Ioan 6

6
Iesu'n bwydo pum mil o ddinion
1-15Wedy hyn âth Iesu bant dros Môr Galilea, neu Llyn Tiberias; we crowde mowr in i ddilyn e, achos wen nhwy'n gweld i seins wedd e'n u neud wrth wella dinion we ddim in iawn. Âth Iesu lan mini a ishte fan 'ny 'da i ddisgiblion. We'r Pasg, Gwyl ir Iddewon, in dod o fon hir. Pan ddrichodd Iesu lan a gweld crowd mowr in dwâd ato fe, gwedodd e wrth Philip, 'Ble allwn ni bernu bara i rhein gâl bita?' Gwedodd e 'na i brofi fe; achos wedd e i unan in gwbod in barod beth wedd e'n mynd i neu. Atebo Philip e, 'Byse gwerth dou gant o bune o arian dim ond in ddigon o bob sun gal crwstyn.’ Gweddodd un o'i ddisgiblion, Andreas, brawd Simon Pedr, wrtho, 'Ma crwt bach fan 'yn gida pum cwgen farlish a dau bisgodyn; one ewn nhwy ddim in bell iawn i shwt gwmint!' Gwedo Iesu, 'Halwch i bob un i ishte lawr.’ We lot o borfa in i lle 'ny. So ishteddodd i dinion lawr; we rhiw bum mil onyn nhwy i gyd. Wedyn cwmrodd Iesu'r cwgeni bach we 'da'r crwt, a wedi diolch i Dduw fe ranodd e nhwy rhynt i dinion fel wen nhwy'n ishte, a nâth e'r un peth 'da'r pisgod 'fyd. Gâs bob un gwmint a wen nhwy moyn. Pan we pob un wedi câl digon gwedodd e wrth i ddisgiblon, 'Casglwch y crwste sy dros ben, fel bo ddim byd in câl i golli.’ Wedi casglu ffeindod nhw bo douddeg basgeded o fara dros ben 'da nhwy o'r pum cwgen farlish we 'da nhwy i fita in i lle cinta. Gwedo'r dinion welodd e'n neud hyn, 'Sdim dowt taw hwn yw'r Proffwd sy'n dod miwn i'r byd.’ Ond we Iesu in gwbod bo nhwy'n golgu dod a mynd ag ei i neud e'n frenin, so âth e bant i ben i mini ar ben i unan.
Iesu'n cered ar i dŵr
16-21Wrth iddi ddachre tewillu dâth i ddisgiblion lawr i lan i llyn. Ethon nhwy miwn i gwch a croeshi i Capernaum. Wedd i'n dewill in barod, ond we Iesu ddim wedi dwâd atyn nhwy 'to; a we'r dwr in dachre mynd in rwff, achos we gwynt cryf in hwthu. Ar ôl iddyn nhw rwyfo 'mlân ryw dair peder milltir welon nwy Iesu in cered ar i dwr a'n dod at i cwch; a we ofon arnyn nhwy. Gwedodd e wrthyn nhwy, 'Fi yw e; peidwch câl ofon.’ Wen nhwy ishe i gwmrid e miwn i'r cwch, ond tima'r cwch in dod i'r lan lle wen nhwy ishe mynd.
22-24Tranoth silwo'r crowd we wedi aros ar ir ochor arall i'r llyn taw dim ond un cwch we wedi bod 'na, a bod Iesu heb fynd in i'r cwch gyda'i ddisgiblion, ond bod i ddisgiblion wedi mynd bant. We cichod erill o Tiberias wedi dod in agos i'r llew wen nhwy wedi bita'r bara wedi i'r Arglwidd roi jolch. So, pan welo'r crowde bod ddim Iesu na'i ddisgiblion fan 'ny, ethon nhwy u hunen miwn i'r cichod a dwâd i Capernaum, in whilio am Iesu.
Iesu yw Bara'r Bowid
25-33Pan ffeindon nhwy e ar ochor arall i llyn, gwedon nhwy wrtho fe, 'Rabbi, pryd ddes ti 'ma?' Atebo Iesu nhwy, 'Dwi'n gweud i gwir in blaen wrthoch chi nawr, ych chi'n whilio amdana i, ddim achos ich bo chi wedi gweld i pethe dwi wedi neud, ond achos bo chi wedi bita llond ich bolie o'r cwge. Peidwch gweithio am fwyd sy'n pwdru; gweithwch am fwyd sy'n para a sy'n dod â bowid am byth, i bwyd bydd Crwt i Dyn in rhoi ichi; achos iddo fe ma Duw i Tad wedi rhoi comands.’ Gwedon nhwy wrtho, 'Beth yn ni fod i neud, fel bo ni'n neud gwaith Duw?' Atebo Iesu nhwy, 'Co beth yw gwaith Duw, credu in ir un mae e wedi'i hala.’ So wedon nhwy wrtho fe, 'Beth wit ti'n i neud 'te, fel gallwn ni weld a credu indo ti?' Beth wit ti'n neud? Bitodd in tade ni fanna in i lle diffeth, jwst fel gâs i i reito, “Rhoiodd e fara o'r nefodd iddon nhwy i fita.”' Gwedo Iesu wrthon nhwy, 'Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi: ddim bod Moses wedi rhoi bara o'r nefodd i chi' ond ma'n Dad i in rhoi i bara iawn o'r nefodd. Achos bara Duw yw'r un sy'n dod lawr o'r nefodd a sy'n rhoi bowid i'r byd.’
34-40Gwedon nhwy wrtho, 'Mishtir, rho'r bara 'ma i ni trw'r amser.’ Gwedo Iesu wrthon nhwy, 'Fi yw bara'r bowid; bydd neb sy'n dod ata i in llwgu 'to, a bydd neb sy'n credu inda i in sichedu 'to. Ond wedes i 'na wrthoch chi, sach bo chi wedi'ng ngweld i, ond wedyn weth senoch chi'n credu. Bydd pob un ma'r Tad wedi'u rhoi i fi in dwâd ata i, a fydda i byth in troi bant unriw un sy'n dod ata i, achos sena i wedi dod lawr o'r nefodd i neud fel dwi moyn, ond i neud beth mae'r un nâth in hala i moyn ifi neud. A 'co beth ma'r un nâth in hala i moyn, bo fi ddim in colli hyd 'n ôd un o'r rhei mae e wedi rhoi i fi, ond bo fi'n u codi nhwy lan ar i Dwarnod Diwetha. Achos 'co beth ma'n Dad i moyn, fod pob un sy'n gweld y Mab ac in credu indo fe in câl bowid am byth; a bydda i'n codi fe lan ar i Dwarnod diwetha.’
41-51Nawr we'r Iddewon in clebran amdano fe achos i fod e wedi gweud, 'Fi yw'r bara sy wedi dishgyn o'r nefodd.” Gwedon nhwy, 'Nage Iesu yw hwn, mab Joseff — senon ni'n nabod i dad a'i fam? Shwt mae e'n gweud nawr, 'Dwi wedi dishgyn o'r nefodd”?' Atebo Iesu nhwy, 'Peidwch clebran rhynt ich gily. Sneb in galler dod ata i os nad yw'r Tad nâth in hala i in u tinnu nhwy ata i; a bidda i'n godi fe lan ar i Dwarod dwetha. Mae e wedi câl i reito in i Proffwydi, “A bydd Duw in i disgu nhwy i gyd.” Ma pob un sy wedi cliwed i Tad a wedi disgu 'dag e in dod ata i. Sena i'n gweud bo neb wedi gweld i Tad. Ond wi'n gweud i gwir wrthoch chi nawr, ma unrhiw un sy credu inda i â bowid am byth gidag e. Fi yw bara''r bowid. Bitodd ich tade chi i manna mas in i lle diffeth, ond marwon nhwy. 'Co'r bara sy'n dod i lawr o'r nefodd, gallwch chi fita hwn a peido mawr. Fi yw'r bara byw sy'n dod lawr o'r nefodd. Os bydd unrhiw un in bita'r bara hwn bydd e'n byw am byth; a'r bara sda fi i chi yw in gnawd i; dwi'n ei roi e dros fowid y byd.’
