Akara Njirimara YouVersion
Akara Eji Eme Ọchịchọ

Ioan 7

7
Anghrediniaeth Brodyr Crist.
1Ac ar ol y pethau hyn yr Iesu a rodiodd#7:1 Llyth.: a rodiodd oddi amgylch (gan ddysgu). yn Galilea: canys nid oedd efe yn ewyllysio rhodio yn Judea, oblegyd bod yr Iuddewon yn ceisio ei ladd ef. 2A Gŵyl yr Iuddewon, Gwyl y Pebyll#7:2 skênopêgia, llyth.: sefydliad pebyll. [Yma yn unig yn y T. N.]. Cynelid yr Wyl yn yr Hydref (Tisri 15fed — 22ain). Gweler Ex 23:16; 34:22; Lef 23:39, 42, 43; Deut 16:13, am ei sefydliad. Yr oedd yn ŵyl y ‘Cynhauaf gartref,’ yn gystal ag yn adgofiad o'r trigo mewn pebyll yn yr Anialwch (Deut 8:12–17)., oedd yn agos. 3Gan hyny ei Frodyr#7:3 Efallai mai meïbion Joseph o briodas flaenorol a olygir. ef a ddywedasant wrtho, Symud oddi yma, a dos ymaith i Judea, fel hefyd y gwelo dy Ddysgyblion dy weithredoedd di, y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur. 4Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yn ceisio i fod ei#7:4 ei hun א L Tr. Al. WH. Diw.: i'r peth B D La. hun yn gyhoedd#7:4 Llyth.: mewn eofndra.: os wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i'r byd. 5Canys nid oedd hyd y nod ei Frodyr yn credu ynddo#7:5 gyd â ffydd sefydlog: [amser anmherffaith].. 6Dywed yr Iesu gan hyny wrthynt, Nid yw fy amser#7:6 Kairos, cyfleustra, tymhor priodol, amser cyfaddas. [Yma yn unig yn Ioan]. cyfaddas i eto yn bresenol: ond eich amser cyfaddas chwi sydd yn wastad yn barod#7:6 Gan fod eu hyspryd hwy mewn cyd‐gordiad â'r byd, ac nid yn wrthwynebol iddo. Yr oedd efe i aberthu ei hun a marw: yr oeddynt hwy yn rhydd a dyogel oddi wrth hyn.. 7Ni ddichon y byd eich cashâu chwi; ond myfi y mae yn ei gashâu, oblegyd fy mod i yn tystiolaethu am dano, fod ei weithredoedd ef yn ddrwg. 8Ewch chwi i fyny i'r Wyl#7:8 hon א; gad. B D K L T X Brnd.: nid wyf fi#7:8 oupô, nid eto, hyd yn hyn B L Theb. Pesh. La. WH. Diw.: ouk, nid א D, yr Hen Lladin, Vulg. Memphit. Ti. Tr. Al. Y mae yn fwy tebyg fod ouk wedi cael ei newid i oupô na'r gwrthwyneb. yn myned i fyny i'r Wyl hon#7:8 Aeth efe i'r Brif‐ddinas, ond nid gyd â'r rhwysg a'r cyhoeddusrwydd a ddymunai y Brodyr: “nid wyf yn myned,” yn awr, yn bresenol, ac nid “ni fyddaf yn myned.” Aeth i Jerusalem, ond nid i gadw'r wyl fel y gwnelent hwy., oblegyd nid yw fy amser cyfaddas i wedi ei gyflawnu eto. 9Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arosodd yn Galilea.
Taith anghyhoedd yr Iesu i'r Wyl.
