Akara Njirimara YouVersion
Akara Eji Eme Ọchịchọ

Luwc 22:40-46

Luwc 22:40-46 CJW

Gwedi cyrhaedd yno, efe á ddywedodd wrthynt, Gweddiwch na byddo i chwi ymroddi i brofedigaeth. Yna, gwedi iddo gilio oddwrthynt tuag ergyd càreg, efe á aeth àr ei liniau ac á weddiodd, gàn ddywedyd, O Dad, os wyt yn ewyllysio, cỳmer y cwpan hwn oddwrthyf; èr hyny, nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti, á wneler. Ac angel o’r nef á ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef. Ac efe mewn ymdrech meddwl, á weddiodd yn ddyfalach, a’i chwys oedd fel tolchenau o waed yn disgyn àr y ddaiar. Pan gododd efe o’i weddi, a dychwelyd at y dysgyblion, efe á’u cafodd hwynt yn cysgu, gwedi eu gorthrechu gàn dristwch; ac á ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? Codwch a gweddiwch, rhag i’r brofedgaeth eich gorchfygu chwi.