Ioan 7
7
Iesu'n mynd i Gwrdde Mowr i Tents
1-13Wedi'r pethe hyn âth Iesu o fan i fan in Galilea. Wedd e'n mynd mas o'i ffordd i beido mynd miwn i Jwdea achos bo'r Iddewon in treial i ladd e. We Gwyl ir Iddewon, Gwyl i Tents, ina agos. So wedodd i frodyr wrtho fe, 'Dere o fan 'yn a cer i Jwdea, fel bo di ddisgiblion di in galler gweld i gwaith mowr wit ti'n neud. Sneb in neud pethe heb weuth neb arall, os yw nhwy am i bobol eriill wbod amdanyn nhwy. So gadwch i'r byd i gyd wbod beth ych chi'n i neud! Weno brodyr Iesu i unan hyd 'n ôd in i ddilyn e 'to.
Atebo Iesu, 'Seno'n amser i wedi dod 'to, ond ma di amser di wastad 'ma. Gall pobol i byd hwn ddim di gasáu di. Man nhwy in in gasáu i, achos bo fi'n gweu 'thyn nhwy bo nhwy'n neud pethe drwg. Cerwch i'r wyl. Seno'n amser i wedi dod 'to, a wedyn sena i'n mynd.” Gwedodd Iesu hyn a aros lle wedd e in Galilea.
Wedi i frodyr Iesu fynd i'r wyl, âth e, ond heb weud wrth neb. In istod ir wyl we'r bobol fowr in whilio am Iesu a'n gofyn, “Ble'n i byd mae e?” Âth rhei o'r crowde bledo â'i gily amdano fe. We rhei'n gweud, “Mae Iesu in ddyn da,” on we dinion erill in gweud, 'Mae e'n gweud celwy wrth bobun.” Ond we ofon ar bobol weud wrth i dinion mowr, so wedo neb ddim amdano fe o flân dinion dierth.
Iesu'n disgu in i Cwrdde Mowr
14-24We hanner ir ŵyl wedi mynd heibo, a âth Iesu miwn i'r demel a dachre disgu. Gas i dinion mowr dipyn o sindod a gweud, “Shwt ma'r dyn 'ma in gwbod shwt gwmint? Seno fe wedi câl i ddisgu 'da neb!”
Atebo Iesu: “Sena i'n disgu rhwbeth wi wedi'i neud lan in unan. Dwi'n disgu rhwbeth sy'n dwâd wrth i'r un nâth in hala i. Os ych chi am neud beth ma Duw am ichi neud, wedyn cewch chi wbod os yw beth wi'n i ddisgu in dod wrth Dduw neu wrtha i in unan. Os ar in gownt in unan wen i moyn parch, sharaden i dros in unan. Ond wi am roi parch i'r un sy wedi'n hala i. 'Na pam wi'n gweud y gwir a ddim in gweud celwy. Moses roiodd i Gifreth i chi, ondife? Ond sdim un wan jac ono chi in grondo arni! So pam ych chi am in ladd i?”
Atebo'r crowd, “Wit ti off di ben! Beth sy'n neud iti feddwl bo rhiwun am di ladd di?”
Atebo Iesu: “Nes i neud un peth sbeshal, a fe gethoch chi gyd sindod. Nâth Moses roi gorchimyn ichi enwaedu ich meibion. Ond i weud i gwir ddim Moses nâth roi'r gorchimyn 'ma ichi. Ich cyn-dade nâth, a hyd 'n ôd ar ddy Sabbath ŷch chi'n enwaedu ich meibion fel bo chi'n neud fel ma Cifreth Moses in i weud. Pam ŷch chi'n grac 'da fi wedyn am neud rhiwun in gwbwl iach ar ddy Sabbath? Peidwch barnu wrth shwt ma pethe'n drych i chi. Barnwch chi wrth beth sy'n iawn.
Iesu yw'r Meseia?
25-44We rhei o'r dinion o Jerwsalem in gweud. 'Hwn yw'r dyn man nhwy moyn i ladd e, ondife? Ond fan 'yn mae e'n sharad in agored i bob un i gliwed e. A sneb in pledo 'dag e o gwbwl. Ŷch chi'n meddwl bo nhwy'n gwbod taw fe yw'r Meseia? Ond shwt galle 'na fod? Sneb in gwbod o ble bydd i Meseia in dod, a ŷn ni'n gwbod o ble ma'r dyn hwn in dod.”