10Ond pan yr aeth ei Frodyr ef i fyny i'r#7:10 Felly א B L T X Brnd. D a esyd i'r Wyl ar ol efe ei hun hefyd a aeth i fyny. Wyl, yna efe ei hun hefyd a aeth i fyny#7:10 Ni ddywedir i'r Wyl., nid yn amlwg, ond megys yn ddirgelaidd. 11Yr Iuddewon gan hyny oeddynt yn ei geisio ef yn yr Wyl, ac yn dywedyd, Pa le y mae efe? 12A grwgnach#7:12 goggusmos, lled‐rwgnach, grymial, sibrwd, sisial, heb lefaru allan yn eofn a chyhoeddus. lawer oedd am dano ef yn mysg y torfeydd: rhai a ddywedent, Gwr da yw: ond eraill a ddywedent, Na, eithr cam‐arwain#7:12 Neu, arwain ar gyfeiliorn. y dyrfa y mae. 13Er hyny, nid oedd neb yn llefaru yn agored#7:13 en parrhêsia, mewn eofndra: ni lefarodd neb (1) ei feddwl yn eglur ac hyglyw, neu (2) yn ddiofn. am dano ef o achos ofn yr Iuddewon.
Ei Athrawiaeth o Dduw.
14Ond pan yr oedd weithian ganol yr Wyl, yr Iesu a aeth i fyny i'r Deml, ac a ddysgodd. 15A'r Iuddewon gan#7:15 gan hyny א B D L T X. hyny oeddynt yn rhyfeddu, gan ddywedyd, Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth#7:15 Llyth.: Pa fodd y mae hwn yn gwybod llenyddiaeth [grammata]? Dynoda grammata, llythyrenau, yna, ysgrifeniadau, ysgrythyrau [ta hiera grammata, yr Ysgrythyrau Sanctaidd,] llenyddiaeth: ‘pa fodd y gŵyr hwn lenyddiaeth, ac yntau heb gael ei ddwyn i fyny fel Rabbi Iuddewig’?, ac yntau heb fod wedi dysgu? 16Yr Iesu gan#7:16 gan hyny א B T. Gad. D L X. hyny a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth i nid eiddof fi ydyw, ond eiddo yr hwn a'm hanfonodd i. 17Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a ddaw i wybod#7:17 ginôskô, dyfod i wybod, cydnabod. am y ddysgeidiaeth, pa un ai o#7:17 Yn llawn: allan o [ek] Dduw, oddi wrthyf [apo] fy hun. Dduw y mae, ai fy mod i yn llefaru#7:17 lalô, siarad, gwneyd geiriau. o#7:17 Yn llawn: allan o [ek] Dduw, oddi wrthyf [apo] fy hun. honof fy hun. 18Yr hwn sydd yn llefaru o hono ei hun sydd yn ceisio ei ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a'i hanfonodd ef, hwnw sydd wir, ac anghyfiawnder#7:18 Angyfiawnder yw gwreiddyn celwydd, ac felly yn wrthgyferbyniol i wirionedd neu eirwiredd. nid oes ynddo.
Cyfiawnhâd o'i iachâu ar y Sabbath.
19Oni roddodd Moses i chwi y Gyfraith? Ac nid oes un o honoch yn gwneuthur y Gyfraith: paham yr ydych yn ceisio fy lladd i? 20Y dorf a atebodd#7:20 ac a ddywedodd D. Gad. א B L T X., y mae genyt ti gythraul#7:20 Gr. demon. Efallai na olyga yr ymadrodd fwy na'i fod ef, yn eu barn, yn cael ei feddianu gan ddychymygion ac ofnau disail.: pwy sydd yn ceisio dy ladd di? 21Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu o herwydd hyn#7:21 Rhai o'r prif feirniaid [Ewald, Godet, Hengstenberg, Lucke, De Wette, Stier, Tregelles, &c.] a gysylltant dia touto, o herwydd hyn, â'r adnod hon, fel uchod. Eraill [Luther, Bengel, Meyer, Alford, Westcott a Hort, &c.], â'r adnod ganlynol. Y mae fel yn y Testyn yn eithriadol i arferiad ac arddull Ioan (6:65; 8:47) ond y mae yn ymddangos i ni yn fwy eglur a naturiol.. 22Moses sydd wedi rhoddi i chwi yr Enwaediad#Lef 12:1–3. nid am ei fod o Moses#7:22 H. Y. Nid oedd yr enwaediad yn perthyn i'r egwyddorion sylfaenol a thragywyddol a gynwysir, dyweder, yn y Deg Gorchymyn, ond i'r rheolau, neu yr ordinhadau a gedwid o Abraham i lawr, fel yn angenrheidiol i lês a ffyniant y genedl, yn ol yr amodau a osododd Duw., ond o'r Tadau#Gen 17:9–14 ac ar ddydd Sabbath chwi a enwaedwch ddyn. 23Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar ddydd Sabbath, fel na thorer Cyfraith Moses, a ydych yn llidiog#7:23 cholâô [yma yn unig yn y T. N.] o cholê, bustl, yna, chwerwedd, dygasedd, digter, llid. wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn cyfan#7:23 Felly yw y cyfieithiad cywiraf. Am “i mi wneuthur dyn yn holliach,” dywed Paley, un o'r rhai mwyaf hyddysg yn y Groeg: Such a rendering is utterly opposed to the laws of the Greek language. Felly y darllena y Vulgate a'r Lladin yn D: Quod totum hominem sanum feci in Sabbato. Y cyferbyniad sydd rhwng rhan o'r dyn yn yr Enwaediad â'r holl ddyn yn yr iachâd gan Grist. yn iach ar ddydd Sabbath? 24Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch y farn gyfiawn.
