Mica 5
5
PENNOD V.
1Yn awr ymfyddina ferch y fyddin,#5:1 Geilw Babilon yn “ferch y fyddin,” gan ei bod yn rhyfelgar. Gwahodd hi i ddyfod i Ierusalem, a noda y dirmyg a gai y brenin. Yna try yn union at frenin a llywodraethwr arall ag oedd i ddyfod, er rhoddi gobaith i Israel tan eu gofid. Crist yn ddiau yn fwyaf a feddylir; eto, fel cysgod o hono, Ierubabel, yr hwn oedd o lwyth Iowda.
Gosod gynllwyn yn ein herbyn:
A gwialen y tarawant ar y gern farnwr Israel.
2Ond ti Fethlehem Ephrata,
Bychan i fod ymhlith miloedd Iowda,
O honot y daw un allan i mi,
I fod yn llywodraethwr yn Israel;
A’i fynediad allan sydd er y cynfyd,#5:2 Neu, “A’i fynediadau allan ynt er y cynfyd.” Y cyfeiriad sydd at yr addewidion a wnaed o hono o’r dechreuad. Cafwyd y geiriau, “er dyddiau tragywyddoldeb,” o’r Vulgate. Gwel yr un geiriau yn Mica 7:14, ac a gyfieithir “dyddiau gynt.” Gwel hefyd Esay 63:9, 11.
Er dyddiau yr oesoedd.
3Am hyny rhydd hwynt i fyny,
Hyd y pryd yr esgoro yr hon sydd i esgor,
Ac y dychwelo gweddill ei frodyr at feibion Israel.
4Yna saif a phortha, yn nerth Iehofa,
Yn mawrhydi enw Iehofa ei Dduw;#5:4 Yn ol y drefn a ganfyddir yn aml, yr ystyr yw, “Saif yn mawrhydi,” &c., a “phortha yn nerth,” &c., neu “bugeilia yn nerth,” &c.
A dychwelant, canys y pryd hyn mawr a fydd
Hyd eithafoedd y ddaear;
Ac efe a fydd yn heddwch.
5Yr Assyriad, pan ddelo i’n gwlad,#5:5 Byddai hyn yn ol y dychweliad o Babilon. Er bod y brophwydoliaeth ragflaenol yn cyfeirio yn benaf at Grist, eto yn cynnwys addewid o adferiad o gaethiwed Babilon. Ac yma, ac hyd at ddiwedd y bennod, yr hyn a ddygwyddodd ar ol yr adferiad hwnw a ddynodir yn fuan neillduol.
A phan sango yn ein palasau,
Yna cyfodwn yn ei erbyn saith bugail,
Ac wyth ddyn eneiniog;#5:5 Felly y gelwid tywysogion, “dugiaid Sehon,” yn Jos. 13:21, ydynt yn llythyrenol “eneinogion Sehon.” Nid yw “saith” nac “wyth,” i’w cymeryd yn llythyrenol, ond dynodant nifer digonol.
6A difrodant wlad yr Assyriad â’r cleddyf,
A gwlad Nimrod yn ei chyffiniau:#5:6 Yn llythyrenol, “agoriadau,” neu fynediadau i mewn.
Ië, gwaredir ni rhag yr Assyriad,
Pan ddelo i’n gwlad,
A phan sango yn ein terfyn.
7A bydd gweddill Iacob ymhlith pobloedd lawer
Megys gwlith oddiwrth Iehofa,
Megys mân wlaw ar laswellt;
Yr hwn nid erys wrth ddyn,
Ac ni ddysgwyl wrth feibion dynion.#5:7 Mae hyn yn dangos y byddent yno, nid trwy drefn neu ddarbodaeth dyn, ond trwy drefn a rhagluniaeth Duw. Nid yw’r gwlith na’r gwlaw yn ymddibynu dim ar ddyn.
8Bydd hefyd weddill Iacob ymhlith cenedloedd,
Yn nghanol pobloedd lawer,
Fel llew yn mysg bwystfilod y goedwig,
Ac fel cenaw llew ymhlith diadellau defaid;
Yr hwn, os ä trwodd, a sathra ac a larpia,#5:8 Y peth a arwyddir yw, y byddai yr Iuddewon yn meddu cymaint o allu a chymeradwyaeth fel y byddai eu hofn ar y cenedloedd y byddent yn byw yn eu plith.
Heb neb i fod yn waredydd.
9Dyrchefir dy law ar dy orthrymwyr,
A’th holl elynion a dorir ymaith.
10A bydd yn y dydd hwnw,#5:10 Cyfeiria hyn yn neillduol ac yn llythyrenol at yr Iuddewon, pan eu halltudiwyd i Babilon, yr amser a ddynodir yn nechreu y bennod. Nid oedd y pethau a enwir yma yn eu plith wedi eu dychweliad. medd Iehofa,
Y toraf ymaith dy feirch o’th ganol di,
Ac y dinystriaf dy gerbydau;#5:10 “Meirch” a “cherbydau” rhyfel: yn y rhai hyn yr oedd eu hyder, ac nid yn yr Arglwydd.
11Toraf i lawr hefyd ddinasoedd dy wlad,#5:11 Yr oedd y rhai hyn wedi eu hamgylchu a muriau, er diogelwch. Nid Duw a wnaent yn amddiffynfa; ond moddion dynol, yn groes i orchymyn Duw.
A dadymchwelaf dy holl gaerau;
12Ië, toraf ymaith swynion o’th derfyn,#5:12 Felly yr arwydda’r gair. Gwel Esec. 48:1.
A dewiniaid ni fyddant i ti;
13A thoraf ymaith dy gerf-ddelwau
A’th golofnau#5:13 Felly ei cyfieithir yn Deut. 12:3. Gwel 2 Bren. 10:26, 27. o’th ganol di,
Fel nad ymgrymot mwy i waith dy ddwylaw;
14Diwreiddiaf hefyd dy lwyni o’th ganol,
A dyfethaf dy addurniadau:#5:14 Gan yr enwid “dinasoedd” o’r blaen (adn. 11) nid tebyg eu henwi eto yma, yn enwedig mewn cysylltiad â “llwyni.” Cyfieithir y gair gan rai, “gelynion,” ond nid yn addas yma gyda “llwyni.” Rhydd un copi air arall, a gynnwys un lythyren wahanol, d yn lle r, dwy lythyren debyg iawn i’w gilydd yn yr Hebraeg; ac ystyr y gair hwn yw “addurniadau,” pethau perthynol naill i ddelwau ac allorau y llwyni, neu i wisgoedd yr addolwyr. Gwel Esec. 16:16.
A gwnaf mewn dig ac mewn digllonedd,
Ymddial ar y cenedloedd,
Y rhai ni wrandawsant.#5:14 Sef, ar y bygythiadau o ran eu creulondeb tuag at blant Israel.
ទើបបានជ្រើសរើសហើយ៖
Mica 5: CJO
គំនូសចំណាំ
ចែករំលែក
ចម្លង
ចង់ឱ្យគំនូសពណ៌ដែលបានរក្សាទុករបស់អ្នក មាននៅលើគ្រប់ឧបករណ៍ទាំងអស់មែនទេ? ចុះឈ្មោះប្រើ ឬចុះឈ្មោះចូល
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.