Logo YouVersion
Icona Cerca

Salmau 9

9
SALM IX.
7.4.
I’r Pencerdd ar Muth‐labben, Salm Dafydd.
1Molaf di, O Arglwydd Dduw!
A’m holl galon,
Traethu wnaf tra byddwy’ byw
’Th wyrthiau mawrion;
2Llawenychu ynot wnaf —
Gorfoleddaf:
D’ enw’n unig a fawrhâf,
Y Goruchaf.
3Fy ngelynion o dy flaen
A gydsyrthiant
Yn y pydew, ’n fawr a mân,
Ac ni chodant;
4Gwnaethost ti fy marn yn gref
Mewn cyfiawnder,
Oddi ar d’ orsedd yn y nef
Gwnei unionder.
5Ti geryddaist yn dy ŵg
Y cenhedloedd,
Darostyngaist y rhai drwg
Yn dyrfaoedd;
Ti ddilei eu henwau hwy,
6Lu gelynol,
Na bydd sôn am danynt mwy
Yn dragwyddol.
7Ond Iehofah fydd yn ben,
Uniawn lywydd,
Eistedd ar ei orsedd wen
Yn dragywydd;
8Ac efe a farna’r byd
Mewn cyfiawnder,
Barna’r bobloedd oll i gyd
A’i unionder.
9Noddfa hefyd fydd e’i hun
I’r helbulus,
Noddfa’n amser trallod flin,
Gwynt ystormus;
10Pawb a’i hadnabyddant ef
Ynddo gredant,
Gwrandaw’n wastad wna ar lef
Pawb a’i ceisiant.
Rhan II.
11O! canmolwch ef, yr hwn
Drig yn Seion,
Traethwch drwy yr holl fyd crwn
Ei ragorion:
12Pan ’mofyno ef am waed,
Barn a ddyry;
Gwaedd y truan wrth ei draed
Ef a’i gwrendy.
13Arglwydd, wrthyf trugarhâ,
Gwel fy mlinder
Gan y gelyn a’m cashâ
Mewn digllonder;
Fy achubydd ydwyt ti
O byrth angau,
14Yn mhyrth Seion molaf di,
Dduw fy nhadau.
15Syrthiai’r bobloedd yn y ffos
A gloddiasant;
Rhwydau guddient yn y nos
A’u daliasant;
16Yn ei fagl ei hun a’i waith
Syrth yr enwir;
Duw wrth weini uniawn raith
A adwaenir.
17Ymchwel y drygionus rai
Oll i uffern,
A’r rhai anghofiant Dduw ’n ddiau
I’r un gethern;
18Y tylawd o dan ei glwy’
Ni anghofir;
Gobaith y trueiniaid mwy
Ni chyfrgollir.
19Cyfod, Arglwydd, yn dy nerth,
Na orfydded,
Dyn daearol a diwerth —
O distawed!
20Gosod beunydd ofn a braw,
Arglwydd, arnynt,
Fel y teimlont dan dy law
Mai cnawd ydynt.
Nodiadau.
Muth‐labben. — Dyma deitl newydd etto. Myn rhai ei fod yn cyfeirio at Goliath, a buddugoliaeth Dafydd arno, a chymmerant drafferth i nyddu y gair i’r pwrpas, a rhai ymadroddion yn y salm yr un modd. Y mae y deonglwyr hyny yn gweled Goliath mewn llawer o fanau yn y salmau, lle nad oes Goliath, na thebyg iddo, i’w gael, gredwn ni. Arwyddocâd y gwreiddair almuth, medd Kitto, yw, llangcesau, neu wyryfon; a labben a arwyddoca gyda meibion ieuaingc. Felly, y mae y salm yn cael ei chyflwyno i’w chanu gan gôr o ferched a meibion ieuaingc, ac y mae y mynych gyfnewid personau ynddi yn ffafriol i’r deongliad hwn o’r teitl — fod y meibion a’r merched yn canu eu rhanau mewn attebiad y naill i’r llall. Cân foliant am rai o fuddugoliaethau Dafydd ar ei elynion ef a’i wlad ydyw — y Philistiaid, yn benaf, fe ddichon; canys hwynthwy oeddynt elynion penaf a chryfaf Israel yn amser Saul, ac am dymmor yn amser Dafydd. Ond cyn diwedd ei oes ef, yr oeddynt wedi eu llwyr ddarostwng, nad oes mwyach sôn am danynt; ac y mae yr ymadroddion yn adn. 6 a 7 yn gymmhwysiadol iawn at y gelynion hyny, a’u cwymp. Yr oedd buddugoliaeth Dafydd ar ei elynion ef a’i deyrnas megys yn rhag‐efengylu buddugoliaeth ysbrydol y Messiah, drwy weinidogaeth ei ragluniaeth a gair ei ras, ar holl wrthwynebwyr a gelynion ei deyrnas ef:— “Canys rhaid iddo deyrnasu hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed!”

Attualmente Selezionati:

Salmau 9: SC1875

Evidenziazioni

Condividi

Copia

None

Vuoi avere le tue evidenziazioni salvate su tutti i tuoi dispositivi?Iscriviti o accedi