Adnabod Crist heb ei adnabod.
25Dywedodd gan hyny rai o'r Jerusalemiaid, Onid hwn yw yr un y maent hwy yn ceisio ei ladd? 26Ac wele y mae yn llefaru yn eofn#7:26 Neu, ar gyhoedd: gweler 4, 13, 18, 20., ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef! A ddaeth y Llywodraethwyr erioed i wybod#7:26 ginôskô, dyfod i wybod. mewn gwirionedd mai hwn yw y Crist#7:26 Y mae ffurf y gofyniad yn dysgwyl yr ateb yn y nacaol [mê potê].#7:26 yn wir Δ E; gad. א B D L Brnd.? 27Eithr yr ydym ni yn adwaen hwn o ba le y mae: eithr y Crist, pan y mae yn dyfod, nid oes neb yn gwybod#7:27 ginôskô, dyfod i wybod. o ba le y mae#7:27 Efallai seiliedig ar Es 53:8 “Pwy a draetha ei genedlaeth?” Yr oedd traddodiad yn mhlith yr Iuddewon na fyddai neb yn adnabod rhieni y Messïa [6:42].. 28Yr Iesu gan hyny a lefodd allan yn y Deml, gan ddysgu a dywedyd, Chwi a'm hadwaenoch i#7:28 O ran ei berson a'i amgylchiadau daearol., ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: eto, nid ydwyf wedi dyfod o honof fy hun, ond yr hwn a'm hanfonodd i sydd yn un gwirioneddol#7:28 alêthinos, gwir, sylweddol, gwirioneddol (mewn cyferbyniaeth i ffugiol a thwyllodrus)., yr hwn nid adwaenoch chwi. 29Myfi a'i hadwaen ef, canys oddi wrtho#7:29 para, oddi wrth, o bresenoldeb, fel o'r un natur âg ef, ac fel ei genad. ef yr ydwyf fi, ac efe a'm hanfonodd i. 30Am hyny yr oeddynt yn ceisio ei ddal ef; eto, ni osododd#7:30 Llyth.: thaflodd. neb law arno ef, canys nid oedd ei Awr ef eto wedi dyfod.
31Ond o'r dyrfa llawer a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo y Crist, a wna efe fwy o arwyddion na'r#7:31 Na'r rhai hyn E; na'r rhai א B D L, &c., Brnd. rhai a wnaeth hwn?
Ei ymweliad byr a'i ymadawiad hir.
32Y Phariseaid a glywsant y dyrfa yn sibrwd#7:32 Llyth.: grwgnach, yna sisial, sibrwd. y pethau hyn am dano; a'r Arch‐offeiriaid#7:32 Felly א B D G L, &c. Phariseaid a'r Arch‐offeiriaid E. a'r Phariseaid a anfonasant is‐swyddogion, fel y dalient#7:32 piazô, fel yn adnod 30, cymmeryd gafael, cipio, dal. ef. 33Am hyny y dywedodd yr Iesu#7:33 wrthynt, T; gad. א B D., Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyd â chwi, ac yr wyf yn myned ymaith at yr hwn a'm hanfonodd. 34Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod.