Fel we Iesu in disgu in i demel, fe weiddodd e. “Ŷch chi'n meddwl ich bo chi'n in nabod i a'n gwbod o ble dwi'n dwâd? Ddes i ddim ar in ben in unan! Ma'r un nâth in hala i in gweud i gwir, ond senoch chi'n nabod e. Ond dwi'n gwbod pwy yw'r un nâth in hala i, achos wi'n dod wrtho fe.”
We rhei dinion am aresto Iesu in i fan a'r lle. Ond nâth ddim un roi llawr arno fe, achos wedd i maser e ddim weid dod 'to.
Rhoiodd lot o bobol o'r crowde u ffydd indo fe a gweud, “Pan ddeu 'th i Meseia, fydd ei ddim in neud mwy o wyrthie 'na ma hwn in i neud!”
Cliwo'r Phariseied i crowd in clebran i pethe 'ma amdano fe 'da'i gily. A wedyn halo'r ffeiradon mowr a'r Phariseied polisis i demel i fynd a'i aresto fe.
Gwedo Iesu, “Bidda i 'da chi am sbel fach 'to, a wedyn bidda i'n mynd nôl at ir un nâth in hala i. Biddwch chi'n whilio amdana i, ond gewch chi ddim ona i. Allwch chi ddim dwâd i ble dwi'n mynd.
Gwedo'r Iddewon wrth i gily, “Ble ma'r dyn ma'n golgu mynd? Ody e'n meddwl gewn ni ddim gafel arno fe? Eith e i ble ma'n pobol ni'n byw in ganol i Groegied? Eith e fan 'ny i i ddisgu'r Groegied? Beth wedd e'n i feddwl pan wedodd e, 'Byddwch chi'n whilio amdana i, ond gewch chi ddim gafel arna i'? a, 'Allwch chi ddim dwâd i ble dwi'n mynd'?”
Nawr 'te, dwarnod diwetha a pwysica'r Ŵyl wedd i. Safo Iesu lan a gweiddi â llaish uchel, “Os wes siched arnoch chi dewch ata i a hifed. Wes rhiwun onoch chi in credu inda i? Wel wedyn 'te, in gowir fel ma'r Isgrithur in gweud, bydd ffinhone o ddŵr glân byw in llifo mas o'r un sy'n credu.” We Iesu in sharad obitu'r Isbryd Glân byse'n câl i roi i bob un we'n credu indo fe. Amser 'ny we'r Isbryd Glân ddim wedi câl i roi i neb, achos we Iesu ddim wedi câl i ogoniant bryd 'ny.”
Pan gliwon nhwy i eire fe, gwedo rhei dinion, “Ma'n rhaid taw hwn yw'r Proffwd rŷn ni wedi bod in dishgwyl amdano.”
We dinion erill in gweud, “Fe yw'r Meseia.”
Gofino rhei erill, “Shwt all i Meseia ddwâd o Galilea? Seno'r Isgrithur in gweud taw o dilwith Dafydd bydd e'n dwâd? Senyn nhwy'n gweud taw o Bethlehem, i dre lle we Dafydd in byw, fydd e'n dwâd?”
So we dinion ddim in cyd-weld obitu pwy we Iesu. We rhei ishe i aresto fe. Ond nâth neb roi bys arno.
Dinion mowr ir Iddewon ddim in credu
45-53Wedyn dâth polisys i demel at y ffeiradon mowr a'r Ffariseied, a wedodd wrthyn nhwy, “Pam senoch chi wedi dwâd ag e?” Atebo'r polisys, “'Sneb ariôd wedi dharad fel nâth hwn.” Atebo'r Ffariseied, “Ŷch chi wedi câl ich twyllo? Wes unrhiw un o'n dinion mowr ni neu unrhiw un o'r Ffariseied wedi credu indo fe? Ond ma'r crowd 'ma, sy ddim in gwbod dim byd o gwbwl obitu'r Gifreth, wedi cael i chondemno.” Gwedo Nicodemus, we wedi dwâd at Iesu o'r blân a wen un onyn nhwy, “Ody'n Cifreth ni in barnu dyn cyn grondo ar beth sy dag e weud a ffindo mas beth mae e'n neud?” Atebon nhwy, “A wit ti 'fyd in dwâd o Galilea? Whiliwch trw'r Isgruthure a gwelwch chi sdim proffwd in dod o Galilea.”
Šiuo metu pasirinkta:
Ioan 7: DAFIS
Paryškinti
Dalintis
Kopijuoti
Norite, kad paryškinimai būtų įrašyti visuose jūsų įrenginiuose? Prisijunkite arba registruokitės
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies