Salmau 2
2
SALM II.
9.8.
1Pa ham y terfysga’r cenhedloedd,
Llywiawdwyr a barnwyr y byd?
Pa ham y myfyria y bobloedd
Oferedd a gwagedd o hyd?
2Ymgasglant ynghyd yn dyrfaoedd,
I lunio gwrthryfel a brâd,
A chydymosodant ar gyhoedd
Yn erbyn Eneiniog y Tad.
3Gan ddyweyd, ‘Ni a ddrylliwn eu rhwymau,
Ni fynwn na’u deddfau na’u dawn;
A thaflwn i ffwrdd eu rheffynau,
Ein hamcan ein hunain a wnawn.’
4Yr hwn sy’n preswylio’n y nefoedd
A’u gwatwar — fe chwardd am eu pen:
Ei enw yw Arglwydd y lluoedd,
Fe’u disgyn i’r llwch dan y llen.
5Llefara ef wrthynt mewn soriant,
Cânt deimlo’i awdurdod a’i rym,
A chan ei lidiowgrwydd dychrynant,
Fel cŵyr yr ymdoddant i’r dim:
6Fy Mrenin osodais ar Seion,
Fy Mynydd sancteiddiol, medd Duw,
Teyrnasa, gorchfyga’i gaseion,
Darfyddant — ni byddant hwy byw.
7Mynegaf y ddeddf, medd Messiah,
Iehofah a dd’wedodd fel hyn,
Cenhedlais di heddyw — teyrnasa
Ar orsedd dragwyddol ddigryn:
8Gofyn i mi, ac mi roddaf
I’th feddiant genhedloedd y byd,
Terfynau y ddaear gyflwynaf
I ti’n etifeddiaeth i gyd.
9A gwialen haiarnaidd y drylli
D’elynion yn lluoedd i’r llawr,
Ac fel llestr pridd y maluri
Hwy’n gandryll, yn fach ac yn fawr;
10Gan hyny, yr awrhon, frenhinoedd,
O! byddwch synwyrol mewn pryd,
Benaethiaid, a barnwyr y bobloedd,
Cyd‐ddysgwch ddoethineb i gyd.
11Mewn ofn gwasanaethwch Dduw Iago,
Mewn dychryn o’i flaen llawenhewch,
Cusenwch y Mab, rhag ei ddigio,
Ac ar ei leferydd, gwrandewch;
12Os cynneu ei lid ond ychydig,
O’r ffordd fe’ch dyfetha i gyd,
Ond hwnw fydd byth wynfydedig
A rydd arno’i hyder o hyd.
Nodiadau.
Cyfansoddwyd y salm hon, dybygid, ar yr achlysur pan gymmerwyd amddiffynfa Seion oddi ar yr Iebusiaid, ac y sefydlodd Dafydd lys ei frenhiniaeth yno. Salm Fessïanaidd drwyddi ydyw. Lleferir ynddi am y Messiah yn ei osodiad yn ei swydd fel Brenin ar Seion (yr eglwys) ei fynydd sanctaidd gan y Tad — y gwrthwynebiadau cryfion a wna brenhinoedd ac awdurdodau y byd hwn i sefydliad ei deyrnas ysbrydol ef ar y ddaear, a’r aflwydd a’r dinystr a dynent arnynt eu hunain drwy hyny. Sicrheir y byddai i’w deyrnas ef ffynu a llwyddo yn gyffredinol yn mysg yr holl genhedloedd, er gwaethaf pob gwrthwynebiad. Cynghora Iehofah, yr hwn a osododd y Brenin ar Seion, y brenhinoedd a’r awdurdodau gwrthwynebus i ddysgu y ddoethineb o ymostwng i awdurdod Brenin Seion, a thrwy hyny ragflaenu y dinystr bygythiedig arnynt.
Y mae y salm mewn rhan yn gymmhwysiadol i Dafydd, a’i frenhiniaeth dymmhorol ef, yr hon oedd yn gysgod o frenhiniaeth ysbrydol y Messiah, o’i hâd ef. Ond y mae ynddi fwy o lawer o’r gwrthgysgod nag sydd o’r cysgod — ymadroddion nad ydynt yn briodol i Dafydd a’i deyrnas ef, ond yn arbenig felly i Grist a’i deyrnas.
Cymmhwysa yr eglwys yn ei gweddi yn Act. ii. 23, ymadroddion y salm hon at amgylchiadau marwolaeth Crist, a sefydliad ei deyrnas efengylaidd yn y byd, drwy bregethiad yr apostolion, a gweinidogaeth yr Ysbryd ar ddydd y Pentecost. O hyny hyd yn awr, y mae yr ail salm wedi bod yn gordial cysur, ac yn atteg i ffydd yr eglwys, yn sicrwydd o fuddugoliaeth a llwyddiant cyffredinol teyrnas Crist yn y diwedd, er pob gwrthwynebiad.
Tŵr Dafydd gan y Parch. William Rees (Gwilym Hiraethog). Cyhoeddwyd gan Thomas Gee, Dinbych 1875. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.