35Yr Iuddewon gan hyny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, I ba le y mae hwn a'r fedr myned#7:35 Defnyddir tri gair a gyfieithir myned neu fyned ymaith, sef, hupagô (adn 33) ‘yr wyf yn myned ymaith, yn ymadael, ymneillduo,’ gan ddangos gweithred bersonol Crist. Yn yr adnod hon defnyddir poreuomai, myned gyd â bwriad neu amcan neillduol, ar genadwri benodedig. Y prif feddwl yn y cyntaf yw ymadawiad â'r byd; yn yr ail mynediad i le arall neu at berson arall. Y trydydd gair aperchomai a ddynoda gwahaniad yn unig. Gweler 16:7–10., fel na chaffom ni ef? Ai at y rhai sydd ar wasgar#7:35 Gr. Diaspora, y Gwasgariad, sef yr Iuddewon gwasgaredig yn mhlith y rhai a lefarent yr iaith Roeg. Gelwid yr Iuddewon hyn y Gaethglud (Metoikesia, cyfnewidiad trigfa) yn eu perthynas â'u gwlad eu hunain, a'r Gwasgariad (Iago 1:1; 1 Petr 1:1) yn eu perthynas a'r gwledydd lle y trigent, megys yr Aifft, Babylonia, a Syria. Dynoda Groegiaid yn wastad yn y T. N. Genedloedd, ac nid Iuddewon a lefarent Roeg. Y blaenaf a elwir Hellênês a'r olaf Hellenistai. yn mhlith#7:35 Llyth.: o'r. y Groegiaid y mae ar fedr myned, a dysgu y Groegiaid? 36Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr wyf fi, ni ellwch ddyfod?
Addewid o'r Yspryd Glân.
37Ac ar y dydd diweddaf, dydd mawr#7:37 Yr wythfed, yr hwn a gedwid fel Sabbath (Lef 23:39; Num 21:9, 36–38) ac a elwid Dydd yr Hosanna Mawr. Y mae geiriau Crist yn cyfeirio at Ffynon Siloam, i'r lle yr elai offeiriad gan dynu ystenaid o ddwfr, ac a'i dygai i'r Deml, pan y bloeddiai y bobl, “Gyd â llawenydd y tynwch ddwfr o ffynonau iachawdwriaeth,” gan efallai gyfeirio at y Graig a darawodd Moses yn yr Anialwch. Rhai a ddywedant na chymmerai hyn le ar yr wythfed dydd, ond ar y saith eraill yn unig: os felly, y mae geiriau Crist yn fwy tarawiadol fyth. yr Wyl, yr Iesu a safodd i fyny#7:37 Grym y gair ydyw, a gymmerodd ei safle., ac a lefodd allan, gan ddywedyd, Os sycheda neb, deued ataf#7:37 ataf fi B L Brnd. ond Ti.; gad. א B Ti. fi, ac yfed. 38Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megys y dywedodd yr Ysgrythyr,
Afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o'i ymysgaroedd#7:38 Koilia, y bol, ymysgaroedd, yr ystumog, y groth. Hefyd fel y gair Hebraeg betten, y rhan dufewnol o ddyn, y galon, yr enaid (Diar 18:8; Hab 3:16; Job 15:35). Y mae y galon yn un o'r splangchna, ymysgaroedd. Cyfieitha Luther, Lange, &c., corff; Chrysostom, calon. Y mae y credadyn yn Deml i Yspryd Duw. Dywedir fod ffynon yn tarddu o dan y Deml yn Jerusalem, yr hon a gyflenwai yr holl lynoedd, &c., yn y Ddinas. Darllener Esec 47:1–12 (yn enwedig adnod 9) a Zech 14:8. Os Crist yw y Llyn Siloam, y credadyn yw yr ‘ysten aur’ a gynwys y dwfr bywiol er disychedu'r byd. Rhydd y geiriau hyn sylwedd amryw ranau o'r Hen Destament.:#Esec 47:1–12; Zech 14:8; Salm 78:18–20; 105:41.
