao fotoana izao:
Genesis 4: bnet
Asongadina
Hizara
Dika mitovy
Tianao hovoatahiry amin'ireo fitaovana ampiasainao rehetra ve ireo nasongadina? Hisoratra na Hiditra
© Cymdeithas y Beibl 2023