Mica 6
6
PENNOD VI.
1Clywch, attolwg, yr hyn a ddywed Iehofa:
Cyfod, dadleu ger bron y mynyddoedd,
A chlywed y bryniau dy lais:
2Clywch, fynyddoedd, ddadl Iehofa,
A chedyrn sylfeini y ddaear;#6:2 Felly y gelwir y mynyddoedd a’r bryniau, ger bron y rhai yr oedd yr achos yn cael ei ddwyn. Gwnaed y rhai hyn yn farnwyr, er dangos fod y ddadl mor amlwg fel y gallai megys y ddaear fud annirnadol ei benderfynu, a chyfaddef iawnder Duw.
Canys dadl sydd rhwng Iehofa a’i bobl,
Ac âg Israel yr ymresyma:
3Fy mhobl, beth a wnaethum i ti?
Ac yn mha beth y blinais di?
Tystiolaetha i’m herbyn:
4O herwydd dygais di i fyny o wlad yr Aipht,
Ac o dŷ y caethiwed y gwaredais di,
Ac anfonais o’th flaen
Moses, Aaron, a Miriam.
5Fy mhobl, cofia, attolwg,
Beth a gynghorodd Balac, brenin Moab,
A pheth a atebodd iddo Balaam, mab Beor,
A pheth a fu o Sittim hyd Gilgal,#6:5 Nis gellir cysylltu y geiriau â’r llinell flaenorol. “Sittim,” oedd yn ngwlad Moab, ond “Gilgal” tuhwnt i’r Iorddonen, yn ngwlad Canaan. Cyfeirir yma at yr hyn a gymerodd le gwedi ymadael o Sittim hyd pan ddaeth y bobl i Gilgal. Rhoer y llinell yma fel y mae yn y Targum, ac yn ddiau yn iawn. — “Cyfiawnderau” o herwydd cyflawniadau oeddent o addewidion. O flaen brawdle cyfiawnder yn unig a olygir.
Fel y gwybyddot gyfiawnderau Iehofa.
6A pha beth y cyfarfyddaf â Iehofa,#6:6 Ateb y bobl ydyw hwn: yr oeddent wedi cael eu gwysio o flaen y frawdle. Cydnabyddent eu bai, a gofynent beth a wnaent er cyfarfod â Duw yn y ddadl hon.
Yr heddychaf#6:6 Neu, yn fwy llythyrenol, “Yr ymostyngaf i Dduw,” &c, gan roddi i fyny yr achos mewn dadl, a cheisio ymheddychiad. Dyma yr ystyr a roir gan y Targum, y Septuagint, a’r Syriac. “Boddloni” yw y gair cyferbyniol yn yr adnod a ganlyn. Dduw yr uchelder?
A wnaf ei gyfarfod â phoethoffrymau,
A lloi blwyddyn oed?
7A foddlonir Iehofa a miloedd o hyrddod,
A deng mil o ffrydiau olew?
A roddaf fy nghyntafanedig am fy nhrosedd,
Ffrwyth fy lwynau am bechod fy enaid?#6:7 Dengys yr ateb y cyfeiliornadau echrydus a goleddai y bobl; yr oeddent yn meddwl fod Duw y nefoedd fel y gau-dduwiau yn derbyn plant yn boethoffrwm! Yr oedd yr arfer ganddynt i offrymu eu plant i Moloc (Ier. 19:5.) a gofynent a fyddai hyn yn gymeradwy gan Dduw. —
8Dangosodd i ti ddyn beth sydd dda;
A pha beth a ofyn Iehofa oddiwrthyt,
Onid gwneuthur uniondeb, a charu trugaredd,
Ac ymostwng i rodio gyda’th Dduw?#6:8 Sonia yn gyntaf am ddyled dyn tuag at ei gymydog, fel y peth mwyaf amlwg; ac yna ei ddyled tuag at Dduw. Gwneir hyn yn aml, er argyhoeddi rhagrithwyr. “Ymostwng,” &c., dyma yr Hebraeg yn gywir, ac nid yn ol y Seisneg. Balchder yn enwedig sydd yn cadw dynion rhag duwioldeb.
9Llef Iehofa! ar y ddinas yn galw;#6:9 Y “ddinas” oedd Ierusalem.
(A’r doeth a ofna dy enw)
Gwrandewch y wialen, a phwy a’i gosododd:
10A oes eto yn nhŷ yr anghyfiawn drysorau anghyfiawnder,
A’r mesur prin, llwyr adgas?
11A wnaf ei chyfrif hi#6:11 Sef y ddinas. yn lân sydd ganddi glorianau anghyfiawn,
A chôd o bwysau twyllodrus?
12Yr hon y bu ei chyfoethogion#6:12 Dyma eiriad o nodwedd neillduol, “yr hon,” ac “ei,” yn dynodi yr un peth; felly yn gywir yr Hebraeg. yn llawn trais,
A’i thrigolion yn traethu celwydd,
A’u tafod yn ddichellgar yn eu genau;
13Tra yr oeddwn I hefyd wedi dechreu dy daro,
Dy ddifrodi o herwydd dy bechodau.#6:13 Hynodrwydd ymddygiad Ierusalem oedd, fod ei thrigolion yn gormesu, yn celwydda, ac yn dwyllodrus, hyd yn nod pan oedd Duw yn eu cosbi, yn eu “taro,” ac yn eu “difrodi.”
14Bwyta a wnai di, ond ni’th ddigonir,
A’th wendid fydd o’th fewn;#6:14 Sef, o herwydd afiechyd tufewnol, nid o herwydd prinder.
Ymafli#6:14 Neu yn ol darlleniad arall, “symudi,” hyny yw, symudi i le dirgel blant neu deulu er eu diogelu; er hyny caent eu rhoddi i’r cleddyf. Yr un yw’r ystyr, yr “ymaflu,” oedd er eu diogelu. hefyd, ond ni waredi,
A’r rhai a waredi, i’r cleddyf a roddaf:
15Ti a haui, ond ni fedi;
Sethri di yr olewydd, ond nid eneini âg olew,
A’r gwin newydd, ond nid yfi win.
16Gan y cedwir deddfau Omri,#6:16 Omri oedd sylfaenydd Samaria, a thad Ahab oedd, a chefnogydd gau-grefydd Ieroboam. Gwel l Bren. 16:16-28.
A’r hyn oll a wnaed gan dŷ Ahab,
Ac y rhodiwch yn ol eu cynghorion,
Am hyny, gwnaf di yn anghyfannedd,
A’th drigolion yn hwtian,#6:16 Neu, “yn wawd;” byddant i gael eu hwtio a’u dirmygu gan eu gelynion.
A gwarth pobloedd a ddygwch.
ទើបបានជ្រើសរើសហើយ៖
Mica 6: CJO
គំនូសចំណាំ
ចែករំលែក
ចម្លង
ចង់ឱ្យគំនូសពណ៌ដែលបានរក្សាទុករបស់អ្នក មាននៅលើគ្រប់ឧបករណ៍ទាំងអស់មែនទេ? ចុះឈ្មោះប្រើ ឬចុះឈ្មោះចូល
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.