39Hyn a ddywedodd efe am yr Yspryd, yr hwn yr oedd y rhai a gredent ynddo ef ar fedr ei dderbyn#Joel 2:28, 29. canys hyd yn hyn nid oedd Yspryd Glân#7:39 Glân B D L X Δ, 1, 33, 67 Syr‐Hel. Goth. Eth. [Al.] [Tr.]. Gad. א T K Vul. Pesh. Memph. Theb. Arm. Ti. WH. Diw. [wedi ei roddi;]#7:39 Nid oedd yr Yspryd wedi cael ei dywallt, neu ei roddi fel y Diddanydd neu Ddadleuwr. Cyfeirir yma, nid at ei bersonolrwydd ond at ei weithrediadau. Dangosir hyn trwy adawiad allan y fannod. Nid ydoedd yr Yspryd eto yn rodd Crist i'w Eglwys ac i aros ynddi.#7:39 wedi ei roddi B Vulg. Pesh. La.; gad. א T K Brnd. ond La. canys yr Iesu ni ogoneddasid eto.
Ymraniad yn mhlith y bobl.
40 Rhai # 7:40 Llawer Γ Δ. Gad. א B D L Brnd.: [Llyth.; O'r Dyrfa; cyflenwer Rhai ]. o'r dyrfa gan hyny, wedi clywed y#7:40 y geiriau hyn א B D L Brnd.: y gair (yr ymadrodd) X. geiriau hyn, a ddywedasant,
Hwn yn wir yw y Proffwyd#Deut 18:15–22
41Eraill a ddywedasant,
Hwn yw y Crist#Salm 2.
Ond rhai a ddywedasant, Beth! A ydyw y Crist yn dyfod allan o Galilea? 42Ai ni ddywedodd yr Ysgrythyr, mai o hâd Dafydd#Jer 23:5, 6. o Bethlehem#Mic 5:2. y dref lle y bu Dafydd, y mae y Crist yn dyfod? 43Am hyny dygwyddodd ymraniad#7:43 schisma, rhwygiad, rhwyg, “gwaeth rhwyg” Mat 9:16. Yn y T. N. ni ddynoda ymraniad oddiwrth eglwys, sef ystyr schism mewn amseroedd diweddar, ond ymraniadau ac ymrafaelion yn yr eglwysi (1 Cor 1:10; 12:25; Act 14:4 &c.) yn mhlith y dyrfa o'i achos ef. 44A rhai o honynt a fynasent ei ddal ef: ond ni roddodd neb ddwylaw arno ef.
45Daeth yr is‐swyddogion gan hyny at yr Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid; a'r rhai hyny#7:45 Sef yr olaf, yr Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid. Awgryma y gair eu bod yn atgas gan yr Efengylwr. a ddywedasant wrthynt hwy, Paham na ddygasoch chwi ef? 46Yr is‐swyddogion a atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel#7:46 fel hyn B L T X La. Ti. WH.; fel y dyn hwn [Al.] [Tr.] hyn. 47Y Phariseaid gan hyny a atebasant iddynt, A ydych chwithau hefyd wedi eich arwain ar gyfeiliorn? 48A gredodd neb o'r Llywodraethwyr ynddo ef, neu o'r Phariseaid? 49Eithr y dyrfa hon nad yw yn gwybod y Gyfraith, melldigedig ydynt. 50Y mae Nicodemus yn dywedyd wrthynt hwy, (yr hwn a ddaeth ato ef o'r#7:50 o'r blaen B L T Brnd. ond Ti. Gad. yr holl frawddeg rhwng cromfachau hyd ac oedd un o honynt, gan א. Rhoddir ar hyd nos gan D E G H X Δ. Y mae y llaw‐ysgrifau yn amrywio yn ddirfawr. blaen, ac oedd un o honynt), 51A ydyw ein Cyfraith ni yn barnu y dyn, oddi eithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod pa beth y mae yn ei wneyd#Deut 1:16, 17? 52Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A wyt tithau hefyd o Galilea? Chwilia a gwel#7:52 Neu, Chwilia a gwel: canys nid oes, &c., nad oes un proffwyd yn cyfod o Galileia.