52-59We'r Iddewon in pledo 'da'i gily, 'Shwt gall i boi 'ma roi'i gnawd i ni i fita?' Gwedo Iesu wrthon nhwy. 'Dwi'n gweud y gwir wrthoch chi nawr, os na newch chi fita cnaw Mab i Crwt ac ifed i wâd e, sdim bowid indoch chi o gwbwl. Ma bowid am byth gida pwy binnag sy'n bita in gnawd i a'n hifed in wâd i, a bidda i'n u codi nhwy lan ar i Dwarnod dwetha. Achos ma'n gnawd i in fwyd iawn, a ma'n wâd i'n beth i ifed iawn. Ma pwy binnag sy'n bita in gnawd i a'n hifed in wâd i in aros inda i a dwi'n arnos indyn nhwy. I Tad byw nâth in hala i, a wi'n byw achos i Tad, so ma unrhywun sy'n in fita i in byw o'n achos i. Co'r bara ddâth i lawr o'r nefodd; seno fe'n debyg i'r bara bitodd in tade ni, achos stopodd ddim mo'r bara 'na nhwy i farw; ma pwy binnag sy'n bita'r bara 'ma in mynd i fyw am byth.’ Gwedodd e'r pethe 'ma pan wedd e'n disgu in sinagog Capernaum.
Lot o ddisgiblion in gadel Iesu
60-65Pan gliwo lot o'i ddisgiblion e'n gweud hyn, mynte nhwy, 'Ma 'na beth caled i'w weud. Pwy sy'n galler grondo ar hyn?' We Iesu in gwbod indo'i unan bo'i ddisgiblion e'n sharad fel 'yn, a gwedodd e wrthyn nhwy, 'Odych chi'n sinnu at beth dwi'n gweud? Beth wedyn 'te os byse Crwt i Dyn in mynd lan i ble wedd e o'r blân? Ir isbryd sy'n rhoi bowid; seno'r cnawd in lot o help. Mae'r geire wi wedi gweu 'tho chi in isbryd ac in fowid. Ond wedyn weth ma rhei 'noch chi sydd ddim in folo credu.’ Achos we Iesu in gwbod o'r start pwy we'r rhei wenyn nhwy'n mynd i gredu, a phwy we'r rhei fyse'n i roi e bant. A gwedodd e, 'Co pam wedes i wrtho chi bo neb in galler dod ata i os na we'r Tad wedi'u rhoi nhwy i fi in i dachre.’
66-71O'r amser 'ma troiodd lot o'i ddisgiblion e rownd a mynd a'i adel e. Wedyn wedodd Iesu wrth i Douddeg, 'Odych chi ishe mynd a'ng ngadel i 'fyd?' Atebo Simon Pedr e, 'Mishtir, at bwy gallwn ni fynd? 'Da ti ma geirie sy'n dod â bowid am byth; yn ni wedi dod i gredu a gwbod taw ti yw un Sbeshal Duw.’ Atebo Iesu nhwy, 'Fi nâth ich dewish chi, i Douddeg, ondife? Ond ma un o chi'n ddiawl.’ Wedd e'n sharad am Jwdas, mab Simon Iscariot; achos wedd e, sach bo fe'n un o'r Douddeg, in mynd i roi ei bant.

Šiuo metu pasirinkta:

Ioan 6: DAFIS

Paryškinti

Dalintis

Kopijuoti

None

Norite, kad paryškinimai būtų įrašyti visuose jūsų įrenginiuose? Prisijunkite arba registruokitės