#7:52 NODIAD. Ar yr adran 7:53—8:11, sef, “Hanes y wraig a ddaliwyd mewn godineb”. Ni cheir yr hanes hwn yn un o'r llawysgrifau henaf. Gadewir ef allan yn y rhai canlynol:— A א B C T L X Δ. Y mae yn wir fod A a C yn ddiffygiol yn y fan hon: eto, gellir cyfrif nad oedd lle i'r hanes yn y rhanau sydd ar goll. Hefyd y mae y cyfieithiadau henaf yn hollol anffafriol i'w dderbyn fel rhan o'r wïr Efengyl. Nid yw yr adnodau hyn yn yr Hen Gyfieithiad Lladin, yn y Sahidaeg, y Gothaeg, ac yn yr awdurdodau goreu o'r Coptaeg, Armeniaeg, a'r ddau gyfieithiad Syriaeg. Dywed un na chrybwyllir am y rhan hon “gan y Tadau dwyfol, y rhai a ddeonglasant yr Efengyl, hyny yw, Chrysostom, a Cyril, a Theodore o Mopsuestia, ac ereill.” Yr un peth ellir ddywedyd am Origen, Tertullian, a Basil. Ysgrifenodd Tertullian lyfr, De Pudicitia(Ar Ddiweirdeb), a Cyprian ar Dderbyniad personau godinebus i edifeirwch; ac eto, nid oes cyfeiriad at y wraig hon yn yr un o honynt. Pan yn ysgrifenu am waith Papias, yr hwn fu byw yn yr ail canrif, dywed Eusebius, — “Y mae hefyd wedi gosod allan hanes rhyw wraig a gyhuddid o flaen ein Harglwydd o lawer o bechodau, yr hyn hefyd a roddir yn yr Efengyl at yr Hebreaid.” Cyfeiria Eusebius yn ddiamheu at y wraig a ddaliwyd mewn godineb; ond y mae ei iaith yn dangos nad yw efe yn ystyried yr hanes fel yn perthyn i'r Efengylau Canonaidd. Nid yw ychwaith yn Llithlyfr (Evangelistarium)Eglwys Groeg, gan fod hwnw wedi ei gasglu cyn i'r hanes hwn gael ei ystyried fel yn perthyn i'r wir Ysgrythyr. Ar y llaw arall, ceir ef yn nghyfieithiad Jerome, y cyfieithiad Sclavonaidd, mewn rhai o'r llawysgrifau prif‐lythyrenol diweddaraf, ac mewn amryw o'r llawysgrifau rhedegog. Mewn pedair o'r dosparth olaf (13, 69, 124, 346), gosodir ef ar ddiwedd Luc 21; ac mewn un arall (225) ar ol Ioan 7:36. Fel hyn, gwelwn ei fod yn absenol o'r holl lawysgrifau Groeg cyn yr wythfed canrif gyda'r eithriad o D; ac nid oes ond un cyfeiriad tuag ato yn holl ysgrifeniadau y Tadau Groegaidd fuont byw cyn y ddeuddegfed canrif. Ni cheir ef ychwaith yn un o'r cyfieithiadau Dwyreiniol, gyda'r eithriad efallai o'r Ethiopaeg. Er hyny yr oedd mewn ffafr er yn foreu gyda'r ysgrifenwyr Lladinaidd. Dywedai Awstin fod yr adysgrifenwyr wedi ei ddileu o'u copiau, oblegyd eu bod yn tybied ei fod yn dysgu y gall dynion bechu yn ddigosp. Os oedd y rhan hon yn perthyn i'r Efengyl wreiddiol, nis gallwn mewn un modd gyfrif am ei gadawiad allan. Ond ar y llaw arall, os nad yw ond ychwanegiad diweddarach, y mae yn hawddach cyfrif am ei gosodiad i fewn. Rhydd hanes dygwyddiad hynod a rhyfeddol yn mywyd Crist. Dengys Ef yn mawredd ei gariad yn dyner iawn at bechadures edifeiriol; ac os nad oedd yr hanes calon‐gyrhaeddol yn perthyn i un o'r Pedair Efengyl, eto, dylid gofalu ei gadw mewn cof. Darllena Ioan 8:15 fel hyn, — “Chwychwi sydd yn barnu yn ol y cnawd; nid ydwyf fi yn barnu neb;” a barnai yr hwn a osododd yr hanes i fewn (Papias efallai) fod y fan hon yn briodol iawn iddo. Hoff‐waith Papias ydoedd ‘esbonio oraclau ein Harglwydd,’ a byddai ystori y wraig yn esboniad da ar yr adnod uchod. Y mae yn amlwg na chafodd ei hysgrifenu gan Ioan. Nid yw yr iaith na'r arddull yn cyfeirio ato ef fel yr awdwr; ac mor bell ag y mae tystiolaeth dufewnol yn myned, nid yw yn berthynasol â'r cyd‐destyn. Y mae yn wir fod tebygolrwydd rhwng adnod 11 ac adnod 15; ond nid yw hyn yn profi dim. Ar y llaw arall, symuder yr hanes hwn, a symudir pob anhawsder oddiar y ffordd. Heb wneyd hyny, byddwn mewn dyryswch. Er enghraifft, yn adnod 10 darllenwn “A'r Iesu wedi ymunioni, ac heb weled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhuddwyr di?” Yr oeddynt oll wedi myned. Ond yn adnod 12 darllenwn, “Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn.” Wrth bwy? Wrth y rhai a enwir yn y bennod flaenorol; a darllener adnod 12 o'r wythfed bennod ar ol adnod 52 o'r seithfed, ac y mae yr oll yn eglur a naturiol. Adnod 52, “Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A ydwyt tithau o Galilea? Chwilia a gwel na chododd proffwyd o Galilea.” Adnod 12, “Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn, gan ddywedyd, Goleuni y byd ydwyf fi.” Heblaw hyn, y mae yr hanes hyn yn tori i fewn ar ddygwyddiadau y dydd hwn, ac ymddyddan ein Harglwydd ar y pryd. Os gadewir ef allan, y mae “y dydd diweddaf, y dydd mawr o'r wyl,” sef Gwyl y Pebyll, yn nodedig am ddau ymadrodd rhyfeddol Crist, sef, “Od oes ar neb syched, deued ataf fi, ac yfed” (Ioan 7:37), a “Goleuni y byd ydwyf fi” (Ioan 8:12); ac yr oedd y ddau ymadrodd hyn yn cyfateb i'r ddwy weithred arwyddluniol a choffhâol a gyflawnid ar yr wyl hon, sef, tywallt allan y dwfr a chyneu y lampau aur: ond os yw yr hanes uchod i'w osod i fewn, ni lefarwyd yr adnod olaf uchod ar ddydd yr Wyl, ond ar y dydd ar ol hyny. Pan yr ystyrir yr holl brawfion, deuwn i'r penderfyniad i'r hanes uchod ymddangos yn gyntaf mewn testyn Gorllewinol, ac iddo ddyfod i fewn yn raddol i destynau ereill. Nid yw yn annhebyg iddo gael ei drawsffurfio naill ai o'r Efengyl at yr Hebreaid, neu o Esboniadau Oraclau yr Arglwyddgan Papias. Y mae yn sicr nad oedd ond mewn ychydig o gopïau cyn yr wythfed canrif. Gwnaeth ei roddi yn y Vulgate roddi iddo fwy o gylchrediad ac awdurdod nag a haeddai. Ni chredai Erasmus yn ei burdeb; ond dywedai, gan ei fod wedi cael ei dderbyn mor gyffredinol, nad oedd efallai yn briodol i'w adael allan. Mewn cyfieithiad diwygiedig, dylai gael ei wahaniaethu oddiwrth y cyd‐destyn, trwy gael ei osod rhwng cromfachau. Gadewir yr adran allan o'r Testyn gan La. Ti. Tr. Al. WH., a gwahanir hi oddiwrtho gan y Diwygwyr Seisnig.
Y wraig a ddaliwyd mewn godineb.
53[A hwy a aethant bob un i'w dy ei hun.

Nke Ahọpụtara Ugbu A:

Ioan 7: CTE

Mee ka ọ bụrụ isi

Kesaa

Mapịa

None

Ịchọrọ ka echekwaara gị ihe ndị gasị ị mere ka ha pụta ìhè ná ngwaọrụ gị niile? Debanye aha gị ma ọ bụ mee mbanye